Buddion dwyffordd – Posibiliadau pobl anabl yn rôl cynhalwyr maeth

Mae prinder mawr cynhalwyr maeth yn Lloegr ac mae Prifysgol Caerwrangon wedi cynnal ymchwil i ddysgu pam nad yw pobl anabl yn cael eu dewis ar gyfer rôl cynhalwyr maeth.

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil gan gynnwys fideo fer sy’n disgrifio prif faterion moesegol ac ymarferol pwnc nad yw’n denu llawer o sylw ym maes cyfleoedd cyfartal.

Cynhaliodd y brifysgol yr ymchwil ar y cyd â rhwydwaith gwasanaethau i bobl anabl o’r enw Shaping Our Lives a Rhaglen Gydweithredol Gofal Maeth, gan astudio pedwar gwasanaeth maeth yn y sectorau statudol, preifat ac elusennol. Cynhyrchwyd y prosiect ar y cyd yn ôl dull ‘Ymchwil ar Waith’, gan newid polisïau ac arferion pan ddaeth materion i’r amlwg.

Fe roes un asiantaeth y gorau i’r prosiect ar ôl i’w rheolwyr newydd ddweud na fydden nhw o blaid parhau. Aeth y prosiect rhagddo rhwng 2018 a 2020 o dan nawdd DRILL (Disabled Research into Independent Living and Learning) a Chronfa Fawr y Lotri Wladol.

Gwelwyd bod sawl peth yn rhwystro pobl anabl rhag bod yn gynhalwyr maeth, er gwaetha’r ffaith bod gan lawer ohonyn nhw eu plant eu hunain ac amrywiaeth helaeth o fedrau perthnasol. Ymhlith y meini tramgwydd hynny mae rhagfarn proffesiynolion, diffyg eglurder am iechyd, prinder pobl i’w hefelychu ac ansicrwydd am hawl i fynnu budd-daliadau.

Roedd yn anodd ennyn diddordeb asiantaethau maethu a mudiadau pobl anabl mewn prosiect y gallen ni ei weld yn un lle y byddai pawb ar ei ennill – bydd pobl anabl yn cael dod o hyd i waith, bydd rhagor o drefniadau cartrefu ar gael i blant mae angen gofal arnyn nhw a bydd anawsterau denu cynhalwyr maeth yn llai o dipyn.

Cyflawnodd tîm yr ymchwil gynnydd ar draws y pedwar safle arbrofol a thrwy rhagor o sylw yn y cyfryngau, gan lwyddo i gyfweld 12 cynhaliwr maeth anabl sy’n dangos bod pobl o’r fath yn gallu llwyddo yn y rôl. Meddai Alison:

“… a minnau’n gynhaliwr maeth anabl, fyddwn i byth wedi disgwyl cael cyfle i ofalu am blentyn ac arno anghenion cymhleth. Roeddwn i’n disgwyl y byddai rhaid aros am sbel ac mai dim ond achosion hawdd fyddai ar gynnig ond dyw’r asiantaeth ddim wedi gwneud hynny a phob clod iddi.”

Meddai Jon:

“Mae dau o blant yn byw gyda fi ers bod yn fach iawn a dydyn nhw ddim yn gweld pobl anabl yn anarferol. Dyna fantais cynhwysiant – cydraddoldeb naturiol.”

Mae gobaith y bydd gweminarau megis menter ExChange yn helpu i ledaenu canfyddiadau’r prosiect ar draws y deyrnas. Trwy dynnu sylw at lwyddiant pobl megis Alison a Jon, dylai fod modd annog asiantaethau maethu a phobl anabl i fanteisio ar bosibiliadau helaeth cynhalwyr anabl. Mae Prifysgol Caerwrangon yn chwilio am arian i barhau â’r prosiect – mae corff maethu gwladol, CoramBAAF, wedi gofyn iddi lunio llawlyfr am gynhalwyr maeth anabl ac mae’n bwriadu cynnig hyfforddiant i asiantaethau maethu yn y maes hwn sydd heb ddenu llawer o sylw hyd yma.

Y Dr Peter Unwin, Prifysgol Caerwrangon, Becki Meakin, Shaping Our Lives

Nid prosiect yw cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, mae’n hawl!

Gweminar: Nid prosiect yw cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, mae’n hawl!

