22.01.21 9:30 yb – 22.01.21 3:30 yp
Cwrs un-dydd
Ma’r cwrs rhithwir hwn yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc LHDT a’u perthynas â datblygiad plant. Bydd yn edrych ar faterion rhywioldeb ac adnabod rhywedd, a sut mae cefnogi plant, rhieni ac amgylcheddau proffesiynol. Nod y cwrs fydd meithrin hyder ymarferwyr a rheolwyr wrth ddelio gyda’r materion hyn.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i wella eu harferion a chreu amgylcheddau sy’n cefnogi LHDT. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr sy’n gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar hyd at glasoed ac wedyn.
Nodau’r cwrs:
- Datblygiad plant
- Cyfnodau allweddol o’u geni hyd oedolaeth
- Cyflymdra a dilyniant datblygiad
- Glasoed
- Rhywioldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol
- Hunaniaethau LHDT
- Trawsrywedd a materion ailbennu rhywedd
- Hawliau plant a barn plant
- Ymdrin â phryderon rhieni