16, 17 & 18/02/2021
09:30 – 12:30

Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu, unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i gynifer o oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae gan y Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant rôl hanfodol o fewn sefydliadau sy’n helpu i sicrhau bod mesurau diogelwch digonol ar waith a bod camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan godir pryderon am blentyn.