Fel pob person ifanc, mae plant a phobl ifanc sydd mewn neu yn gadael gofal gyda anghenion, diddordebau ag cymhellion ei hunain i’w dysgu. Mae nhw angen myniediad i ystod o ddarpariaethau dysgu sydd yn darparu mynediad i lwybrau priodol sydd yn eu galluogi i ddatblygu y sgiliau mae nhw eu angen i arwain bywydau llawn, actif ac anibynnol fel gweithwyr ifanc, rhieni a dinasyddion.
Yn ystod 2016, gweithiodd Y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd ar gyfer darparwyr ar draws y sector dysgu a sgiliau, gan gynnwys sefydliadau addysg pellach, darparwyr dysgu yn y gwaith, sefydliadau addysg uwch a gwasanaethau dysgu ieuenctid, oedolion a chymunedau- Mae pob un o rhain gyda rol allweddol i chware wrth alluogi plant a phobl ifanc sydd mewn neu yn gadale gofal i gyrraedd eu potensial.
Lawrlwytho Pecyn Cymorth Ymadawyr Gofal Ymweld â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer Arweinwyr Gofal Mae’r adnodd yma yn dilyn pedwar adran allweddol Buttle UK Quality Mark Framework yn agos. Rhain yw:
Codi dyheadau ac allgymorth cyn mynediad
Cais, mynediad a sefydlu
Cefnogaeth barhaus
Monitro canlyniadau ac effaith
Yn yr adnodd, fe welwch engreifftiau o ymarferion da ac cwestiynau myfyriol i asesu perfformiad cyfredol ymhob un o’r adranau hyn.
Bydd hyn yn galluogi darparwyr unigol i osod eu targedau SMART eu hunain ar gyfer datblygu eu darpariaeth a’u cefnogaeth i blant a phobl ifanc mewn neu’n gadael gofal.
Ar yr 19eg o Dachwedd, bu ymarferwyr yn ymgynnull ifynychu cynhadledd ‘Magu ein plant: Dyfodol Gofal Preswyl’ yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, er mwyn gwrando a thrafodymchwil ar faterion sy’n berthnasol i ddyfodol gofal preswyl.
Dr Alyson Rees o Brifysgol Caerdydd oedd y croesawumynychwyr y digwyddiad ac yn agor y trafodaethau. Roedd y sesiynau boreol yn canolbwyntio ar ddau recordiad ‘Lleisiau o Ofal’ (Voices from care) a chyflwyniadau gan Professor Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru) a Professor David Berridge o Brifysgol Bryste.
“Mae hawliau plant ynhynodbwysig”
Agorodd gyflwyniad Professor Holland “Polisi datblygiadauYng Nghymru ers cyhoeddiad adroddiad ‘Right Care’” (Policy developments in Wales since the publication of the Right Care Report) drwy gyfeirio at gyfrifon llaw gyntaf a theimladwy’r recordiadau o ‘Lleisiau o Ofal; Byw o fewn a gadael gofal’ (Voices from Care: Living and Leaving). Siaradodd Sally Holland am bwysigrwydd cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau gangyfeirio at yr adroddiad ‘Uchelgeisiau cudd’ (Hidden Ambitions) wrth sôn bod angen i ni gynnig y gefnogaethbriodol i bobl sy’n gadael gofal cymdeithasol i allu cyrraeddeu huchelgeisiau. Yn ogystal, nododd bod trafodaethau yncael eu cynnal ar hyn o bryd i geisio eithrio pobl ifanc syddnewydd adael gofal cymdeithasol o orfod talu treth gyngornes eu bod yn 25. Gorffennodd wrth bwysleisio bod angendarpariaeth gadarn i’r bobl ifanc sydd ei angen, yn o gystal â phobl a gofynion therapiwtig, gofynion gofal cymdeithasol ac er mwyn cadw pobl niweidiol yn ddiogel.
“Dylaipoblifancalluarosyngngofalpreswylneseu bod ynbarodiadael a ddimcaeleugwthioiadaelynrhyfuan. Dylaicyn-breswylwyrdderbyncefnogaethbarhaol.”
