Gweminar: Nid prosiect yw cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, mae’n hawl!
Dydd Llun 2 Tachwedd
2.00 – 4.00pm GMT
Ffurflencaddw lle
Manylion y Gweminar
Mae’r gweminar hon yn rhannu sut gall plant a phobl ifanc gyfrannu at benderfyniadau cyfreithiol ynghylch cyswllt â phlant, yng nghyd-destun trais domestig. Yn seiliedig ar brosiect 5 gwlad, Gwella Cyfiawnder Cyswllt Plant, bydd y gweminar yn cyflwyno ac yn trafod sut gall plant a phobl ifanc, sydd wedi profi trais domestig, fynegi eu barn a’u gwybodaeth er mwyn gwella systemau a phrosesau.
Bydd siaradwyr gwadd o Bortiwgal a’r Alban yno, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiectau cyfranogiad IJCC. Cyflwynir y gweminar yn Saesneg, gyda grwpiau trafod ar gael yn Saesneg, Bwlgareg, Groeg, Portiwgaleg, a Rwmaneg.
Bydd y seminar yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym maes cyfranogiad plant a phobl ifanc. Bydd o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc sy’n profi trais domestig:
- mewn cyd-destun cyfreithiol (erlynwyr cyhoeddus, barnwyr a chyfreithwyr)
- yn y gwasanaethau cymdeithasol (canolfannau cymorth i ddioddefwyr trais domestig, llochesi, canolfannau goruchwylio ymweliadau, timau cymorth llysoedd, pwyllgorau lleol ar gyfer amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc)
- yn y sectorau Hawliau Plant a Menywod, a’r rheiny sy’n gweithio gyda menywod a’u plant.