A yw llysoedd cyffuriau ac alcohol teuluol (FDAC) yn lleihau gofal?

Awdur: Yr Athro Judith Harwin, Prifysgol Caerhirfryn.

Yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy flynedd o gyllid i sefydlu’r llys alcohol a theulu (FDAC) peilot cyntaf yng Nghymru, gan weithredu ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y flwyddyn flaenorol[1]. Cynhelir y cynllun peilot yn ne Cymru, mewn llys yng Nghaerdydd gyda Bro Morgannwg a Chaerdydd yn awdurdodau lleol cyfranogol. Bydd yn agor yn hydref 2021. Bydd gwerthusiad yn helpu i ateb cwestiwn canolog – a all FDAC helpu i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru?

Mae FDAC yn llys sy’n datrys problemau, ac yn wahanol i achosion gofal safonol, mae’n trin ac yn dyfarnu.[2] Y prif nod yw helpu rhieni i fynd i’r afael â’u camddefnydd o sylweddau ac anawsterau cysylltiedig er mwyn hyrwyddo uno teuluoedd unwaith eto yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Mae tîm FDAC amlddisgyblaethol yn cynnig cymorth dwys i rieni, gan eu cysylltu â’r gwasanaethau lleol, a chynghori’r llys ar gynnydd y rhieni mewn gwrandawiadau rheolaidd heb gyfreithiwr. Yn y gwrandawiadau hyn mae’r barnwr a’r rhieni yn siarad yn uniongyrchol â’i gilydd a chaiff y cynnydd ei adolygu gyda’r tîm FDAC. Rôl y barnwr yw helpu i gymell rhieni a’u hatgoffa o’u cyfrifoldebau ynghyd â datrys problemau. Os na all rhieni wneud newidiadau o fewn cyfnod o amser sy’n gydnaws ag anghenion y plentyn, bydd yr achos yn dychwelyd i achos safonol a chaiff y plentyn ei osod mewn gofal amgen. Os nad yw rhieni am gymryd rhan mewn FDAC, caiff eu hachos ei glywed mewn achos safonol.

Mae’r sail resymegol ar gyfer y cynllun peilot yng Nghymru’n gryf. Tynnodd y Comisiwn ar dystiolaeth ymchwil yn Lloegr sy’n dangos bod gan FDAC gyfraddau uwch o ailuno teuluoedd ar ddiwedd achosion gofal o’i gymharu ag achosion safonol. Mae ailuno’n fwy tebygol o barhau’n gyflawn o fewn tair blynedd i’r achos llys gyda chyfran uwch o famau’n parhau’n rhydd rhag camddefnyddio sylweddau bum mlynedd yn ddiweddarach.[3] Yn ogystal â chael canlyniadau gwell, mae FDAC yn arbed arian[4]. Roedd y potensial y gallai FDAC helpu i leihau maint y boblogaeth o blant dan orchymyn gofal yn sbardun pwysig – yn fwy nag yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae Cymru’n defnyddio llai o orchmynion sy’n arwain at ailuno teuluoedd na Lloegr, ac mae’r gyfradd o fabanod sy’n cael eu symud yn barhaol yn dilyn achosion gofal yn uchel iawn.[5] Fel yn Lloegr, ni chaiff unrhyw ddata ei gasglu’n genedlaethol ar gyfraniad camddefnyddio sylweddau gan rieni i’r tueddiadau hyn, ond mae plant yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o dderbyn gofal os oes gan riant broblem alcohol neu gyffuriau.[6]

Mae’r rhain i gyd yn rhesymau cryf dros dreialu FDAC. Felly hefyd mae’r dystiolaeth fwy meddal. Mae rhieni a gweithwyr proffesiynol yn cefnogi FDAC oherwydd ei ymagwedd dosturiol ynghyd â thegwch gweithdrefnol. Dywed rhieni eu bod yn cael eu trin fel bodau dynol ‘normal’ a’u bod yn cael cynnig gobaith y gallant newid. Mae gweithwyr proffesiynol yn croesawu ymagwedd anymosodol, gydweithredol a thryloyw FDAC, ac, yn hanfodol, mae’r ymchwil yn dangos ei fod yn fodel trosglwyddadwy. Dangosodd arsylwadau llys mewn FDACs sefydledig a newydd yn Lloegr fod y farnwriaeth yn gweithredu egwyddorion ac arferion cyfiawnder datrys problemau[7].

Nid yw FDAC yn ateb pob problem. Ni all oresgyn problemau amddifadedd, llymder a dirywiad mewn gwasanaethau ond gall helpu i gymell a chefnogi rhieni i newid a dod yn ddatryswyr problemau gwell. Mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio’r llys fel asiant newid â chyfyngiad amser yn hytrach na dewis olaf, gan fabwysiadu dull cyfannol a thryloyw i fynd i’r afael â’r ystod lawn o broblemau rhieni. 


[1] https://gov.wales/commission-justice-wales-report

[2] https://justiceinnovation.org/areas-of-focus/family-drug-and-alcohol-courts

[3] https://academic.oup.com/lawfam/article/32/2/140/4962132

[4] Centre for Justice Innovation (2016) Better Courts: the financial impact of the Family Drug and Alcohol Court in London. 

[5] https://www.cfj-lancaster.org.uk/app/nuffield/files-module/local/documents/Born%20into%20care%20Wales%20-%20main%20report_English_final.pdf

[6] https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2019/05/190715-Analysis-of-Factors-Contributing-to-High-Rates-of-Care-REVISED.pdf

[7] https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1002/car.2521.

