Mae ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

Mae ExChange Wales yn cynnig hyfforddiant rhad ac am ddim ac o safon uchel, a chefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru. Gydag arbenigwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn cyflwyno cynadleddau, gweithdai a gweminarau sy’n galluogi deialog a dysgu rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr. Mae gennym hefyd ystod amrywiol o adnoddau a phrosiectau ar-lein gan gynnwys fideos, podlediadau a blogiau. Yn hollbwysig, mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau, a llais pobl sydd â phrofiad byw yw’r elfen arweiniol, o ran ein dysgu.

Ein Cynadleddau

Mae Cynadleddau ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

Ein hadnoddau

Manteisiwch ar ein hystod o adnoddau sy’n helpu i ddod â phrofiadau a rennir ac arbenigedd ynghyd, ar gyfer ymarferwyr, y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau ac ymchwilwyr.

Ein Cymuned

Mae ExChange Wales yn dwyn cymuned o wneuthurwyr newid ynghyd, wrth i ni weithio i adeiladu gwell gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Un o Brosiect CASCADE yw ExChange

Cenhadaeth CASCADE yw gwella llesiant, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd ynghylch maes gofal cymdeithasol plant yn ogystal â thrwy rannu gwybodaeth newydd a chyfredol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau.