Mae ExChange: Care & Education yn ganolbwynt adnoddau ar-lein ‘Cymuned Ymarfer’ sydd â’r nod o ddarparu adnoddau a all helpu i wella profiadau a chanlyniadau addysgol i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd mewn gofal neu sy’n gadael gofal. Mae’r erthyglau yma yn rhoi mewnwelediad rheolaidd i’n Cymuned Ymarfer trwy ddarparu diweddariadau ar newyddion prosiect ac amlygu deunyddiau a ychwanegwyd yn ddiweddar ynghyd ag amlygu adnoddau a darlleniadau pellach. Mae cyfraniadau defnyddwyr yn cael eu croesawu a’u hannog. Os hoffech chi gyfrannu erthygl sy’n rhoi manylion eich profiadau neu’ch barn eich hun, cysylltwch â ni.