29/04/2021
09:30 – 12:30

Cwrs undydd
Bydd y cwrs ar-lein hwn, a gyflwynir mewn amser go iawn i nifer cyfyngedig o gyfranogwyr, yn cynnig hanfodion ymateb gwybodus i drawma yng nghyd-destun y sefyllfa gyfredol. I’r rhan fwyaf o bobl, bydd COVID-19 yn gysylltiedig â lefelau uwch o ansicrwydd, pryder a straen. Gall digwyddiadau sy’n achosi straen a braw greu bygythiadau i’n hymdeimlad o ddiogelwch, a chreu teimladau o dristwch dwys, a’n bod yn colli pŵer a rheolaeth yn ein bywydau. Gan fod y Deyrnas Unedig i mewn ac allan ac y bydd yn raddol ddechrau llacio’r cyfyngiadau ar symud, bydd ymarferwyr o bob cyd-destun yn ailgysylltu â’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Ar yr adeg hon, rhaid rhoi blaenoriaeth i geisio helpu plant i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd yn eu bywydau yn ystod y misoedd diwethaf, ac i weithwyr proffesiynol fedru cynllunio ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.