
Tabl Cynnwys
Mae diogelu oedolion yn broses syโn gwarchod hawl oedolyn i fyw mewn modd diogel, heb gael ei gam-drin aโi esgeuluso. Mae angen i bobl a sefydliadau gydweithio i atal pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth rhag cael eu cam-drin aโu hesgeuluso. Tra bod gan Awdurdodau Lleol ddyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu oedolion dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Gofal 2014 yn Lloegr a Deddf Cynorthwyo ac Amddiffyn Oedolion (Yr Alban) 2007, mae diogelu oedolion wedi cael llawer llai o sylw na gwaith diogelu plant yn hanesyddol.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-bwysleisio ei hymrwymiad i amddiffyn oedolion rhag cam-driniaeth ac esgeulustod drwy fesurau i fynd iโr afael รข cham-drin pobl hลทn a lleihau trais domestig. Bydd ein cynhadledd yn cael ei chyflwyno gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hลทn Cymru, a fydd yn tynnu sylw at rai dilemรขu cyfredol ym maes polisi ac ymarfer.
Bydd y gynhadledd hefyd yn arddangos ymchwil gyfredol a bydd yn canolbwyntio ar ystod o bynciau. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniadau a phodlediad am gam-drin gwahaniaethol, diogelu pobl syโn byw รข dementia, gweithio รข hunan-esgeuluso, ymateb i gam-drin domestig mewn poblogaethau hลทn a dysgu o ganfyddiadau Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru. Bydd y cyflwyniadau hyn yn nodi sut gellir gwella ymarfer cyfredol a byddan nhwโn berthnasol i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn ogystal รข gweithwyr iechyd proffesiynol aโr heddlu.
Cyflwyniad

Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hลทn Cymru
Premiรจres ar Dydd Llun 2 Chwefror 2026, 10:00yb
Gweminarau

Cam-drin Gwahaniaethol:
Defnyddio straeon a naratifau i ymchwilio i ymatebion proffesiynol
Mae cam-drin gwahaniaethol yn targedu unigolion ar sail nodweddion gwarchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas, beichiogrwydd, hil, crefydd, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol. Nid ywโn cael ei adrodd yn ddigonol ac nid oes llawer o ddealltwriaeth ohono.
Maeโr cyflwyniad hwn yn tynnu sylw at ymchwil gyfredol, gan gynnwys adolygiadau o ddiogelu oedolion, ac maeโn cyflwyno astudiaeth newydd gan ddefnyddio dulliau cwblhau straeon i archwilio ymatebion ymarferwyr.
Cyflwynydd: Dr Karl Mason
Dyddiad: Dydd Mercher 4 Chwefror
Amser: 12 – 1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Neidio dros glwydi a dangos eich lliwiau:
Llywio gweithio rhyngasiantaethol i gefnogi pobl syโn hunanesgeuluso
Mae hunanesgeuluso yn creu heriau unigryw, syโn peri risg i iechyd a lles unigolion, syโn galw am gydweithio aml-sefydliadol. Mae ymarferwyr yn wynebu anawsterau wrth fynd iโr afael รขโr cymhlethdodau hyn.
Maeโr weminar hon yn tynnu sylw at botensial gwaith rhwng asiantaethau i greu newid cadarnhaol aโr heriau syโn ei rwystro. Bydd yn trafod yr angen am chwilfrydedd proffesiynol ym maes diogelu a hunanesgeuluso yn ogystal รข โchwilfrydedd rhyngbroffesiynol.โ
Cyflwynydd: Dr David Orr
Dyddiad: Dydd Llun 23 Chwefror
Amser: 12 – 1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Diogelu Pobl sy’n Byw gyda Dementia:
Canfyddiadau astudiaeth sy’n edrych ar ymarfer ym maes gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a’r sector gwirfoddol
Mae dementia yn gwneud oedolion yn fwy agored i gamdriniaeth. Ymchwiliodd y prosiect hwn i ganfyddiad gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd, a gweithwyr yn y sector gwirfoddol o gamdriniaeth, cyfraith diogelu, a gwaith tรฎm.
Maeโr cyflwyniad hwn yn cwmpasu ymchwil ar bryderon diogelu ymysg oedolion hลทn sydd รข dementia yn Lloegr, amrywiadau yn รดl rhyw, oedran a rhanbarth, a chipolwg o gyfweliadau proffesiynol. Bydd canfyddiadau newydd a negeseuon allweddol i ymarferwyr yn cael eu pwysleisio.
Cyflwynwyr: Reena Lasrado, Jeremy Dixon ac Asri Maharani
Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Chwefror
Amser: 1 – 2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Dysgu yn dilyn Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR)
Mae Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn dangos cryfderau a gwendidau systemig ym maes diogelu. Gan ddadansoddi 25 APR (2016โ2022), mae’r adolygiad yn tynnu sylw at broblemau cydlynu amlasiantaethol, eirioli, asesiadau galluedd meddyliol, a dogfennu profiadau bywyd oedolion.
Maeโr cyflwyniad hwn yn crynhoiโr prif ganfyddiadau, eu goblygiadau o ran polisi, a sut y maeโn rhaid i hyn lunio proses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR). Maeโn pwysleisioโr angen am ymarferion diogelu systemig, atebol, syโn canolbwyntio ar bobl.
Cyflwynwyr: Michelle McManus ac Emma Ball
Dydd: Dydd Mercher 25 Chwefror
Amser: 1 – 2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Podlediad

Podlediad: Nodi ac ymateb i gam-drin domestig ymysg y boblogaeth hลทn โ gyda Dr Sarah Lonbay
Bydd y podlediad ar ddiogelu oedolion yn cael ei ryddhau yn ystod Dydd Mercher 18 Chwefror. Bydd yn trafod yr heriau a’r cymhlethdodau o adnabod ac ymateb i gam-drin domestig yn y boblogaeth hลทn. Cawn gwmni Dr Sarah Lonbay o Brifysgol Sunderland a chaiff ei gyflwyno gan Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerdydd. Cadwch olwg a gwrandewch ar ein podlediadau blaenorol.
Gwrandewch nawr:
Adnoddau
Papurau ac erthyglau cyflwynwyr y gynhadledd:
- Karl Mason: A method worth telling: Using story completion to understand social work responses to discriminatory abuse
- Reena Lasrado et al: Understanding Safeguarding for People Living with Dementia: A Realist Review of Conceptualization and Practice
- David Orr: โWe try to jump those hurdlesโ: inter-agency dynamics of referral with self-neglect cases in England
- Emma Ball, Michelle McManus et al: Dealltwriaeth yn Sgil Ymchwil: Atgyfnerthu Diogelu yng Nghymru
- Sarah Lonbay: Identifying and responding to domestic abuse in the older population: key challenges and complexities
Rhagor o adnoddau:
- Arweiniad ar gefnogi pobl syโn byw รข dementia gan Jeremy Dixon: Supporting people living with dementia to be involved in adult safeguarding enquiries
- Adnoddau diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (plant ac oedolion): Diogelu | Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru: https://diogelu.cymru/cy/

