Gweminar:
Adnoddau Perthnasau Agosaf – Grymuso gofalwyr yn y system iechyd meddwl 

Cyflwynydd:

Yr Athro Judy Laing, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bryste; Dr Kev Stone, Prifysgol De Cymru; Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mercher 10 Mehefin
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Bydd y sesiwn hon yn amlinellu canfyddiadau ymchwil ar brofiadau Perthnasau Agosaf a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o’r Ddeddf Iechyd Meddwl ac yn rhannu manylion adnodd ar-lein newydd rhad ac am ddim ar gyfer Perthnasau Agosaf am eu rôl yn y Ddeddf. Gwnaeth yr ymchwil nodi’r heriau emosiynol y mae gofalwyr/aelodau o’r teulu yn eu hwynebu pan mai nhw yw’r Perthynas Agosaf, a’r diffyg gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw am y rôl. Arweiniodd yr ymchwil at brosiect a ariannwyd gan UKRI, gan weithio gyda Pherthnasau Agosaf a gweithwyr proffesiynol i gyd-greu gwefan gydag adnoddau ar-lein am y rôl, gan gynnwys offer a thaflenni, yn ogystal â ffynonellau cymorth a hunanofal. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru ar gyfer rôl yr unigolyn a enwebwyd pan ddaw’r Ddeddf Iechyd Meddwl newydd i rym ymhen ychydig flynyddoedd. Byddwn ni’n ystyried y prif newidiadau cyfreithiol yn y maes hwn a sut y bydd yr adnoddau’n cael eu diweddaru i’w hadlewyrchu. 

Bywgraffiadau

Yr Athro Judy Laing, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bryste 

Mae Judy yn addysgu ac yn ymchwilio i gyfraith a pholisi iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bryste, gyda ffocws penodol ar y groesffordd rhwng cyfraith iechyd meddwl a hawliau dynol. Mae ganddi ddiddordeb hirsefydlog yn y maes hwn ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar agweddau ar gyfraith iechyd meddwl mewn llyfrau a cyfnodolion blaenllaw a chasgliadau wedi’u golygu.  Ymgymerodd â chymrodoriaeth academaidd Seneddol rhwng 2020 a 2022 yn Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin a chynhyrchodd bapurau briffio ar ddiwygio cyfraith iechyd meddwl, polisi iechyd meddwl a Deddf Galluedd Meddyliol (Diwydiad) 2019. Mae hi’n arwain y prosiect Adnoddau Perthynas Agosaf ac yn gweithio ochr yn ochr â thîm rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys cynghorwyr Perthnasau Agosaf, Mind, Rethink, Salwch Meddwl, arweinwyr Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) o Gyngor Dinas Bryste, academyddion gwaith cymdeithasol a chynghorwyr.

Mae Dr Kev Stone yn Ddeon Cyswllt ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn Athro Gwadd mewn Cyfraith a Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Leeds Beckett. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar yr effaith gymdeithasegol-gyfreithiol ar y rhai y mae deddfwriaeth iechyd meddwl yn effeithio arnyn nhw’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig ac yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy sy’n ymarfer. Mae’n awdur, yn brif siaradwr ac yn cyflwyno addysg broffesiynol arbenigol. 

Mae Dr. Jeremy Dixon yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar waith cymdeithasol, iechyd meddwl, cymdeithaseg risg ac ansicrwydd, gofal diwedd oes a diogelu oedolion. Ar hyn o bryd ef yw dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Llywydd Pwyllgor Ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol ar Gymdeithaseg Iechyd Meddwl a Salwch. Mae hefyd yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.