Nesaf, cafodd ‘Dyfodol gofal preswyl’ ei gyflwyno ganProfessor David Berridge o Brifysgol Bryste. Mae David ynweithiwr gofal preswyl gyda gwerth 30 mlynedd o ymchwil iwasanaethau plant ac wedi cynnal sawl astudiaeth ar ofalpreswyl. Yn ystod ei gyflwyniad, soniodd am y stigma sy’ngysylltiedig â gofal preswyl ac am y gostwng cyson o’rdefnydd ohono fyd eang- Yn Lloegr, mae’r defnydd ohonowedi lleihau o 40 mil I 8 mil mewn 40 mlynedd.
Nesaf, cafodd ‘Dyfodol gofal preswyl’ ei gyflwyno ganProfessor David Berridge o Brifysgol Bryste. Mae David ynweithiwr gofal preswyl gyda gwerth 30 mlynedd o ymchwil iwasanaethau plant ac wedi cynnal sawl astudiaeth ar ofalpreswyl. Yn ystod ei gyflwyniad, soniodd am y stigma sy’ngysylltiedig â gofal preswyl ac am y gostwng cyson o’rdefnydd ohono fyd eang- Yn Lloegr, mae’r defnydd ohonowedi lleihau o 40 mil I 8 mil mewn 40 mlynedd.
“Roeddynddechreuadarsawlgyfeillgarwchnewydd”
Mi barhaodd y pnawn gydag ail recordiad o “Lleisiau gofal: Cyfleoedd” a phanel yn trafod “Ein dyfodol, ein lleisiau: gofal– gweledigaeth brofiadol i ofal preswyl” gyda Sean O’Neill (Plant yng Nghymru) Chris Dunn (Lleisiau o Ofal) a dauberson ifanc gyda phrofiad o ofal preswyl. Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd oedd ‘sut allai’r trosglwyddiad o ofalpreswyl i fywyd annibynnol gael ei wella?’ a ‘sut hoffech chi weld gofal preswyl yn newid yn y dyfodol?’ Roedd cael deallo safbwynt pobl gyda phrofiad llaw gyntaf o ofal preswyl ynrhan amhrisiadwy o’r diwrnod, gyda llawer o’r mynychwyryn cymryd rhan yn y sesiwn a ddilynodd.
Cerddiganrhai o blantyngngofalpreswylynbresennol:
Ar ôl hynny bu cyflwyniad “’Creu cartref’ mewn gofalpreswyl” gan Professor Claire Cameron o UCL ac yn cau’rdiwrnod oedd cyflwyniad Lucy Treby (Gofal cymdeithasolCymru): Gofal cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r gweithlu iarwain at ganlyniadau da i blant. ‘Social Care Wales Supporting the workforce to deliver good outcomes for children’.
Deall y profiadau a barnau pobl ifanc gyda phrofiad o ofal a gofalwyr maeth yng Nghymru.
Yn ystod 2018, rhedodd Canolfan Mileniwm Cymru rhaglen wedi seilio ar gelfyddydau a gafodd ei ariannu a chefnogi gan y Consortiwm Hyder mewn Gofal wedi arwain gan Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru. Dosbarthwyd y rhaglen rhwng Mai a Gorffennaf ac roedd wyth person ifanc gyda phrofiad o ofal a’u teuluoedd maethu yn gysylltiedig. Comisiynodd Prifysgol Caerdydd gan y Ganolfan Mileniwm Cymru i arwain ymchwil gyda phobl ifanc gyda phrofiad o ofal a’u gofalwyr maeth, a hwyluswyr yn ymwneud â’r dosbarthiad o’r prosiect celfyddydau. Roedd y cysylltiad o’r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymwneud â phrosiectau cynt gyda CASCADE: Canolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant.
Amcanodd yr ymchwil i asesu’r sail adnabyddiaeth yn ymwneud ag ymrwymiad plant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal gyda’r celfyddydau, ac i archwilio’r barnau o hwyluswyr, pobl ifanc a’u gofalwyr wedi cysylltu i’r rhaglen sail-celfyddydau yn y Ganolfan Mileniwm Cymru.
Amcan 1: Coladu ac adrodd data a llenyddiaeth benodol.
Amcan 2: Arwain astudiaeth drylwyr ac ansoddol gyda hwyluswyr rhaglen, pobl ifanc gyda phrofiad o ofal, a’u teuluoedd maeth i ddarparu mewnwelediad i’w brofiad o gysylltu gyda’r rhaglen sail-celfyddydau, a barnau nhw ar beth gall cael ei wneud i wella’r model a hybu ymrwymiad gyda’r celfyddydau yn eangach.
Roedd y prosiect yn cynnwys ystod o weithgareddau megis canu, drama, gemau, dyluniad cymeriad a chreu pypedau. Roedd yna sesiwn gyda’r pypedwyr o’r cynhyrchiad theatr War Horse ac roedd pawb yn medru gwylio War Horse yn yr wythnos olaf. Cymerodd y gofalwyr maeth rhan yn rhai o’r gweithgareddau ac roedd eraill ond am bobl ifanc. Hefyd cwblheuodd pobl ifanc tystysgrif Gwobr Celfyddydau yn y datblygiad o’u sgiliau celfyddydau ac arweiniad. Er roedd y prosiect wedi amcanu tuag at bobl ifanc, gwnaeth gofalwyr maeth mwynhau cymryd rhan yn y gemau a gweithgareddau creadigol. Hefyd adroddon nhw fudd go iawn o gwrdd â gofalwyr maeth eraill a chreu rhwydweithiau cefnogol newydd. Adroddodd y bobl ifanc ystod eang o fuddion, yn cynnwys gwell hyder, dysgu sgiliau creadigol newydd, gwaith tîm, amynedd, a chreu ffrindiau.
“Dysgais i fy mod yn greadigol. Dysgais sut i wneud i byped symud a sut mae ceffylau yn symud a cherdded.” Charley
“Dysgais sut i oroesi heriau a chael hwyl. Dysgais sut i fod yn hyderus o gwmpas eraill.” Amy
“Gweithiom ni ynghyd fel tîm. Roedd gweithio mewn tîm yn ARBENNIG!” Ebony
“Rydw i’n falch o fy hun am ddim mynd i wrthdaro a llwyddais i greu ffrindiau ac mae fy hyder yn well.” Bella
Aeth y buddion yn bellach na’r prosiect a defnyddiodd y bobl ifanc beth roedden nhw wedi dysgu yng nghyd-destunau eraill megis dosbarthau drama a chelf yn yr ysgol. Aeth dau berson ifanc ymlaen i ymuno â grŵp drama a pherfformiwyd mewn sioe ddiweddar. Siaradodd gofalwyr maeth am sut roedd y bobl ifanc maen nhw’n gofalu amdano wedi cynyddu mewn hyder ar hyd y prosiect, fel gwnaeth yr hwyluswyr a welodd trawsnewidiad go iawn yn y bobl ifanc. Mynychodd y tîm ymchwil y sesiynau yn ogystal â chyfweld pawb ac roedd wedi ymrwymo, a gwelsant nhw’r effaith arwyddocaol roedd y prosiect wedi cael ar bawb.
Cododd adroddiad y prosiect cyfres o 18 awgrym yn cynnwys; Dylai astudiaethau dyfodol ar y pwnc yma blaendiro adborth wedi canolbwyntio ar gyfranogwyr o bobl ifanc gyda phrofiad o ofal, gan mae nifer yn dibynnu ar adborth wedi adrodd gan oedolion. Tynnodd yr adroddiad yma o safbwyntiau gofalwyr maeth, hwyluswyr a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal a dylai’r model yma gael ei fabwysiadu mewn gwaith dyfodol er mwyn ennill dealltwriaeth a gwerthusiad mwy amrywiol o raglenni wedi seilio ar gelfyddydau.
Adroddodd yr astudiaeth nifer o fuddion o fynychu’r rhaglen, yn cynnwys gwell hyder, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, a sgiliau wedi seilio ar gelfyddydau, a chafodd ei brofi yn gyfrifon y bobl ifanc, gofalwyr maeth a hwyluswyr. Dylai ymchwil dyfodol mabwysiadu dynesiad hydredol i archwilio os mae’r buddion canfyddedig yma’n dros dro neu os oes ganddyn nhw effeithiau hir tymor.
Dylai rhaglenni dyfodol darparu mynychiad i weithgareddau heb dâl ar gyfer bobl ifanc gyda phrofiad o ofal ac archwilio llwybrau trawsnewidiol mewn i weithgareddau bellach i wella’r cynaladwyedd o ymyriadau celfyddydau.
Dylai rhaglenni dyfodol ystyried y moddau mae prosiectau wedi seilio ar gelfyddydau’n gallu cyrchu, ymrwymo a chynnwys pobl ifanc mewn gofal sydd heb gymorth gofalwr maeth ‘ymgysylltiedig’.
