Stadiwm King Power lawn dop yn cefnogi cysylltiad, partneriaeth, creadigrwydd a newid!

Ddydd Mawrth 12fed Tachwedd cynhaliom ein cynhadledd #PowerToChange yn stadiwm King Power. Daeth cyfranogwyr o bob rhan o’r sector busnes, cymunedol a chyhoeddus ac ymunodd amrywiaeth o bobl ifanc â nhw a chael cyfle i rwydweithio a chymdeithasu ym mhentref bywiog yr arweinwyr cymunedol, lle roedd gan amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol llawr gwlad stondinau a lle buodd podledwyr ifanc yn cyfweld â’r cyfranogwyr. Gwnaeth y bobl ifanc AAAA rydyn ni’n gweithio gyda nhw ddefnyddio’r gynhadledd fel cyfle i ddatblygu profiad gwaith a herio stereoteipiau am bobl ifanc AAAA trwy drefnu’r digwyddiad, a gwnaethon nhw hyn gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb go iawn.

Gan agor y gynhadledd, dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Kieran Breen,

Rwy’n gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni ddysgu o ddoethineb a phrofiad cyfunol y rhai sydd yma, ac i greu cysylltiadau a phartneriaethau newydd. Os gallwn ni adeiladu ar hyn a dod yn barotach i weithio mewn partneriaethau creadigol ac ystwyth, gallwn droi anobaith yn obaith a sicrhau newid parhaol.

Kieran Breen, Prif Swyddog Gweithredol Leicestershire Cares

Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys

Sophia Worringer, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’i hadroddiad “A United Nation”, sy’n nodi cyfres o argymhellion ar wneud i waith dalu, creu strydoedd diogel, adeiladu cymunedau sefydlog, cefnogi teuluoedd bregus, a hyrwyddo’r genhedlaeth goll. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y llywodraeth yn camu’n ôl a grymuso ac ariannu grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i ddefnyddio eu gwybodaeth leol, eu sgiliau a’u profiad i fynd i’r afael â materion lleol.

Rhannodd Grace Strong, Pennaeth Atal, Cyfarwyddwr Strategol Heddlu Swydd Gaerlŷr, Rhwydwaith Lleihau Trais (VRN) sut roedd y VRN wedi ceisio sefydlu partneriaethau cymunedol wrth wraidd popeth a wnânt a sut roedden nhw fel tîm bob amser yn canolbwyntio ar ataliaeth hirdymor. Gallai pob un ohonyn nhw gyflwyno heriau a newidiadau mewn diwylliannau gwaith sydd wedi bod werth yr ymdrech, ac mae eu data’n dangos bod y dull gweithredu hwn yn gweithio a’u bod yn llwyddo i leihau troseddau treisgar yn effeithiol.

Terry Galloway, Eiriolwr Pobl sy’n Gadael Gofal. Rhannodd Terry rywfaint o’i brofiad fel person sydd wedi gadael gofal a sut mae wedi defnyddio’r profiad bywyd hwn i adeiladu cynghrair dros newid, a oedd hyd yma wedi perswadio 106 o awdurdodau lleol i gydnabod profiad o ofal fel nodwedd warchodedig, sy’n dangos, pan mae pobl yn cydweithio â ffocws ac angerdd, fod newid yn bosibl.

Daveena, person ifanc a seren Leicestershire Cares. Seren y bore heb os oedd Daveena, a rannodd ei brwydrau a’i heriau fel menyw ifanc â phrofiad o ofal, a sut, gyda chefnogaeth sefydliadau fel Leicestershire Cares, roedd hi’n benderfynol nid yn unig o wella ei bywyd hithau ond hefyd fywydau pobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Roedd hyn wedi cynnwys ymgyrchu’n llwyddiannus yn lleol gan annog y cyngor Sir a’r Ddinas i gydnabod profiad o ofal fel nodwedd warchodedig a gweithio gyda phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal i gynhyrchu fideo am eu bywydau sy’n herio stereoteipiau ac yn galw am “newid i’r sgript”.

Roedd gan y cyfranogwyr amrywiaeth o weithdai i’w mynychu a oedd yn cynnwys:

  • All you need is love, a village and a washing machine! Arweinydd y Gweithdy: Kieran Breen, Prif Swyddog Gweithredol Leicestershire Cares
  • “What You Saying?” Building Bridges Between Young People and the Public Sector Arweinydd y Gweithdy: Jacob Brown, Swyddog Ymgysylltu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Bwrdd Gofal Integredig y GIG
  • Capturing Outcomes through Media Arweinydd y Gweithdy: Aaron Todd, Leicestershire Cares a John Coster, Documentary Media Centre
  • Care experience as a protected characteristic: what are the next steps that we want to see? Arweinydd y Gweithdy: Terry Galloway, Eiriolwr Pobl sy’n Gadael Gofal
  • The benefits of supported Internships for SEND young people Arweinydd y Gweithdy: Ross Cox, Leicestershire Cares a Jo Dawson, Rheolwr Prosiect ar gyfer cynllun Gweithlu Hirdymor y GIG
  • The Lifelong Impact of a Criminal Record Arweinydd y Gweithdy: Dr Nicola Collett, Darlithydd mewn Cyfiawnder Cymunedol a Throseddol, Prifysgol De Montfort

Er bod ’na ystod amrywiol o weithdai, un thema gyffredin a godai o hyd oedd pa mor bwysig yw hi i’r sector cyhoeddus, cymunedol a busnes gydweithio.

Mae datblygiad lleol wir yn stôl deircoes, ac os torrwch chi un neu ddwy o’r coesau i ffwrdd – cymuned, busnes, neu’r sector cyhoeddus – fydd hi ddim yn gweithio, a dyna pam fod angen partneriaethau cydlynol arnom ni.

Sgriniwyd “Change the Script” am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn: ffilm fer am fyw gyda phrofiad o ofal. Gwnaed y ffilm gan bobl ifanc â phrofiad o ofal a fu’n gweithio mewn partneriaeth â Leicestershire Cares gyda pherfformiad gan Dah Gee Starz o #MadeAtLeicestershireCares, a berfformiodd eu cân #PowerToChange am y tro cyntaf i gymeradwyaeth frwd. Dangosodd y ddau ddigwyddiad sut y gall defnyddio’r celfyddydau fod yn ffordd bwerus o gael pobl ifanc i nodi materion allweddol a siarad amdanyn nhw.

Wrth gloi’r gynhadledd, gofynnwyd i’r cynrychiolwyr lenwi cardiau addewid ac ystyried:

  • Cysylltiad: A wnewch chi estyn allan a gwneud cysylltiadau i adeiladu rhwydwaith sy’n agor drysau i bobl ifanc ac yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt?
  • Partneriaeth: Allwch chi nodi unrhyw sefydliadau i gydweithio â nhw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, parhaol? Efallai eich bod wedi cwrdd â rhai yma heddiw!
  • Creadigrwydd: Allwch chi feddwl am ddulliau ffres o greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc lwyddo?
  • Newid: Mae pob newid mawr yn dechrau gyda cham bach. A wnewch chi gymryd y cam cyntaf hwnnw i droi eich gweledigaeth ar gyfer pobl ifanc yn gamau gweithredu go iawn?

Ers i’r gynhadledd gau rydyn ni wedi cael ein gorlethu gan adborth cadarnhaol fel

“Ar ôl ffurfio partneriaeth yn y gynhadledd, rydw i wedi cymryd camau dilynol sydd wedi arwain at ailddylunio ein taflenni sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc”

“Des i’n ymwybodol iawn o gymaint o faterion lle gall ein busnes ni ymgysylltu a chynnig cymorth”

“Unwaith eto mae Leicestershire Cares wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd gweithio heb seilo, ego na logo a beth y gellir ei gyflawni trwy fod yn greadigol ac yn ystwyth”

“Gadewais yn teimlo wedi fy ysbrydoli a bod cymaint y gall y GIG a’r ICS ei ddysgu o’ch model #PowerToChange.”

“Ces i fy atgoffa pam mae’n rhaid i ni wrando ar y rhai sydd y tu allan i’n cornel gysur arferol a faint sydd gan bobl ifanc i’w gyfrannu os cânt eu cefnogi”

Mynychwyr y gynhadledd

Fel tîm rydyn ni’n ymrwymedig i weithio gyda’n partneriaid niferus i symud y gwaith hwn yn ei flaen, a byddwn yn adeiladu ar y gefnogaeth a’r ewyllys da a gynhyrchwyd gan y gynhadledd i ddatblygu partneriaethau creadigol ac ystwyth ymhellach ar draws y sector cymunedol, busnes a chyhoeddus sy’n sicrhau newid parhaol i bobl ifanc a chymunedau.

Dim ond y dechrau yw heddiw – drwy gydweithio, gallwn ni gyflawni cymaint mwy.

Cyfranogwr Leicestershire Cares

I gael rhagor o wybodaeth am:

Ein dull gweithredu #PowerToChange https://www.leicestershirecares.co.uk/about-charity/our-approach/power-to-change/

Adroddiad ‘A United Nation’ CSJ https://www.centreforsocialjustice.org.uk/library/a-united-nation

Taith Daveena https://www.vulnerability360.org.uk/my-care-experience-journey/