Digwyddiadau

Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.

Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.

Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.

" alt="thumbnail" />

Y Ddarlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024

Yn dilyn ein cynhadledd hynod lwyddiannus ar fabwysiadu yn 2023, mae’n bleser gennym lansio ein Darlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024. Ein siaradwr gwadd fydd yr Athro Laura Machin o Brifysgol Lancaster, a fydd yn cyflwyno ei gwaith ar y prosiect Adopters Advocacy Project. COFRESTRWCH NAWR. Mae’r Athro Machin – a gafodd ei mabwysiadu yn blentyn ac sydd nawr yn rhiant sydd wedi mabwysiadu – yn aelod o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fabwysiadu a Sefydlogrwydd. Lansiodd y prosiect Adopters Advocacy i amlygu lleisiau ac anghenion darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr yn ystod y broses fabwysiadu ac ar ôl i blentyn gael eu mabwysiadu gan sicrhau ar yr un pryd nad oes llai o sylw yn cael ei roi i anghenion plant sy’n cael eu mabwysiadu a’u teuluoedd biolegol. Cynhelir y ddarlith ddydd Mercher 20 Mawrth, 10.30am-12.00pm yn Adeilad Morgannwg, Caerdydd, canolbwynt y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn ddigwyddiad hybrid. COFRESTRWCH NAWR i ymuno wyneb yn wyneb neu ar-lein.

location-iconRoom -1.80, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, King Edward VII Avenue, Caerdydd, CF10 3WT (neu ar-lein)

time-icon10:30 - 20/03/2024

" alt="thumbnail" />

Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant

Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy'n canolbwyntio'n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol). Mae hyn yn mynd yn groes i fuddiannau dynion, menywod a phlant. Mae achosion y broblem yn gymhleth. Fe wnaeth y cyflwynydd ei astudio am y tro cyntaf wrth wneud ei PhD yn yr 1990au hwyr, ac mae tystiolaeth fwy diweddar yn awgrymu nad oes fawr o newid wedi digwydd ers hynny. Bydd y weminar hon yn cyflwyno'r broblem ac yn disgrifio’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymchwil a’r datblygiad sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i wella'r sefyllfa. Cafodd y cynllun Gwella Diogelu trwy Archwilio Ymgysylltu â Thadau (ISAFE) ei ddatblygu gan Sefydliad y Tadau a CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei effeithiolrwydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd mewn treial rheoledig ar hap a ariennir gan Foundations, y What Works Centre cenedlaethol ar gyfer plant a theuluoedd. Mae ISAFE yn seiliedig ar waith blaenorol gan y ddau sefydliad, sef hyfforddiant a gafodd ei ddatblygu gan y cyflwynydd a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag ymyriad ymgysylltu â thadau aml-haenog a gafodd ei ddylunio a gweithredu gan Sefydliad y Tadau. Cafodd hyn ei werthuso gan y cyflwynydd. Mae'r elfen hyfforddi sgiliau yn cyflwyno cyfweliadau ysgogol hefyd. Defnyddiwyd hyn am y tro cyntaf mewn cyd-destun gwasanaethau plant gan academyddion CASCADE.

location-iconOnline, ZOOM

time-icon12:00 - 15/04/2024

black and white abstract painting" alt="thumbnail" />

Seminar Y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) 'Hyrwyddo lles gofalwyr: ymchwil gyfredol a chyfeiriadau'r dyfodol'.

Research studies about carers’ wellbeing over the last decade have highlighted the impact of caregiving on informal carers’ financial, physical and mental health. In this seminar hosted by the Centre for Adult Social Care Research (CARE) at Cardiff University we focus on the implications for carers’ social wellbeing and present some of the latest research from the UK and Australia about the social welfare of carers. Join us for this free in-person seminar.

location-iconEvent Space, sbarc|spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ

time-icon11:00 - 21/05/2024

" alt="thumbnail" />

Gweminar:  O argymhelliad mewn darn o ymchwil i gamau gan y Llywodraeth: Storfa Ddiogelu Cymru  

Mae ein hymchwil, mewn cydweithrediad ag uwch ymarferwyr, wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ailwampio ei gweithdrefnau adolygu diogelu ar gyfer y digwyddiadau a'r marwolaethau mwyaf difrifol yng Nghymru oherwydd trais domestig, salwch meddwl, arfau ymosodol a'r digwyddiadau hynny sy'n cynnwys oedolion a phlant agored i niwed sy’n wynebu risg. Agwedd allweddol ar weithredu'r broses newydd ar gyfer yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) newydd oedd ein comisiynu i ddatblygu Storfa Diogelu Cymru (WSR), gan ddefnyddio arbenigedd troseddegwyr, arbenigwyr pwnc a gwyddonwyr cyfrifiaduron sy'n defnyddio technegau cloddio testun a dysgu peiriannol. Mae'r WSR yn unigryw yn y byd o ran ei chwmpas, ei diogelwch, ei ymarferoldeb a pha mor ganolog y mae i lywodraeth, a bydd yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i ddysgu ymhellach am faterion yn ymwneud â thrais, cam-drin, bod yn agored i niwed a diogelu. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod yr ymchwil sylfaenol, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r SUSR a’r WSR, arbenigrwydd y WSR yn adnodd i ymchwilwyr ac ymarferwyr, a'r potensial iddo gael effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer proffesiynol ledled Cymru.

location-iconAr-lein, ZOOM

time-icon13:00 - 29/04/2024

" alt="thumbnail" />

Gweminar: Galluogi siarad ac ail-fframio negeseuon: Gweithio'n greadigol ac ar y cyd er mwyn creu effaith

Mae'r cyflwyniad hwn yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio dulliau creadigol a chydweithredol fel technegau i gynhyrchu data ac i ledaenu gwybodaeth a chreu effaith. Ffocws y cyflwyniad yw astudiaeth ansoddol o brofiadau a dyheadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru (n=67). Gweithiodd y prosiect gydag ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal a defnyddiodd dechnegau gweledol, creadigol a chyfranogol i drin a thrafod profiadau 67 o blant a phobl ifanc o’u haddysg ac, yn bwysicach, eu barn ar beth y gellid ei wneud i'w gwella. Roedd y dull amlfoddol hwn yn rhoi cyfle i’r rhai a gymerodd rhan feddwl am eu profiadau goddrychol a chyffredin, ond sydd hefyd yn brofiadau pwysig, ac sy'n gweithredu ochr yn ochr â heriau mwy strwythurol ac yn rhyngweithio â hwy. Datblygwyd ystod o ffilmiau, cylchgronau, gwaith celf ac allbynnau cerddoriaeth ochr yn ochr ag adroddiad, erthyglau llyfr a chyfnodolion, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a gwefan, i sicrhau y gallai argymhellion y prosiect gyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol. Mae'r cyflwyniad hwn yn awgrymu bod angen rhoi llwyfan i leisiau plant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu llywio polisi ac arferion. Yn unol a hynny, mae angen i ymchwilwyr fod yn greadigol yn eu dulliau gweithredu o ran gwaith maes a lledaenu gwybodaeth, gan ddefnyddio pŵer y celfyddydau i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau bob dydd plant a phobl ifanc.

location-iconAr-lein, ZOOM

time-icon13:00 - 09/04/2024

" alt="thumbnail" />

Gweminar: Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.

Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad byr am sut y daeth CASCADE yn rhan o'r ymchwil hwn a phwysigrwydd gweithio gyda rhanddeiliaid o'r cam dylunio ymchwil i greu deilliannau ymchwil ar y cyd. Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gwnaeth y tîm ymchwil ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod yr ymchwil yn ychwanegu gwerth at arfer presennol. Bydd y sesiwn yn gorffen gyda throsolwg beirniadol o effaith y portffolio ymchwil hwn ar bolisi a darpariaeth gwasanaeth gan gyfeirio at rai o'r allbynnau a gafodd eu creu ar y cyd.

location-iconAr-lein, ZOOM

time-icon12:00 - 22/04/2024

Cymerwch olwg ar ein cynhadledd ddiweddaraf.

Mae cynadleddau ExChange Cymru yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd ag ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau gofal.
Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd

Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd

Rhag 13, 2023

1 – 24 Tachwedd 2023 Cynhelir y gyfres hon o gynadleddau drwy gydol mis Tachwedd 2023. Rydym wedi dod ag amrywiaeth o siaradwyr ac ymchwilwyr ynghyd i ystyried materion iechyd meddwl drwy gydol cwrs bywyd, gan gynnwys plant a phobl…