Dydd Llun 2 Tachwedd
2.00 – 4.00pm GMT 
Ffurflencaddw lle
Manylion y Gweminar

Mae’r gweminar hon yn rhannu sut gall plant a phobl ifanc gyfrannu at benderfyniadau cyfreithiol ynghylch cyswllt â phlant, yng nghyd-destun trais domestig. Yn seiliedig ar brosiect 5 gwlad, Gwella Cyfiawnder Cyswllt Plant, bydd y gweminar yn cyflwyno ac yn trafod sut gall plant a phobl ifanc, sydd wedi profi trais domestig, fynegi eu barn a’u gwybodaeth er mwyn gwella systemau a phrosesau. 

Bydd siaradwyr gwadd o Bortiwgal a’r Alban yno, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiectau cyfranogiad IJCC. Cyflwynir y gweminar yn Saesneg, gyda grwpiau trafod ar gael yn Saesneg, Bwlgareg, Groeg, Portiwgaleg, a Rwmaneg. 

Bydd y seminar yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym maes cyfranogiad plant a phobl ifanc. Bydd o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc sy’n profi trais domestig:

  • mewn cyd-destun cyfreithiol (erlynwyr cyhoeddus, barnwyr a chyfreithwyr)
  • yn y gwasanaethau cymdeithasol (canolfannau cymorth i ddioddefwyr trais domestig, llochesi, canolfannau goruchwylio ymweliadau, timau cymorth llysoedd, pwyllgorau lleol ar gyfer amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc)
  • yn y sectorau Hawliau Plant a Menywod, a’r rheiny sy’n gweithio gyda menywod a’u plant. 

#BuildBackBetter: Rydych chi’n gwybod ei fod yn gwneud synnwyr, ond sut rydych chi’n gwneud hynny?

Trwy gydol y pandemig, y cyfnod cloi a nawr cyfnod clo estynedig yn ein dinas frodorol, mae staff Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr cymunedol, cyngor a busnes i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae llawer o’r gweithgarwch hwn wedi cael ei gyflawni gan grwpiau bach sydd wedi ffurfio mewn ymateb i’r pandemig. Diffyg biwrocratiaeth, rheolau a chyfarwyddebau gweithio, ynghyd â brwdfrydedd, cymhelliant a chyswllt dynol y maen nhw i gyd wedi’u hwyluso gan y rhyngrwyd, sydd wedi hybu llawer o hyn. Ym mis Ebrill awgrymwyd y canlynol gennym:

“Y realiti yw bod digwyddiadau fel y pandemig yn gofyn am sefydliadau ystwyth, sy’n debyg i “gychod gwib” yn eu gallu i ymateb a gweithredu’n gyflym. Yn aml, mae awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol mwy o faint yn debyg i “agerlongau”. Unwaith maen nhw ar drywydd penodol, ni allant newid yn gyflym.”

Mae ymgyrch #BuildBackBetter, a lansiwyd yn ddiweddar gyda chefnogaeth 350 o arweinwyr busnes, grwpiau cymunedol a gwleidyddion, yn gyfle gwych i fyfyrio ar y profiad hwn a dysgu ohono. Fel nodwyd gennym yn “What’s so funny about peace, love and understanding?”

“Pan fydd ein gwleidyddion yn ymestyn y tu hwnt i’w diddordebau pleidiol ac yn dechrau ymgysylltu â phobl mewn ffordd ystyrlon, byddant yn darganfod bod y cyhoedd yn ffynhonnell doreithiog o syniadau, arbenigedd, sgiliau a phrofiad bywyd sy’n gallu arwain at wneud penderfyniadau mwy effeithiol.  Maen nhw’n gweld bod gan bobl farn gymysg – sydd weithiau’n anghyson – nad yw’n cydweddu’n berffaith â maniffesto ond mae’r rhan fwyaf yn fodlon cyrraedd rhyw fath o gyfaddawd.   Dyma pam mae sefydliadau megis Compass, yr RSA ac eraill yn sôn am gynghreiriau blaengar, adeiladu pontydd rhwng pobl ac annog twf democratiaeth o’r gwaelod i fyny.”

Mewn sawl ffordd mae’r cyfnod clo wedi amlygu problemau roeddem eisoes yn ymwybodol ohonynt. Anghydraddoldeb, tlodi plant, tlodi bwyd, tlodi yn y gwaith, amodau gwaith ansicr sydd hefyd, mewn rhai achosion, yn anghyfreithlon. Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, yr amgylchedd, gwasanaethau cyhoeddus dirywiedig, diffyg tai fforddiadwy a’r pryderon am iechyd corfforol a lles meddyliol oll dan sylw erbyn hyn.  Er gall fod amrywiaeth yn y pwyslais, mae’r holl bleidiau gwleidyddol yn siarad am “fargeinion newydd gwyrdd”, camau gan y llywodraeth i ysgogi’r economi, amddiffyn y tlodion a pham mae angen i ni greu cymdeithas mwy caredig a gofalgar.

Roedd llofruddiaeth George Floyd ddiwedd mis Mai a’r protestiadau a’r dadlau canlynol a sbardunwyd gan #MaeBywydauDuOBwys yn dwysáu’r teimlad ein bod wedi cyrraedd croesffordd dyngedfennol. Roedd rhaid unioni anghyfiawnderau hanesyddol; mae’r system sydd gennym ar hyn o bryd yn hynod annheg. Mae’n gwahaniaethu’n systemig yn erbyn pobl groendywyll wrth osgoi neu guddio sut mae wedi elwa o gaethwasiaeth, gwladychiaeth a hiliaeth.

Er bod llawer o bobl nodedig yn ein cefnogi ac yn penlinio, roedd eraill yn fwy pryderus. Roedd sôn am fraint pobl wynion a pheidio ag ariannu’r heddlu yn cael ei bortreadu gan rai enwebwyr fel eithafiaeth asgell chwith yn cuddio y tu ôl i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Wrth i gerfluniau gael eu dymchwel ac wrth i’r galwadau am ddymchwel mwy ohonynt gynyddu, roedd rhai’n gweld hyn fel ymosodiad ar hunaniaeth a hanes y DU. Wrth i bobl orymdeithio i amddiffyn cerfluniau Winston Churchill a rhannu cyfarchion Natsïaidd, roedd y gymuned fawr gynhwysol a allai ddod i gonsensws yn ymddangos fel breuddwyd bell.

Ac eto, yn ôl arolygon, dim ond 6% o Brydeinwyr sy’n awyddus i ddychwelyd i’r un economi ag yr oedd yn bodoli cyn argyfwng Covid-19. Yn lle hynny, mae pobl am ailadeiladu’n gryfach, yn wyrddach ac yn decach. Mae cryn gefnogaeth dros Mae Bywydau Du o Bwys, er nad o anghenraid ar gyfer rhai o’u dulliau. Felly, mae rhesymau i fod yn llon ac yn obeithiol. Byddem yn awgrymu y dylai “profiad bywyd a lleisiau” pobl leol fod wrth wraidd unrhyw newid, fel y byddan nhw’n llunio’r agenda ar gyfer sut dylai eu cymunedau ddatblygu. Wrth i ni ddechrau symud ymlaen, byddai’n dda gweld mwy o bwyslais ar y canlynol:

  • Prosesau penderfynu wedi’u datganoli’n fwy a rhoi mwy o bwerau i gynghorau benderfynu ar y ffordd orau i’w cymunedau a’u heconomïau lleol ddatblygu.
  • Ffurfiau creadigol o ddemocratiaeth ystyriol sy’n grymuso ac yn galluogi pobl leol i gymryd rhan, trafod, dadlau a dod i gonsensws.
  • Cymunedau, busnesau a llywodraeth leol yn datblygu timau a strwythurau ystwyth, creadigol sy’n gallu gwrando, dysgu ac addasu.
  • Mynegai hapusrwydd a lles y cytunwyd arno’n genedlaethol a ddefnyddir ar y cyd â’r Cynnyrch Domestig Gros i roi gwybod i ni pa mor dda rydym yn ei wneud.
  • Targedau llym a Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer dileu tlodi yn ei ffurfiau lu.

Wrth gwrs, mae llawer o faterion y mae angen mynd i’r afael â nhw ond os gellir gwreiddio prosesau penderfynu mewn cyd-destun lleol y mae pobl yn teimlo bod ganddynt gysylltiad ag ef a rheolaeth drosto, rwy’n credu’n gryf y byddwch yn llawer mwy tebygol o gyflawni newid. Mae angen i wleidyddion ac arweinwyr busnes a chymunedol weld mai eu diben cyffredin yw adeiladu cymunedau gwell. Mae hyn yn llawer mwy tebygol o ddigwydd os byddant yn gweithio mewn partneriaethau agored a thryloyw sy’n llawn parch lle byddan nhw’n derbyn bod ganddynt lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd ac mai’r ffordd orau o wybod beth yw dymuniadau’r bobl yw eu cynnwys yn weithredol yn eu prosesau penderfynu.

Mae’r pandemig wedi dangos yn glir beth yw cryfderau a diffygion ein heconomi a’n gwleidyddiaeth. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ond hefyd lawer y gallwn ni – a rhaid i ni – ei wella. Felly, gadewch i ni rymuso cymunedau a defnyddio eu creadigrwydd, eu caredigrwydd a’u gwybodaeth leol i #BuildBackBetter a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Kieran Breen
Prif Weithredwr Leicestershire Cares
@LeicsCares

Cyhoeddwyd y Blog hwn yn wreiddiol gan Vulnerability 360.

Dolenni defnyddiol

BuildBackBetter.org
What’s so funny about peace, love and understanding? (Thersa.org)
What is the response to the pandemic telling us about community development and the state of local government? (Vulnerability 360)
Cylchlythyr: Leicestershire Cares 12 weeks in (Leicestershire Cares)
Just 6 of UK public want a return to pre-pandemic economy(The Guardian)
Poll shows strong public support for BLM protests (Hope not Hate.org)

Gwerth LEGO fel dull gweledol: Deall profiadau o les mewn ysgolion

Mae lles yn brofiad cymhleth i’w fesur, ei ddiffinio, arsylwi arno a’i gyfleu.  Roedd fy ymchwil yn defnyddio LEGO fel dull ymchwilio er mwyn archwilio prynhawniau Dydd Mercher Lles, sy’n fenter i gyflawni nod Iechyd a Lles Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022 mewn Ysgol Uwchradd Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau yn ne Cymru

Mae holiaduron a chyfweliadau’n tueddu i fesur effaith seicolegol o les dros amser. Ond nid yw’r mesurau hyn bob amser yn gallu ‘mesur yr anfesuradwy’ neu gofnodi’r profiad cymhleth o les. Hefyd, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn aml yn gyndyn i gyfathrebu, sy’n gwneud meithrin perthnasoedd rhwng ymchwilwyr a chyfranogwyr yn bwysig yn ogystal ag anodd ei gyflawni.  Felly sut gellir annog pobl ifanc yn eu harddegau i siarad am eu teimladau?

Crëwyd LEGO Build to Express at y diben penodol hwn – fe’i defnyddir fel arfer mewn ystafelloedd dosbarth fel dull o gysylltu â myfyrwyr ynghylch syniadau haniaethol ac fel dull ymyrryd i ddisgyblion y gallai fod angen therapi arnynt. Yn aml mae’r syniad o LEGO fel tegan ar gyfer chwarae yn annog cyfranogwyr i gyffwrdd, adeiladu a chreu rhywbeth mewn modd organig, a hynny’n awtomatig. O fewn fformat cydnabyddedig sesiynau Therapi LEGO’r ysgol, gofynnais y cwestiwn ‘Sut rydych chi’n teimlo ar ddiwrnod arferol ac ar Ddydd Mercher Lles’ i grŵp o gyfranogwyr bodlon.

Roedd y cyfrwng yn galluogi disgyblion i gyfathrebu mewn trosiadau, fel a welir yn y delweddau canlynol.

Lego piece

Esboniodd yr adeiladwr ei fod fel arfer yn casáu’r ysgol – “Bydda i’n onest, dwi’n triwanta’n aml achos mod i ddim moyn cael fy nghyfyngu, fel y ffens. Dwi ddim moyn bod mewn gwersi 50 munud heb allu gadael’, wrth bwyntio i’r ffigur LEGO gyda ffens o’i amgylch. “Fi yw’r ysgol yn symud trwy wers gyfan ar ddydd Mercher ac yn aros yno achos mod i moyn gwneud hynny, achos mod i’n gallu gwneud beth dwi moyn ei wneud yn lle bod rhywun yn dweud wrtha i i wneud e.

Lego piece

“Dyma fi mewn gwers y Tiwtor, dwi’n ei chasáu. Dwi ar y soffa’n ffonio fy mam i ddod i fy nôl i. Mae’n gas ‘da fi pan fo’r tiwtor yn dweud wrtha i beth i’w wneud.” Caiff yr athrawes ei phortreadu mewn het gwrach gydag ysgub. Mae’r adeiladwr yn esbonio ochr arall ei fodel, sy’n llawn brics lliwgar a ffigurau LEGO sy’n eistedd o gwmpas bwrdd gyda’i gilydd. “Therapi LEGO yw hwn a dwi’n dwlu ar hwnnw achos ein bod yn gallu gwneud pethau celf a chwarae cerddoriaeth a chael hwyl gyda Syr. Dyma fy holl ffrindiau’n eistedd o gwmpas yr adeilad gyda fi.”

“Roedd Thomas yn niwsans mawr y bore ‘ma a dwedodd Syr fod rhaid i fi eistedd yno drwy gydol y wers gyda fe’n fy mhlagio gyda’i swn.”  Yn groes i’r hunanreolaeth roedd yr adeiladwr yn ei theimlo yng ngwers y bore yma, fel a welir ar yr ochr dde, mae’n esbonio’r ffigur ar yr ochr chwith: “Dyma fi ar ôl i fi gael cinio ac fy mod yn gallu mynd i’m gweithgaredd heb fod Thomas yno.”

Mae model LEGO y myfyrwyr wahaniaeth nodedig rhwng y gwersi disymud, rhwystredig a chyfyngol trwy gydol yr wythnos a phwysigrwydd gwersi ymarferol sy’n amlwg yng ngweithgareddau Dydd Mercher Lles. Yma maen nhw’n dangos bod eu gallu i gael hunanreolaeth dros eu cyrff a’u gweithgareddau yn nodwedd bwysig o ddydd Mercher. Yn yr eiliadau hyn o ryddid cyffredin, mae myfyrwyr yn sylweddoli bod eu cyrff ar y cwricwlwm ac yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â chanlyniadau ac amcanion dysgu.. Trwy roi’r cyfle hwn iddynt reoleiddio eu hunain, rhyngweithio’n rhydd a defnyddio’r ystafell ddosbarth er eu lles nhw, maent yn dysgu bod ysgolion yn gallu bod yn lleoedd cyfannol ar gyfer lles.

Mae’r elfen greadigol sy’n rhan gynhenid o LEGO (sy’n deillio o’r ymadrodd Daneg leg godt  sy’n golygu ‘chwarae’n dda’) yn ffordd hawdd ac effeithlon i gyfathrebu’n greadigol mewn sefyllfaoedd ymchwil. Roedd ystyried dulliau gweledol a’u gallu i roi hunanreolaeth i gyfranogwyr yn cyd-fynd â’r profiad cymhleth ac amrywiol o les yn yr ysgol hon. Er bod posibilrwydd na fydd modd gwneud hyn ym mhob ystafell ddosbarth, dyluniad ymchwil nac adolygiad cwricwlwm, mae’n dangos y gall ceisio barn a phrofiadau myfyrwyr fod yn fenter hwyliog a chreadigol sydd, yn y  pen draw, yn dwyn boddhad.

Fel offeryn ac fel tegan, mae LEGO yn drysu’r ffiniau rhwng ymchwil a phrofiad, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cofio pwy sydd wrth wraidd cwestiynau ymchwil, newidiadau i’r cwricwlwm a pholisïau, a sut gall eu lleisiau gael eu clywed.

Alice Abrey
@AbreyComms

Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr – Wythnos Ymgysylltu

Mae’r Grŵp Ymgysylltu Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr yn cydweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr i helpu llywio a llunio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Cymru.

Yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 19 Hydref 2020 bydd y Grŵp Ymgysylltu yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i godi lleisiau gofalwyr di-dâl a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio law yn llaw â nhw.

Bydd y digwyddiadau’n rhoi’r cyfle i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol rannu sut mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw a pha gamau maen nhw’n meddwl ddylid eu cymryd i wneud yn siŵr fod gofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen.

Cynhelir pob digwyddiad ar Zoom ac maent yn rhedeg am 90 munud.

6pm Dydd Llun 19eg Hydref – Gofalwyr ifanc

COFRESTRU

2pm Dydd Mawrth 20fed Hydref – Gofalwyr hŷn

COFRESTRU

10am Dydd Mercher 21ain Hydref – Gweithwyr gofal iechyd

COFRESTRU

2pm Dydd Mercher 21ain Hydref – Gwasanaethau Gofalwyr

COFRESTRU

10am Dydd Iau 22ain Hydref – Rhiant ofalwyr

COFRESTRU

2pm Dydd Iau 22ain Hydref – Gweithwyr cymdeithasol

COFRESTRU

Plant dan ofal yng Nghymru

Ar 31 Mawrth 2019, roedd yna 6,845 o blant dan ofal yng Nghymru, cynnydd pellach o 440 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O ganlyniad, mae’r bwlch rhwng y gyfradd o blant dan ofal yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU wedi parhau i ledu.

Yng Nghymru, er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yng nghyfradd y plant sy’n derbyn gofal ers 2014. Drwy ddefnyddio data a gyhoeddwyd, mae’r gyfres hon o friffiadau’n ystyried beth allwn ni ddweud am y ffactorau sy’n sbarduno’r tueddiadau hyn, ac yn diweddaru’r adroddiad cynharach, Dadansoddiad o Ffactorau sy’n Cyfrannu at Gyfraddau Uwch o Ofal yng Nghymru.

