02/02/2021
09:30 – 14:30
Sesiwn ar-lein hanner diwrnod
Mae’r adroddiad yn 2015 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Astudiaeth Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn datgan bod “Corff cynyddol o dystiolaeth bod ein profiadau yn ystod plentyndod yn gallu effeithio ar iechyd ar hyd cwrs bywyd. Mae plant sy’n profi plentyndod ansawdd isel, sy’n llawn straen yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy’n niweidio iechyd yn ystod y glasoed, a gall hynny yn ei dro arwain at salwch meddwl ac afiechydon fel canser, clefyd y galon a diabetes yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Nid dim ond yng nghyswllt iechyd mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn destun pryder. Mae profi ACEs yn golygu bod unigolion yn fwy tebygol o gyflawni’n wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol o ymwneud â throseddu, ac yn y pen draw yn llai tebygol o fod yn aelod cynhyrchiol o’r gymdeithas”.
Bydd y cwrs hwn yn archwilio Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, hawliau plant a’r cysyniad o blentyndod, gwydnwch da a sut i adeiladu gwydnwch mewn plant i ymdopi â lliniaru effeithiau Profiadau Plentyndod Cynnar.
Mae’r cwrs wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn cyd-destun proffesiynol ac sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Nodau’r cwrs yw:
- Archwilio Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Cael gwell dealltwriaeth o’u heffaith ar blant ac oedolion yn y dyfodol
- Cael gwell dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, cam-drin domestig a thrais a’u heffaith ar blant
- Archwilio plentyndod “Da”
- Cynyddu’r wybodaeth o Gydnerth
- Bod â sgiliau a hyder i adeiladu gwydnwch gyda phlant a phobl ifanc