Mae Brifysgol Caerdydd yn parhau i weithio gyda’r Rhwydwaith Maethu a Ganolfan Mileniwm Cymru i ystyried cyfleuoedd bellach ar gyfer ymrwymo pobl ifanc gyda phrofiad o ofal gyda’r celfyddydau a diwylliant.
Cyfeiriadau
Mannay, D., Smith, P., Jennings, S., Turney, C. and Davies, P. 2018. The value of cultural and creative engagement: Understanding the experiences and opinions of care-experienced young people and foster carers in Wales. Project Report. Cardiff: Wales Millennium Centre.
Mannay, D., Smith, P., Jennings, S., Turney, C. and Davies, P. Executive Summary: The value of cultural and creative engagement: Understanding the experiences and opinions of care-experienced young people and foster carers in Wales. Technical Report.
Mae’r grwp yn cyfarfod yn rheoliadd ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi profiadu gofal gyfarfod eu gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd addysg, ac ystod o weithgareddau. Ym mis Ionawr an Chwefror 2019 buom yn gweithio gyda’r grwp i greu ein ffilm cydweithredol cyntaf #GanBoblIfanciBoblIfanc- Dewch o Hyd I’ch Llwyth
Yn Haf 2019, fe wnaethom gyfarfod eto i feddwl pa negeseuon eraill a oedd yn bwysig a pwy dyled glywed nhw. Dechreuom daflu syniadau a penderfynu ar y prif negeseuon, yna buom yn scriptio a creu yr elfenau gweledol ar gyfer y ffilm. Defnyddiom fyrddau stori i drio rhoi syniadau y grwp at ei gilydd ac yna arbrofom gyda llyniau, sticeri a ffeltiau fuzzy.
Defnyddiwyd y llyniau gwreiddiol y grwp fel sail i animeiddio y ffilm, daeth hyn a negeseuon y pobl ifanc yn fyw (drwy help Like an Egg). Creawyd y negeseuon yma drwy brofiadau y bobl ifanc. Mae’r ffilm yn dangos sut maent eisiau gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol yn y dyfodol. Dyma eu #negeseuoniweithwyrcymdeithasol. Gobeithio eich bod wedi mwynhau y ffilm.
FIDEO I DDOD YN FUAN
Dawn manny- Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd @dawnmannay
Rachael Vaughan – CASCADE: Children’s Social Care Research and Development Centre, Prifysgol Caerdydd @VaughanRach
Helen Davies – Partneriaeth Ymgyraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru – Prifysgol Abertawe @ReachingWiderSU
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Plant yng Nghymru ers tair blynedd i ddatblygu adnoddau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd a phrofiad gofal ledled Cymru.
Ers dechrau y prosiect yn 2016, rydym wedi bod yn gweithio yn uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc i cyd-gynhyrchu cyfres o ganllawiau a phynciau yn ymwneud a’i hawlaiau o dan Rhan 6 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae yr holl ganllawiau ar gael yn Gymraeg ag Saesneg. Rydym eisiau mwy o blant a phobl ifanc sydd a phrofiad gofal i fod yn ymwybodol o’i hawliau ac i gael mwy o lais a rheolaeth yn y broses cynllunio gofal ag asesiad.
Beth mae’r prosiect wedi’i gyflawni
Mae Plant yng Nghymru wedi gweithio gyda plant a phobl ifanc yn ogystal ag partneriaid allweddol ar draws adwurdodau lleol, byrddau iechyd ac y sector gwirfoddoli i gyd-gynhyrchu canllawiau iechyd a llesiant. Mae ein canllawaiu yn edrych ar pynicau sydd o ddidordeb i blant a phobl ifanc. Wrth i’r priosect esblygu, rydym wedi ymchwilio mewn i themau ehangach o addysg, rheoli arain ag perthnasoedd teulu. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ag hawilaiu plant yn ganolog i phob canllaw.
Canllawiau a gynhyrchwyd
Ein nod yw gwneud y canllawiau mor hygyrch a sy’n bosib. Gall pob un ei lawrlwytho o ein gwefan a gall pobl ifanc cael gafael arnynt yn anibynnol os y dymunant. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod rhwystrau ychwenegol yn ymwneud a hygrychedd yn bodoli i rhai bobl ifanc mewn gofal. Ein gobaith yw drwy weithio gyda’r gweithwyr proffesiynol sydd yn cefnogi plant mewn gofal yn uniongyrchol byddent gyda’r opsiwn o ddefnyddio canllawiau yn eu ymarfer gyda plant a phobl ifanc i sicrhau bod llais a rheolaeth yn parhau i fod yn ganolog mewn cynllunio gofal ag asesiad.
