Cynhadledd Anableddau Dysgu ExChange Wales
HYDREF 2024
Nod y gyfres hon o gynadleddau yw canolbwyntio ar anabledd dysgu, gan dynnu sylw at yr ymchwil a’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn y maes hwn. Cafodd y teitl ‘Cael Eich Gweld, Eich Clywed a’ch Gwerthfawrogi’ ei ddewis i gydnabod y datblygiadau yn y maes hwn a’u hamlygu, yn enwedig y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan y rhai sydd ag anableddau dysgu ac ar y cyd â nhw. Mae’r gyfres o gynadleddau yn cynnwys plant ac oedolion a’i nod yw cyfleu’r llawenydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwn, yn ogystal â dathlu llwyddiannau.
Dewislen Cynnwys:
Cyflwyniad
Zoe Richards,
Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru
Dydd Mawrth 1 Hydref, 1pm
Gweminarau:
Babanod sy’n destun achos gofal – beth rydyn ni’n ei wybod am rieni ag anableddau neu anawsterau dysgu?
Siaradwr: Katy Burch, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Sefydliad Gofal Cyhoeddus, Prifysgol Oxford Brookes.
Dydd Mawrth 8 Hydref, 1-2pm
Heneiddio gydag anableddau dysgu
Siaradwr: Sara Ryan, Prifysgol Metropolitan Manceinion
Dydd Mercher 9 Hydref, 1-2pm
“Beth amdana i?” ‘Pobl ag anableddau dysgu sy’n byw ar gyrion cymorth: sut brofiad yw hyn, a beth sydd angen ei newid?’”
Siaradwr: Dr Edmund Coleman-Fountain, Prifysgol Efrog.
Dydd Llun 14 Hydref, 1-2pm
Llais pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn cyflogaeth â chymorth: Ymgysylltu er mwyn newid, a meithrin partneriaethau i hyrwyddo’r hyn sy’n gweithio.
Siaradwr: Andrea Meek a Dr Elisa Vigna, Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd a Gerraint Jones-Griffiths, Anabledd Dysgu Cymru/Cydymaith Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dydd Llun 21 Hydref, 1-2pm
Cyflwyniadau Fideo:
Gwaith Cymdeithasol a Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws
Siaradwr: Rebecca Govan,
Ymchwilydd Doethurol, Prifysgol Dinas Birmingham
Dydd Iau 17 Hydref, 1pm
Podlediadau:
Clwb Maggie – UCAN
Digwyddiad a gynhelir unwaith y mis yw Clwb Maggie, ac mae’n llawn hwyl, drama, gemau, gweithdai sain a chelf a chrefft. Mae’r gweithdy arbennig hwn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag amhariadau ar eu golwg ac anableddau ychwanegol.
Cyn bo hir
Adnoddau:
Theatr Hijinx
Hijinx yw un o’r cwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw yn Ewrop. Maent yn creu perfformiadau rhagorol gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistig ar lwyfan ac ar sgrîn, i Gymru ac i’r byd.
Mae Hijinx yn ymwybodol o’r gwahaniaeth y gall y celfyddydau a theatr ei wneud i iechyd a lles pobl. Yn eu Hadroddiad Effaith diweddar, gwelwyd y gwerth economaidd cymdeithasol y maent yn ei gael ar y celfyddydau. Maent yn gwneud hyn drwy roi sylw i straeon ysbrydoledig y bobl y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae hapusrwydd yn gynhwysol
Tair ffilm fer gan bobl ag anabledd dysgu a/neu bobl greadigol awtistig am bwy, beth a ble sy’n eu gwneud yn hapus.
Housemates
Fe ddechreuodd pan ddaeth Alan, dyn ifanc a gafodd ei eni â syndrom Down, i mewn i fywyd Jim, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Roedd Alan wedi bod yn breswylydd yn Ysbyty Trelái ers ei blentyndod; y cyfan yr oedd arno ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Roedd Jim yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn y byd, ond nid oedd yn gwybod sut i fynd ati. Gyda chymorth eu ffrindiau, fe ddechreuon nhw arbrawf a wnaeth drawsnewid sut roedd pethau’n cael eu gwneud, sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrthych sut i fyw. Dyma’r camau cyntaf i ddod â gofal sefydliadol i ben a dechrau Byw â Chymorth.
Mae Housemates yn bwerus ac yn cyffwrdd calonnau, ac mae’n cael ei pherfformio gan gast o actor-gerddorion niwroddargyfeiriol a niwro-nodweddiadol.
Ysgrifennwyd gan Tim Green.
Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade.
Mae Housemates wedi cael cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Rhagolwg o Housemates
Micro-raglen ddogfen Housemates
‘Sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed’ – Seminar
Dr Lorna Montgomery, Prifysgol Queens Belfast
CLWB MAGGIE – Digwyddiad
Cynyrchiadau UCAN
Fy Mywyd i, Fy Newis i – Yr hawl i berthynas – Seminar
Victoria Mason-Angelow, Lisa Davidson, Pam Bebbington, Jackie Scarrott, Dawn Wiltshire & Jessie Tilling, Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant (NTDi) a Fy Mywyd i, Fy Newis i (MLMC)
Cydgynhyrchu a dulliau sy’n seiliedig ar asedau – Podlediad
Sian Davies, Mencap Cymru
Mark John Williams, Trawsnewid Anabledd
Nicholas,arbenigwr drwy brofiad
Mae gweminarau blaenorol gan ExChange ar gael i’w gwylio yma: