Mae ymarfer mabwysiadu wedi newid dros y 30 mlynedd diwethaf ac wedi dod yn fwy cynhwysol wrth i newidiadau mewn deddfwriaeth annog mabwysiadu ymhlith grŵp ehangach o bobl, fodd bynnag, y cyswllt rhwng mabwysiadu a materion hil ac ethnigrwydd yw’r mater mwyaf dadleuol.

Yn y 1960au ystyriwyd nad oedd modd mabwysiadu plant o gefndiroedd Du a Mwyafrif Byd-eang ac anogwyd mabwysiadu traws-hil fel na fyddai’n rhaid i blant aros mewn gofal maeth neu breswyl hirdymor. Ond wrth i dystiolaethau rhai oedolion a fabwysiadwyd yn draws-hiliol gael eu clywed, heriwyd gallu mabwysiadu traws-hil i sicrhau bod plant yn cael hunaniaethau hiliol/ethnig cadarnhaol ac ymdeimlad o berthyn.  Ers y 1980au, fe’i ystyrir yn ymarfer da bod plant Du yn cael eu gosod gyda theuluoedd sy’n adlewyrchu eu cefndiroedd hiliol a diwylliannol lle bo’n bosibl. Ymgorfforwyd hyn yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002, a chyfeiriwyd at yr arfer yn gyffredinol fel lleoliadau un hil. Beirniadwyd hyn gan lywodraethau olynol oedd yn dadlau bod plant Mwyafrif Byd-eang yn aros yn hirach i gael eu gosod i’w mabwysiadu, yn bennaf o ganlyniad i weithwyr cymdeithasol oedd yn ‘obsesiynol’ ynghylch paru ethnig ac oedd yn aros am gydweddiad ethnig perffaith.

Mae ymchwil wedi herio naratifau o’r fath o du’r llywodraeth a’r cyfryngau, gan awgrymu bod oedi gyda gosod plant i’w briodoli i raddau helaeth i brosesau’r llysoedd. Eto, yn 2014, ceisiodd y Ddeddf Plant a Theulu ddileu unrhyw rwystrau at fabwysiadu gan ddiddymu’r gofyniad y dylai asiantaethau mabwysiadu roi ystyriaeth ddyledus i ethnigrwydd, crefydd, diwylliant, ac iaith. Roedd fy ymchwil doethurol yn ceisio deall sut roedd gweithwyr proffesiynol yn deall ac yn ymateb i’r newid er mwyn archwilio a yw hil ac ethnigrwydd yn dal i fod yn bwysig o fewn cynlluniau mabwysiadu.

Gan fod polisi mabwysiadu wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, dim ond yn Lloegr oedd cael gwared ar yr hyn a elwid yn gymal ethnigrwydd yn berthnasol. Tybiais mai’r rhesymeg dros hyn oedd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg i hunaniaeth a diwylliant Cymru. Cydnabyddir rôl iaith yn hunaniaethau mabwysiadol plant gan Mabwysiadu Cymru sy’n mynd ati i gefnogi gosod plant Saesneg a Chymraeg eu hiaith mewn teuluoedd mabwysiadol Cymraeg eu hiaith.  Gall y broses asesu fod yn arbennig o ymwthiol i fabwysiadwyr, ac fe allai rhai fod yn fwy cyfforddus gyda gweithwyr cymdeithasol sy’n ymgymryd â’r broses drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er bod data ynglŷn ag amseroedd aros plant Du a Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru yn brin ceir tystiolaeth o hyd o wahaniaethu hiliol o fewn mabwysiadu, gyda phlant o’r fath yn cynrychioli 8% o’r plant sydd mewn gofal, ond 5% o’r boblogaeth gyffredinol.  Fodd bynnag, yng Nghymru a Lloegr mae’r llwybrau gofal yn wahanol i blant o dreftadaeth hiliol Du Affricanaidd/Caribïaidd, Asiaidd neu gymysg ond yn gyffredinol mae plant Du a Mwyafrif Byd-eang yn aros yn hirach na phlant Gwyn ac yn llai tebygol o gyflawni sefydlogrwydd drwy fabwysiadu.

Waeth beth yw’r newid deddfwriaethol, mae fy ymchwil yn awgrymu bod gweithwyr proffesiynol ym maes mabwysiadu yn Lloegr yn parhau i ystyried pwysigrwydd hil ac ethnigrwydd fel rhan gynhenid o hunaniaethau mabwysiadol plant. Ategwyd hyn yn 2022 mewn adroddiad gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi oedd yn argymell sefydlu tasglu i fynd i’r afael â gwahaniaethau ethnig a hiliol yn y system fabwysiadu. Fodd bynnag yn gynharach eleni gwrthododd y Llywodraeth hyn gan nodi bod gwaith eisoes yn cael ei wneud yn y maes.

 Er bod ethnigrwydd wedi’i ddiddymu yn neddfwriaeth Lloegr, mae hil yn parhau i fod yn bresenoldeb absennol gan fod anghyfartaledd hiliol yn parhau o fewn y system lles plant. Ceir diffyg amrywiaeth yn y gweithlu mabwysiadu a’r paneli mabwysiadu, a all arwain at ragfarn wrth recriwtio ac asesu mabwysiadwyr. Mae hyn yn golygu bod heriau o hyd o ran dod o hyd i gartrefi mabwysiadol i blant sy’n adlewyrchu eu treftadaeth hiliol a diwylliannol ochr yn ochr â diwallu eu hangen am sicrwydd a sefydlogrwydd.

Mae Dr Lorraine Agu yn Bennaeth Pwnc ym Mhrifysgol Leeds Beckett.

Teitl ei thraethawd doethurol yw ‘Race Matters: Adoption and Children of Mixed Race Ethnicity’.

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Ail-fframio Mabwysiadu”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn, edrychwch ar y cynadleddau isod.