Canolbwynt adnoddau “Cymuned Ymarfer” ar-lein yw Teulu & Chymuned sy'n ceisio darparu adnoddau a all helpu i gefnogi teuluoedd a chymunedau. Comisiynwyd ExChange: Family & Community gan Lywodraeth Cymru a'i ddatblygu ar y cyd â grŵp cynghori o dimau Teuluoedd yn Gyntaf a Flying Start. Mae'r erthyglau hyn yn rhoi mewnwelediad rheolaidd i'n Cymuned Ymarfer trwy ddarparu diweddariadau ar newyddion prosiect ac amlygu deunyddiau a ychwanegwyd yn ddiweddar. Mae cyfraniadau defnyddwyr yn cael eu croesawu a'u hannog. Os hoffech chi gyfrannu erthygl sy'n rhoi manylion eich profiadau neu'ch barn eich hun, cysylltwch â ni.
-
Iechyd y meddwl ynghylch pobl ifanc fu o dan ofal
Dros y misoedd diwethaf hyn, mae Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc a fu o dan ofal, gan eu hannog i ystyried rhai o faterion pwysig eu bywydau. Dros nifer o sesiynau, nododd y grŵp mai iechyd y meddwl yw’r prif bryder sy’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd…
-
Myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: o fyfyrwyr i raddedigion
Mae ymchwil Dr Ceryn Evans ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio profiadau myfyrwyr prifysgol â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio drwy’r brifysgol a chychwyn ar gyfnod o bontio o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio. Ar hyn o bryd, mae hi’n recriwtio cyfranogwyr i lywio ei hymchwil. Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yma…
-
Yr argyfwng costau byw a’i effaith ar addysg
Mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn bwnc llosg ers misoedd, wrth i brisiau godi a llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd gwneud i’w hincwm ymestyn. Ond gwyddom lawer llai hyd yn hyn am sut mae’r pwysau ariannol ehangach hynny yn effeithio ar blant yn yr ystafell ddosbarth. Mae gwaith ymchwil diweddaraf Ymddiriedolaeth Sutton yn edrych ar y cwestiwn hollbwysig hwnnw…
-
Teuluoedd sy’n gwahanu: Profiadau o wahanu a chymorth
Mae adroddiad newydd wedi’i lansio, sy’n darparu tystiolaeth gan rieni a’u plant am eu profiadau pan wahanodd eu rhieni…
-
‘Llywio’r Storm’: animeiddiad byr am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Mae myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cynhyrchu animeiddiad byr, ‘Llywio’r Storm’ sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith…
-
CLASS Cymru: Cefnogi pobl sydd â phrofiad o ofal i gael addysg uwch yng Nghymru
Staff o CASCADE a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wefan newydd i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru a’r rhai sy’n eu cefnogi i ddysgu mwy am addysg uwch a phontio i’r brifysgol…
-
Plentyndod Chwareus – hyrwyddo plentyndod ‘llawn’ o chwarae
Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i gynnig rhagor o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartrefi ac yn eu cymdogaethau…
-
Adnoddau ysgol i hyrwyddo defnydd effeithlon o ynni yn y cartref
MaeNational Energy Action(NEA) wedi creu adnoddau addysg ar-lein newydd i helpu plant ysgolion cynradd i ddod yn arbenigwyr ynni cartref. Mae’r heriau’n cael eu haddasu o rai o’u deunyddiau addysg mwyaf poblogaidd ac yn cyflwyno plant i gysyniadau fel o ble mae ynni’n dod, beth rydyn ni’n ei ddefnyddio ar ei gyfer, a sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn effeithlon gartref…
-
“Allwn ni ddim dal i fyny”
Yn ddiweddar cyhoeddodd Leicestershire Cares ganfyddiadau asesiad cyflym o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc agored i niwed yng Nghaerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland…
-
Cwrs llais creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Mae Llais Creadigol yn rhaglen hyfforddi unigryw sy’n cynnig y llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, magu hyder creadigol, a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol…