Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

21/04/2021
09:30 – 16:00

Cwrs undydd
Mae’r cwrs hwn yn cydweddu â’r un ar Ddatblygiad Plant ac yn edrych ar blant wrth iddyn nhw ddatblygu yn ystod y glasoed. Mae’r cwrs hwn yn edrych ar yr arddegau yn nhermau datblygiad corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Gall edrych ar y materion sydd dan sylw a ffyrdd o’u deall helpu i ymgysylltu â phobl ifanc a’u cefnogi’n effeithiol.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.