• Cefnogi iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

    Mae’n bosibl y bydd plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal yn profi mwy o broblemau gyda’u hiechyd meddwl a bod eu lles yn is na’u cyfoedion nad ydynt wedi cael profiad o ofal. Ystyrir bod ysgolion yn lleoliad pwysig ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a lles pob plentyn a pherson ifanc,… Read More

  • Cinio Nadolig Caerdydd 2023

    Y llynedd, bu grŵp o westywyr yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, rhai o CASCADE, yn cydweithio i ddarparu cinio Nadolig a dathliad i bobl â phrofiad o ofal. Roedd y tîm yn nerfus iawn cyn y diwrnod mawr, gydag atgyfeiriadau’n dal i gyrraedd hyd at yr wythnos cyn y Nadolig. Gwirfoddolodd cogydd am dridiau i sicrhau… Read More

  • bGweithio gyda Phlant sydd â Phrofiad o Esgeulustod

    Esgeulustod yw’r rheswm mwyaf cyffredin i blentyn fod ar gynllun amddiffyn plant yn y DU – yn 2021 roedd hyn yn cyfateb i dros 27,000 o blant (NSPCC, 2022). Canfuwyd bod esgeulustod yn gyffredin mewn tri chwarter o adolygiadau achosion plant sy’n ymwneud â marwolaeth neu niwed difrifol i blant, ac mae hanner yr holl… Read More

  • CADW MEWN CYSYLLTIAD

    Bydd hunaniaeth plentyn mabwysiedig bob amser yn cwmpasu sawl elfen ac mae iechyd seicolegol a meddyliol tymor hir plentyn yn dibynnu ar ddod o hyd i atebion i gwestiynau sylfaenol am bwy ydyn nhw. Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal gynllun cyswllt, gan gynnwys y rhai sydd i’w mabwysiadu. Gall hyn fod naill ai’n… Read More

  • Sefydlogrwydd Cynnar

    Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw Sefydlogrwydd Cynnar sy’n cynnig sefydlogrwydd ar gam cynnar iawn, gan osgoi symudiadau mynych a thrawma yn sgil gwahanu a cholli ffigurau ymlyniad, hyd nes y bydd llys wedi gwneud penderfyniad am gynllun gofal terfynol plentyn. Mae’r angen am gynllunio gofal ansawdd uchel i blant a thracio deublyg yn… Read More

  • Pam mae darpar rieni mabwysiadol yn dewis mabwysiadu plant hŷn?  

    Y broses asesu Mae’n ofynnol i ddarpar rieni mabwysiadol yng nghyd-destun y DU fynd drwy broses asesu. Fel rhan o’r broses asesu, mae’n ofynnol i ddarpar rieni ddilyn hyfforddiant i’w paratoi ar gyfer mabwysiadu, yn yr hyfforddiant hwn byddant yn dysgu am anghenion posibl y plant a fydd yn cael eu lleoli gyda nhw.   Yn… Read More

  • Hil mewn Mabwysiadu, y Presenoldeb Absennol.

    Yn y 1960au ystyriwyd nad oedd modd mabwysiadu plant o gefndiroedd Du a Mwyafrif Byd-eang ac anogwyd mabwysiadu traws-hil fel na fyddai’n rhaid i blant aros mewn gofal maeth neu breswyl hirdymor. Ond wrth i dystiolaethau rhai oedolion a fabwysiadwyd yn draws-hiliol gael eu clywed, heriwyd gallu mabwysiadu traws-hil i sicrhau bod plant yn cael… Read More

  • Harriet yw fy enw i

    Dw i’n dod o Lundain. Yn 17 oed roeddwn ‘dan ofal’ mewn trefniant a gymeradwywyd gan y wladwriaeth, y tu allan i’m cartref teuluol uniongyrchol neu estynedig.  Cefais fy mhlentyn cyntaf yn 18 oed.  Ar ôl fy apwyntiad cyn geni cyntaf yn yr ysbyty daeth i’r amlwg nad oedd bydwraig wedi’i hargyhoeddi ynghylch fy ngallu… Read More

  • Jen yw fy enw i

    Jen yw fy enw i, rwy’ yn fy nhridegau cynnar ac yn byw gyda fy ngŵr a’m mab ifanc. Dw i’n feichiog hefyd a disgwylir i mi esgor unrhyw ddiwrnod. Dyma fydd fy mhumed plentyn ond dyma fydd y tro cyntaf i mi esgor heb boeni am y Gwasanaethau Plant, heb fod yn aros am… Read More

  • Rhuban Gwyn

    Roedd cyfres y gynhadledd yn cynnwys goroeswyr camdriniaeth, ymchwilwyr i Gam-drin Domestig a gweithdai i ymarferwyr. Helpais yr Athro Alyson Rees i chwilio am ddeunydd artistig i gefnogi’r gyfres hon o gynadleddau. Gwnaethom gydnabod y gall celf a delweddaeth gyfleu rhywbeth na all papurau ymchwil a chyflwyniadau ei wneud. Drwy fy ymchwil, deuthum o hyd… Read More

  • Helô, fy enw i yw Gillian

    a dwi’n dod o’r Alban  Wrth dyfu, fe dreulies i amser mewn gofal gan berthynas, ysgolion preswyl, llety diogel a chartrefi maeth.  Fe ges i fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn i’n 17 oed. Mae gen i 2 blentyn arall; roeddwn i’n 23 pan ges i fy ail blentyn a 27 pan ges i fy nhrydydd… Read More

  • Fy enw i yw Syd

    Fe ges i fy ngeni yn Lloegr ond fe symudes i Gymru pan oeddwn i’n ifanc.  Wrth dyfu, fe dreulies i amser mewn gofal maeth a gofal preswyl. Fe ges i fy nerbyn i ofal am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 5 oed ac fe adawes i pan oeddwn i’n 16. Roeddwn i’n byw… Read More

  • Fy enw i yw Erika

    Rwy’n dod o’r Eidal. Fel plentyn treuliais 8 mlynedd mewn gofal maeth, mewn 4 teulu gwahanol (roedd deulu yn berthnasau i mi). Ganwyd fy merch gyntaf pan oeddwn i’n 25 a’r ail pan oeddwn i’n 29.  Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?   Rhoddodd fy… Read More

  • Fy enw i yw Orges

    Dwi’n dod o’r Eidal ond dwi o dras Albanaidd (h.y. o Albania). Fel plentyn, treuliais 13 blynedd mewn gofal preswyl. Cefais fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn yn 23 oed ac fy ail un pan oeddwn yn 26 oed. Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?… Read More

  • Fy enw i yw Daniele,

    Rwy’n dod o’r Eidal ac yn blentyn treuliais gyfnod mewn gofal maeth a chyfnod mewn gofal preswyl, am gyfanswm o 11 o flynyddoedd. Fe ddes i’n dad yn 34 oed. Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant? Rydyn ni’n dysgu llawer o blentyndod, o’r ffordd… Read More

  • Swper Nadolig Caerdydd

    Gall y Nadolig fod yn gyfnod arbennig o anodd, yn llawn emosiynau sy’n gwrthdaro, i bobl ifanc sydd wedi tyfu i fyny mewn gofal.  Mae ein gwaith ar draws CASCADE wedi amlygu dros flynyddoedd lawer rai o’r rhwystrau y gall pobl â phrofiad o ofal eu hwynebu wrth adael gofal. Maent ddwywaith mor debygol o… Read More

  • Deall y ffordd y caiff polisi gofal cymdeithasol plant yng Nghymru ei roi ar waith: astudiaeth o’r canllawiau newydd am gam-fanteisio ar blant yn rhywiol.

    Sut caiff polisïau eu gweithredu mewn gwasanaethau plant? Datblygu theori rhaglen gychwynnol i werthuso’r broses o weithredu’r canllawiau newydd ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yng Nghymru.

  • Grymuso’r rhai sydd gerllaw yn erbyn Cam-drin

    Y mater cudd sy’n fusnes i bawb – Grymuso’r rhai sydd gerllaw yn erbyn Cam-drin Bryony Parry, Uned Atal Trais Cymru Mae cam-drin domestig yn bryder mawr o ran iechyd y cyhoedd, hawliau dynol a chyfiawnder troseddol, ac mae’n costio tua £66 biliwn i’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn.   Er ei bod yn broblem gronig, mae… Read More

  • Cam-drin yw hyn: Profiadau menywod ifanc o orfodaeth rywiol 

    Cam-drin yw hyn: Profiadau menywod ifanc o orfodaeth rywiol  Dr Ceryl Davies, Prifysgol Bangor  Mae’r gweminar hwn yn cyflwyno ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar sut mae menywod ifanc yn trafod eu hagweddau at berthynas agos a’u profiadau o fod mewn perthynas o’r fath. Y nod cyffredinol oedd nodi, archwilio a gwella gwybodaeth am natur… Read More

  • Pan fydd popeth yn cael ei droi ar ei ben gartref: Plant a gollodd riant oherwydd dynladdiad domestig 

    Pan fydd popeth yn cael ei droi ar ei ben gartref: Plant a gollodd riant oherwydd dynladdiad domestig  Eva Alisic, Prifysgol Melbourne. Mae’r sesiwn hon yn rhoi mewnwelediadau ymchwil ynghylch plant sydd wedi cael profedigaeth oherwydd trais domestig angheuol. Mae hefyd yn cynnig gofod myfyrio i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda thrawma a galar ymhlith… Read More