  1. Plant dan ofal yng Nghymru: Tueddiadau
  2. Plant dan ofal yng Nghymru: Ffactorau sy’n cyfrannu at gyfraddau amrywiol
  3. Plant dan ofal yng Nghymru: Llifoedd i mewn i ofal ac allan ohono

Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal yng Nghymru

Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau: Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal yng Nghymru

Mae ymchwil yn awgrymu bod traean o’r rhai sy’n gadael gofal yn ddigartref yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl gadael gofal. Mae adroddiad Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru (EYHC) ‘Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau: Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal yng Nghymru’ yn cynnwys 27 cyfweliad â phobl ifanc ledled Cymru am eu profiadau o ofal a digartrefedd. Cafodd yr ymchwil hon ei chynnal a’i chyd-gynllunio gyda chymheiriaid ymchwil sydd â phrofiad o ofal ac wedi bod yn ddigartref.

Mae’r ymchwil hon yn edrych ar le cyfrannodd methiannau yn y systemau at berson ifanc â phrofiad o ofal yn cael y profiad trawmatig o ddigartrefedd. Rydym yn adrodd ar brofiadau pobl ifanc yn y system ofal; roeddent yn sôn am symud lleoliadau’n aml a throsiant staff uchel yn ei gwneud yn anodd iddynt ffurfio perthnasoedd.

Un o’r pethau sy’n cael ei amlygu yn yr ymchwil yw profiadau pobl ifanc o annibyniaeth gynnar, a arweiniodd at unigedd ac unigrwydd. Eglurodd y bobl ifanc eu bod wedi cael eu rhoi mewn ardaloedd heb eu rhwydweithiau cymorth. Arweiniodd hyn yn aml at gysylltu â grwpiau o gyfoedion a chael heriau i reoli ymwelwyr.

Arweiniodd hyn at anawsterau wrth gynnal eu tenantiaethau ac yn y pen draw at ddigartrefedd. Elfen frawychus arall o’r adroddiad yw profiadau pobl ifanc o lety brys lle cawsant eu gosod yn aml gyda phobl hŷn â phroblemau o ran defnyddio sylweddau niweidiol. Gofynnodd pobl ifanc: ‘pam bydden nhw’n fy symud allan o amgylchedd trawmatig dim ond i gael fy rhoi’n ôl mewn amgylchedd hyd yn oed yn fwy trawmatig pan ddes i’n ddigartref?’ Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ymarferol ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU ar sut y gallwn atal pobl ifanc â phrofiad o ofal rhag mynd drwy brofiad trawmatig o ddigartrefedd yn y dyfodol.

Adnabod ac ymateb i achosion o esgeuluso plant mewn ysgolion: Negeseuon ar gyfer arferion gorau

Gyda’r rhan fwyaf o blant yn dychwelyd i ysgolion, disgwylir y bydd atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Plant yn codi’n sylweddol. Fel y cafodd ei adrodd yn ddiweddar yn y Guardian, bydd ysgolion yn chwarae ‘rôl ganolog wrth sylwi ar esgeulustod a cham-drin’.

Ar ôl bron i chwe mis i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, mae plant y byddai angen cymorth a chefnogaeth arnynt o’r blaen wedi bod yn anweledig i staff mewn ysgolion. Yn ôl yr Adran Addysg, mae nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Plant ers i ysgolion gau oherwydd achosion covid19 wedi gweld gostyngiad dramatig o 18% (o’i gymharu â’r tair blynedd ddiwethaf).

Ysgolion yw’r corff sy’n cyfeirio amlaf ond un at y gwasanaethau statudol, ac yn bartneriaid hanfodol wrth ddiogelu ac amddiffyn ein plant. Caiff staff mewn ysgolion gyfle i arsylwi plant mewn amrywiaeth o leoliadau, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Gall athrawon a staff eraill ysgolion fonitro ymddygiad plant bob dydd, dros gyfnod estynedig o addysg, gan arsylwi ar sut maent yn ymwneud â phlant eraill ac ag aelodau o’u teuluoedd. Maent mewn sefyllfa unigryw i nodi pryderon yn gynnar a rhannu gwybodaeth sy’n sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar yr adeg gywir.

Mae’n hanfodol felly bod staff ysgolion yn cael eu cefnogi’n llawn i adnabod plant y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt, a’u bod yn barod i ymateb i’r rhai sydd wedi bod yn byw gyda cham-drin neu esgeulustod, ac y mae angen eu hamddiffyn.

Mae adroddiad polisi newydd gan Dr Vicky Sharley (Prifysgol Bryste) yn tynnu sylw at ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy law Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r adroddiad yn edrych ar sut mae staff ysgolion yn nodi ac yn ymateb i blant y maent yn amau eu bod yn byw gydag esgeulustod (sef y rheswm mwyaf cyffredin y mae plentyn ar gynllun amddiffyn plentyn yn Lloegr). Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion allweddol ar gyfer arferion gorau ar draws ysgolion a gwasanaethau amddiffyn plant, ac yn galw ar lunwyr polisïau i gefnogi ysgolion a gweithwyr cymdeithasol yn eu rolau unigryw ond cysylltiedig o fewn y system amddiffyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu dull newydd o ddatblygu perthnasaoedd rhyngasiantaethol effeithiol i wella canlyniadau diogelu. Mae’n hanfodol ar gyfer lles plant y codir unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn gofyn am fwy o gefnogaeth i staff ysgolion ac i weithwyr cymdeithasol ddatblygu perthynas waith agos a sianelau cyfathrebu rhagorol. Mae argymhellion yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo plant yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, wedi bod yn ‘guddiedig’ i wasanaethau am fwy na phum mis, ac mae disgwyl y bydd atgyfeiriadau’n codi.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn am Bolisi Bryste. Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylid cefnogi Penaethiaid i sefydlu cymunedau dysgu effeithiol yn eu hysgolion fel y bydd staff yn datblygu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n benodol i gyd-destun ar sut i ymateb yn effeithiol i esgeulustod plant o fewn lleoliad ysgol.
  • Dylai ysgolion recriwtio staff strategol sy’n dangos ymrwymiad i ddatblygu arbenigedd ym maes esgeulustod plant er mwyn hyrwyddo lles plant yn yr ysgol.
  • Dylai staff ysgolion sy’n adnabod y gymuned leol yn dda gael cyfleoedd i esbonio am fywydau plant y mae amheuaeth eu bod yn byw gydag esgeulustod.
  • Dylai gweithwyr cymdeithasol roi adborth i ysgolion fel mater o drefn ar ganlyniad atgyfeiriadau a wneir i wasanaethau amddiffyn plant a’r rhesymeg dros eu penderfyniad i beidio ag ymyrryd.
  • Dylai gweithwyr cymdeithasol sicrhau nad yw Cynadleddau Amddiffyn Plant yn cael eu cynllunio yn ystod gwyliau’r ysgol, ac y caiff gwybodaeth ei rhannu ag ysgolion newydd pan fydd plant yn trosglwyddo i addysg uwchradd.
  • Dylai cyfleoedd anffurfiol a ffurfiol fod ar gael i’r holl staff dreulio amser mewn asiantaethau partner i gefnogi datblygu gwybodaeth ac arbenigedd am ddarparu gwasanaethau.
  • Dylid defnyddio dogfen ganllaw trothwy’r awdurdod lleol fel dull o drafod myfyriol ar draws gwasanaethau, i lywio penderfyniadau proffesiynol a meithrin ‘iaith a rennir’, fel y gall staff yr ysgol fynegi pryderon yn fwy effeithiol yn eu hatgyfeiriadau.
  • Mae rôl Gweithiwr Cymdeithasol yr Ysgol yn ymateb i lawer o rwystrau rhyngbroffesiynol rhwng ysgolion a gwasanaethau amddiffyn plant a dylid eu sefydlu ym mhob awdurdod lleol.

Mae’r astudiaeth hon yn sail i ymchwil barhaus Dr Sharley sy’n ymchwilio i arferion amddiffyn rhyngbroffesiynol ledled y Deyrnas Unedig. Byddai’n hapus ateb unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth hon neu drafod ei gwaith parhaus ac yn y dyfodol yn y maes hwn.

Dr Sharley, Prifysgol Bryste
Lawrlwytho’r adroddiad

Cyhoeddwyd y blog hwn yn gyntaf gan Bolisi Bryste.

Mae ceisiadau am y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol yn agor

Ymunwch â miloedd o weithwyr proffesiynol o’r un anian sydd wedi ymrwymo i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial creadigol.

Mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi bod ceisiadau ar agor unwaith eto ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol, fel rhan o ail gam dysgu Creadigol trwy’r celfyddydau – cynllun gweithredu ar gyfer Cymru.

O heddiw ymlaen, gall ysgolion gychwyn ar daith gofiadwy a fydd yn caniatáu ichi archwilio creadigrwydd a sicrhau newidiadau sylfaenol yn y ffordd rydych chi’n gweithio. Byddwch yn ymuno â miloedd o weithwyr proffesiynol o’r un anian sydd wedi ymrwymo i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial creadigol a chyflawni eu gorau ym mhob maes dysgu a datblygu.

Ers dechrau’r rhaglen yn 2015, mae 658 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gyda dros 1,700 o athrawon wedi profi’r budd o gydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu.

