Daeth penderfyniadau bwydo babanod yn bwnc trafod cyfarwydd ymhlith llunwyr polisïau, academyddion, mamau a’r cyhoedd. Rhaid i famau, y mae llawer ohonynt ar y cam mwyaf agored i niwed yn eu bywydau, benderfynu pa opsiwn bwydo sydd orau iddynt hwy a’u babanod ond yn aml maent yn dod ar draws anawsterau corfforol, ymarferol neu ddiwylliannol wrth wneud y dewisiadau hyn. Yn ôl yr Arolwg Bwydo Babanod diweddaraf, yn y DU mae dros 80% o famau yn dechrau bwydo ar y fron ond dim ond 1% sy’n llwyddo i fodloni canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd o fwydo ar y fron yn unig ar 6 mis oed.

Mae ymchwil wedi dangos y gall pwyslais ar hyrwyddo bwydo ar y fron yn unig fod yn ddieithr i famau sy’n dewis cyflwyno llaeth fformiwla. Datgelodd ein hymchwil flaenorol fod mamau sy’n dechrau bwydo ar y fron ac yna’n symud i fformiwla yn ymddangos yn arbennig o agored i deimladau o drallod o ganlyniad i “fethu” mewn mamolaeth, a all yn ei dro arwain at deimladau o euogrwydd a chywilydd yn ystod y cyfnod bregus hwn. Nod Motherhood Quilt and Guilt yw creu trafodaeth am brofiadau emosiynol negyddol, fel cywilydd ac euogrwydd, sy’n deillio o gyflwyno fformiwla a bwydo ar y cyd sy’n debygol o atseinio gyda’r mwyafrif o fenywod yng Nghymru.

Bydd y prosiect cydweithredol gydag ymchwilwyr o Brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Northumbria’, yn archwilio profiadau cymhleth mamau o arferion bwydo drwy brosiect cwiltio cymunedol – yn unol â’r traddodiad cwiltio Ffeministaidd Cymreig. Er mwyn cymryd rhan yn y prosiect hwn, gwahoddir mamau i gyflwyno siwt gysgu baban a ddefnyddiwyd, gyda chlip llais neu destun ysgrifenedig o’u profiadau o fwydo i gyd-fynd ag ef. Bydd y deunyddiau hyn a roddwyd yn cael eu troi’n gwilt mewn cyfres o weithdai pwytho cymunedol gyda mamau plant o bob oed yn Abertawe ac Aberystwyth. Yn dilyn hyn, bydd y tîm ymchwil yn cyd-roi’r cwilt gorffenedig, ac electroneg sy’n sensitif i gyffwrdd i ymgorffori’r clipiau sain a recordiwyd ymlaen llaw. 

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn arddangos y cwilt rhyngweithiol hwn sydd wedi’i gyd-greu mewn lleoliadau ledled Cymru i ysgogi trafodaeth gyhoeddus am ddewisiadau bwydo babanod a phrofiadau cymhleth mamau o fod yn fam.  

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i daflen wybodaeth cyfranogwyr ar-lein y prosiect.

Neu cysylltwch â Dr Sophia Komninou sophia.komninou@swansea.ac.uk, Dr Gillian McFadyen gmm09@aber.ac.ukneu Dr Angelika Strohmayer angelika.strohmayer@northumbria.ac.uk