Pennau’n Uchel: Grymuso plant i rannu eu barn a chael eu clywed

Prosiect tair blynedd gan Rwydwaith Maethu Cymru a ddechreuodd yn 2020 yw Pennau’n Uchel (Walking Tall). Mae’n gweithio gyda phlant ysgol gynradd mewn gofal maeth ac fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Maethu…