Ffyrdd o gymryd rhan
Os ydych yn gweithio yn uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc gallwch eu ddefnyddio yn ymarferol
Os ydych gyda gwefan i bobl ifanc sydd a phrofiad gofal neu tudalen mewnrwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol gallwch rannu dolen i ein gwefan ni
Ei ddefnyddio fel ffordd o hyfforddi staff neu pobl ifanc
Dywedwch wrthym beth rhydych yn feddwl! Rydym yn croesawy adborth-efallai bod yna bwnc penodol hoffech ganllaw ar yn y dyfodol
Fel priosect gallem
Fynychu cyfarfodydd tim i ddweud mwy wrthych am y priosect, cymryd rhan dechrau rhannu rhai o’r canllawiau
Cyflwyno rhywfaint o hyfforddiant gyda phobl ifanc ar hawliau, lles a’n canllawiau
Camau nesaf
Rydym yn gwerthfawrogi bod yna lawer iawn o waith dal i wneud. Mae materion pobl ifan cyn newid wrth i’r priosect esblygu. Byddem yn parhau i weithio mewn ffordd sydd yn addas i anghenion plant a phobl ifanc yn ogystal a anghenion y gweithwyr proffesiynol sydd yn eu gefnogi.
Yn parhau o priosect LACE, edrychodd Priosect IAA ar wella profiadau a cyrhaeddiadau addysgol plant a phobl ifanc sydd a phrofiad gofal yng Nghymru.
Crynodeb y Prosiect
Ym mis Mai 2016 darparodd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol cyfrif cyflymu effaith (IAA) i Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) iddynt adeiladu ar eu canfyddiadau ac awgrymiadau o briosect LACE ag i gael y negeseuon yma allan i gynulleidfaoedd amrywiol.
Roedd y priosect ‘Gwella profiadau addysgol a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal’ yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau, gweithdai, ymgyngoriadau, ac datblygiad ystod o ddeunyddiau i yrru #negeseuonIYsgolion pwysig.
Allbynnau’r Prosiect
Arweniodd Ymgynghoriadau Allbynnau Prosiect gyda plant a pobl ifanc sydd a profiad gofal, yn ogystal a cystadleuaeth barddoniaeth i rai sydd mewn ag wedi gadael gofal at ddatblygiadau o #negeseuonIYsgolion allweddol. Cafodd rhain eu cyflwyno mewn ffilm, fideo cerddoriaeth ac cyfres o bosteri. Gweithiodd CASCADE gyda Voices from Care Cymru, Care Forum Wales Looked After Children Network ac y diwydiant creiadigol i ddatblygu ystod o adnoddau i helpu rhannu y negeseuon allweddol ym i’r ysgolion.
Hefyd gweithiodd CASCADE gyda The Fostering Network i ddatblygu y cylchgrawn ar gyfer gweithwyr maeth, Disgwyliadau Mwy.
Deall profiadau addysgol a barnau, cyrhaeddiad, llwyddiannau a dyheadau plant mewn yng Nghymru
Crynodeb o’r prosiect
Ym mis Ionawr 2015, cafodd canolfan ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol plant (CASCADE) ei gomisiynu i arwain ymchwiliad gyda phlant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal cymdeithasol i archwilio eu dyheadau a’u profiadau o ofal.
Enw llawn y prosiect yw ‘Deall profiadau addysgol, barnau, cyraeddiadau, llwyddiannau a dyheadau plant mewn gofal yng Nghymru’, ond fel arfer cyfeiriwyd ato fel ‘Prosiect LACE’!
Mae Cascade wedi cynhyrchu nifer o ddeunydd gweledol arloesol yn ogystal â’r adroddiad a’r crynodeb gweithredol i helpu lledaenu canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwil i amryw gwahanol o gynulleidfaoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Fideos Cerddorol
Caneuon
Ffilmiau
Dyheadau Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru
Barn plant sy’n derbyn gofal ynglŷn â beth mae angen ei newid ym myd addysg
Plant sy’n derbyn gofal ac addysgyng Nghymru
Profiadau addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru
Posteri
Cylchgronau
Negeseuon i Ysgolion
Gan ddilyn ymlaen o hyn, dyma brif #negeseuoniysgolion y plant a phobl ifanc o dan ofal am eu haddysg: