Ers Ionawr 2021 mae Dr Louise Roberts, Dr Dawn Mannay a Rachael Vaughan wedi bod yn gweithio ar brosiect Effaith a ariennir gan ESRC i herio stigma, gwahaniaethu, a chanlyniadau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac sydd yn ei adael. Fel rhan o’r prosiect hwn, maent wedi tynnu ar ymchwil Dr Louise Roberts, gan weithio gyda rhieni â phrofiad o ofal a sefydliad partner Voices From Care Cymru, NYAS Cymru a TGP Cymru i gynhyrchu siarter arferion gorau ac adnoddau ehangach.  

Bydd y dudalen hon yn gartref i’r holl adnoddau a gynhyrchir fel rhan o’r prosiect hwn i godi ymwybyddiaeth a gobeithio creu newid ystyrlon i rieni sydd mewn gofal ac yn ei adael. Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o arferion gorau o bob rhan o Gymru a’r DU

Cefnogi Rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol

Ymchwil

Rhwng 2014 a 2019, bu Louise yn ymchwilio beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc mewn gofal ac sy’n gadael gofal yn dod yn rhieni. Wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, roedd y prosiect Cymru gyfan yn cynnwys safbwyntiau rhieni, gweithwyr proffesiynol statudol a gweithwyr proffesiynol yn y trydydd sector, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad eilaidd o’r data presennol.

Llyfr rhad ac am ddim i’w lawrlwytho 

Clawr llyfr Louise Roberts 'The children of looked after children'

Mae’r llyfr hwn, a gyhoeddwyd gan y Wasg Polisi, yn manylu ar ganfyddiadau’r astudiaeth ymchwil 5 mlynedd.
Mae’r llyfr wedi’i drefnu’n dair adran thematig, sy’n archwilio canlyniadau, profiadau a chefnogaeth i rieni mewn gofal a’i adael.

Daw’r llyfr i ben gyda llythyr gan riant â phrofiad o ofal, Jen, sy’n gwneud apêl am newid mewn polisi ac ymarfer.

Mae’r llyfr AM DDIM i’w lawrlwytho ac mae ar gael yma

Y Siarter

Mae Siarter arfer da wedi’i ddatblygu er mwyn cryfhau cefnogaeth rhianta gorfforaethol i rieni mewn gofal ac sy’n gadael gofal. Cynhyrchwyd y Siarter gyda rhieni â phrofiad o ofal ac elwodd ar ymgynghoriadau helaeth â gweithwyr proffesiynol yn y sector statudol a’r trydydd sector. 

Mae’r Siarter yn ystyried yr ystod o gefnogaeth a ddylai fod ar gael i bobl ifanc cyn ac ar ôl iddynt ddod yn rhieni.

Mae’r ffilm hon yn crynhoi ymrwymiadau’r siarter:

Mae fersiwn lawn y siarter, ynghyd â lle i lofnodwyr, ar gael yma: 

Mae fersiwn poster o’r siarter ar gael yma: 

Poster gyda hymrwymiadau tel rhieni corfforaethol

Local authorities that have committed to the charter can be seen on the interactive map below.

Llofnodwyr Siarter

Rydym yn falch o fod mewn partneriaeth â Terry Galloway a’r wefan Gwella’r Cynnig i Ymadawyr Gofal lleol a lansiwyd yn ddiweddar. 

Ar hyn o bryd mae Terry a’i dîm yn hyrwyddo’r siarter ac yn annog pobl i gofrestru. Mae rhestr o’r llofnodwyr presennol i’w gweld yma

Podlediad

Mae’r rhifyn arbennig o’r podlediad hwn yn cynnwys rhai o’r bobl a’r sefydliadau allweddol sydd wedi cefnogi ymchwil a datblygu’r siarter arfer da. Mae Louise a Rachael yn siarad â Chris Dunn ac Emma Phipps-Magil o VFCC, Helen Perry o NYAS Cymru a Jackie Murphy o TGP Cymru. Rydym hefyd yn clywed gan ddau riant â phrofiad o ofal, Jen a Syd, sy’n siarad am eu rhan yn y siarter a sut maen nhw’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.

Dwy dwylo oedolyjn gyda dwylo plentyn ar ei ben

Gweminar

Cynorthwyo rhieni o dan ofal ac wedi hynny

Dr. Louise Roberts a Rachael Vaughan, Prifysgol Caerdydd.

9 Tachwedd

Roedd digwyddiad hwn yn manylu ar ymdrechion diweddar i lunio siarter arfer gorau ar y cyd. Ei nod yw creu newid ystyrlon i rieni o dan ofal awdurdod lleol ac wedi hynny. Mae’r siarter wedi’i gyd-gynhyrchu â rhieni, ymarferwyr a llunwyr polisïau profiadol ym maes gofal ac mae wedi’i hanelu at Rieni Corfforaethol; gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gynorthwyo pobl ifanc sydd o dal ofal gwladol. Yng Nghymru, caiff rhieni corfforaethol eu cyfarwyddo i geisio’r un deilliannau i blant o dan ofal yr awdurdod lleol ag y byddai unrhyw riant da yn ei geisio ar gyfer eu plentyn eu hunain. Roedd digwyddiad hwn yn rhannu’r siarter arfer gorau a’r adnoddau ehangach a ddatblygwyd am y pwnc pwysig hwn gan gynnwys trafodaeth ar gynnal ymchwil yn y maes gan Dr Louise Roberts.  Bydd rhieni sydd o dan ofal neu nad ydynt yn cael gofal mwyach o gymorth wrth ddatblygu’r digwyddiad hwn.

Mae’r gweminar yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Enghreifftiau o Arferion Gorau

Os hoffech chi rannu enghreifftiau o arferion gorau gyda ni ynglŷn â sut rydych chi’n gweithio gyda rhieni mewn gofal ac sy’n ei adael yn eich awdurdod lleol, cysylltwch â ni cascade@caerdydd.ac.uk

NYAS project Unity
Llun o dwylo oedolyn yn dal traed babi

Cyhoeddiadau

Roberts, L., Maxwell, N. and Elliott, M. 2019. When young people in and leaving state care become parents: What happens and why?. Children and Youth Services Review 104, pp. 104387. (10.1016/j.childyouth.2019.104387)

Roberts, L. 2019. ‘A family of my own’: When Young People in and Leaving State Care become Parents in Wales. In: Mannay, D., Rees, A. and Roberts, L. eds. 2019. 
Children and young people ‘looked after’? Education, intervention and the everyday culture of care in Wales. Cardiff: University of Wales Press.

Roberts, L.et al. 2018. 
Sexual health outcomes for young people in state care: Cross-sectional analysis of a national survey and views of social care professionals in Wales. Children and Youth Services Review 89, pp. 281-288. (10.1016/j.childyouth.2018.04.044)

Roberts, L.et al. 2017. 
Care-leavers and their children placed for adoption. Children and Youth Services  Review 79, pp. 355-361. (10.1016/j.childyouth.2017.06.030)

Roberts, L. 2017. 
A small-scale qualitative scoping study into the experiences of looked after children and care leavers who are parents in Wales. Child & Family Social Work 22(3), pp. 1274-1282. (10.1111/cfs.12344)