Beth yw’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol?

Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhoi cyfle i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chefnogaeth asiantau ac ymarferwyr creadigol.

Mae pob prosiect yn unigryw ac wedi’i gynllunio i helpu i fynd i’r afael â heriau penodol a nodwyd yng nghynllun datblygu’r ysgol. Yn ogystal, ei nod yw meithrin creadigrwydd dysgwyr, codi cyrhaeddiad sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chefnogi newid ysgol gyfan i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022.

Cynnig Ysgolion Creadigol Arweiniol – yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl:

Bydd dod yn Ysgol Greadigol Arweiniol yn cefnogi’ch ysgol i:

  • mynd i’r afael â’ch blaenoriaethau datblygu ysgol
  • sicrhau dulliau trawsnewidiol o addysgu a dysgu
  • gwella canlyniadau i ddysgwyr a
  • datblygu eich creadigrwydd.

Bydd Ysgolion Creadigol Arweiniol llwyddiannus yn derbyn cyllid i archwilio:

  • sut y gall creadigrwydd ac ymagweddau creadigol at addysgu a dysgu drawsnewid canlyniadau dysgwyr a chefnogi newid yn y diwylliant dysgu mewn ysgolion
  • beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i bobl ifanc fod yn greadigol a sut maen nhw’n gwybod pryd mae’n digwydd
  • yr hyn y gall athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol eraill ei wneud i annog a datblygu creadigrwydd a
  • sut y gall rhinweddau ystafell ddosbarth sy’n gweithredu’n uchel gefnogi creadigrwydd ar draws y cwricwlwm cyfan

Cyllid:

Bydd ysgolion yn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun am ddwy flynedd academaidd gan dderbyn grant o £ 10,000. Ar ôl eu blwyddyn gyntaf, bydd yn rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi cwrdd â gofynion y Cynllun a bod ganddyn nhw gynllun clir ar gyfer cam nesaf eu hymglymiad.

  • Bydd cyllid grant yn talu am eich gwaith prosiect dros bob blwyddyn academaidd rydych chi yn y Cynllun. Disgwylir i chi wneud cyfraniad ysgol o 25% o gyfanswm y grant. Gellir talu am hyn gydag arian parod o gyllideb eich ysgol a / neu grantiau eraill a gall gynnwys cost amser eich Cydlynydd Ysgol (hyd at 10 diwrnod) yn gweithio i gefnogi eich ymgysylltiad fel Ysgol Greadigol Arweiniol

 Meini prawf cymhwysedd:

  • ar gael ar gyfer unrhyw ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth (Cyfnod Sylfaen – CA4)
  • ysgolion nad ydynt eto wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a
  • unrhyw ysgol partner o raglen Blwyddyn 3 datblygu ysgolion, ysgolion partner o raglen Datblygu Arweinwyr Creadigol ac ysgolion ‘clwstwr’ Ysgolion Creadigol Arweiniol (2015-2020)
  • Mae croeso hefyd i ysgolion a gymerodd ran yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ar-lein, nad ydynt eisoes wedi cymryd rhan yn y Cynllun wneud cais.

Yr ymrwymiad rydyn ni’n ei ddisgwyl gan ysgolion:

  • costau cyflenwi cyflenwi yr ydych yn eu hwynebu pan fydd cydlynydd yr ysgol a’r athrawon sy’n cymryd rhan yn mynychu digwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio Ysgolion Creadigol Arweiniol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu dros 1 diwrnod yn rhedeg rhwng 10 – 20 Tachwedd (ac eithrio dydd Llun).
  • caniatáu amser i’r athrawon sy’n cymryd rhan gynllunio, gwerthuso a myfyrio gyda’r holl bartneriaid a’u cefnogi i arbrofi ac addysgu’n greadigol
  • cynnwys athrawon a dysgwyr fel partneriaid gweithredol a chyd-lunwyr dysgu wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso
  • Dangos cefnogaeth weithredol i’r Cynllun gan y pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth
  • Defnyddiwch y dysgu o’r prosiect i lywio’r Cynllun Datblygu Ysgol yn y dyfodol

Sut i wneud cais

Dylai ysgolion lenwi’r ffurflen gais Ysgolion Creadigol Arweiniol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17.00 ar 7 Hydref 2020.

Byddwn yn anelu at hysbysu ysgolion o’n penderfyniadau erbyn 4 Tachwedd.

Os oes gennych gwestiynau am eich cais i’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gallwch gysylltu â ni ar dysgu.creadigol@celf.cymru ond cyn gwneud hynny fe’ch cynghorir i ddarllen y Llawlyfr yn llawn.