Cyfieithu yn dod yn fuan

Cyflwyniad i dechnegau hyfforddi ar-lein

06/05/2021 a 12/05/2021
09:30 – 13:00

A yw COVID wedi cyfyngu eich cyswllt â staff neu ddysgwyr i we-gamera a sgrîn cyfrifiadur? Ydy hi’n anoddach ymgysylltu’n effeithiol â dysgwyr a staff ar-lein? Os yw cyflwyno cyswllt a hyfforddiant ar-lein yn brofiad newydd i chi a’ch bod yn pendroni sut y gallwch addasu eich cyrsiau a chyflwyno yn yr amgylchedd newydd o weithio o bell, yna bydd y cwrs hwn yn addas i chi.

Datblygiad plentyn

07/05/2021
09:30 – 14:30

Mae gwybodaeth gadarn o ddatblygiad plant yn hanfodol i bawb sy’n gweithio gyda phlant. Mae bod â gwybodaeth sylfaenol am batrymau nodweddiadol datblygiad cyffredinol yn helpu ymarferwyr i nodi pryderon am ddatblygiad plentyn ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arno i wneud cynnydd ar draws y gwahanol barthau. Gall dealltwriaeth dda o ddatblygiad helpu i gadw plant yn ddiogel, hyrwyddo eu lles, cynorthwyo wrth asesu, a llywio pa ymyriadau/cefnogaeth sydd fwyaf addas i’w hanghenion.

Camfanteisio ar Blant yn Droseddol

Mae gweithgaredd llinellau cyffuriau a’r trais cysylltiedig, delio â chyffuriau a chamfanteisio yn cael effaith ddinistriol ar bobl ifanc, oedolion sy’n agored i niwed a chymunedau lleol. Mae’n cynnwys defnyddio plant fel cludwyr cyffuriau, plant yn cael eu masnachu yn y DU, pobl ifanc yn gaeth i gyffuriau (dibyniaeth), dyledion i arweinwyr y gangiau neu fygwth trais. Gall y bobl ifanc gael eu denu trwy arian, perthnasau a statws, ac nid ydynt yn cydnabod eu bod yn cael eu paratoi (yn aml gan bobl ifanc eraill) nac yn cydnabod eu bod yn cael eu hecsbloetio gan eraill. Mae’r hudoliaeth a’r cyffro yn fuan yn troi at unigedd ac ofn.

14/05/2021
09:30 – 16:00

Pennau’n Uchel: Grymuso plant i rannu eu barn a chael eu clywed

Prosiect tair blynedd gan Rwydwaith Maethu Cymru a ddechreuodd yn 2020 yw Pennau’n Uchel (Walking Tall). Mae’n gweithio gyda phlant ysgol gynradd mewn gofal maeth ac fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Maethu.

Gan ddefnyddio gweithgareddau rhyngweithiol, mae’r prosiect yn annog staff a hwyluswyr i feddwl sut y gallant fabwysiadu dull mwy cyfranogol wrth weithio gyda phlant ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu – gweithio ochr yn ochr â phlant, i’w grymuso i rannu eu barn a chael eu clywed.

Mae Pennau’n Uchel yn cydnabod bod gan bawb sy’n ymwneud â maethu gyfraniad hanfodol i’w wneud, er mwyn gwella ansawdd bywyd plant a phobl ifanc mewn gofal a’u teuluoedd maeth. Drwy wneud hyn, bydd y prosiect yn helpu i sicrhau bod plant yn rhan o gynllunio a chyflawni prosiectau fydd yn diwallu eu hanghenion eu hunain.

Diben Cam Un oedd datblygu sesiynau creadigol yn seiliedig ar chwarae, i ganfod sut mae plant yn hoffi ymgysylltu’n ddigidol a’u gwahodd i gynghori ar ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer gweithio gyda phlant yng nghamau diweddarach prosiect Pennau’n Uchel.

Yng Ngham Un, bu’r plant yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau creadigol yn cynnwys ‘Rock Star’ lle’r oedden nhw’n peintio cerrig i gynrychioli pethau yn eu bywyd sy’n eu gwneud yn hapus. Yna bu’r plant yn trafod cryfderau a gwendidau’r dulliau gwahanol hyn. Gofynnwyd iddyn nhw greu syniadau am weithgareddau eraill yr hoffen nhw eu gweld a beth yn eu barn nhw yw’r ffordd orau i blant rannu eu safbwyntiau, profiadau a syniadau.

Er mai barn y plant oedd yn ganolog, bu gofalwyr maeth hefyd yn cyfrannu eu barn a’u safbwyntiau ar y prosiect. Dywedodd un gofalwr maeth bod cwblhau gweithgareddau creadigol gyda phlant yn ‘Dod â phawb at ei gilydd rywsut. Roedd hyn hyfryd ac yn bleserus iawn.’

Rhwydwaith Maethu Cymru
@tfn_Wales
wales@fostering.net

Boffey, M., Mannay, D, Vaughan, R. a Wooders, C. 2021. The Fostering Communities Programme – Walking Tall: Stage One Evaluation. Caerdydd: Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.

Helpwch ni i wneud gwahaniaeth i Waith Ieuenctid yng Nghymru

Ein Taith

Mae Youth Cymru ar ddechrau taith newydd; mae llawer wedi newid dros yr  fisoedd diwethaf i bob un ohonom ac fel sefydliad sydd â’r nod pennaf o fudd i fywydau pobl ifanc rydym am weithredu nawr i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae angen adnewyddu ein strategaeth gyfredol ac mae hwn yn gyfle i sicrhau bod ein gwaith yn y dyfodol yn adlewyrchu tirwedd y dyfodol, cyd-destun ac anghenion pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid yng Nghymru.Rydyn ni am roi cyfle i’n haelodau a’n partneriaid sicrhau ein bod ni’n clywed yr hyn sydd ei angen arnoch chi ac yn gwybod beth yw eich barn chi. Rydym am ddechrau a pharhau â sgwrs sydd nid yn unig yn helpu i greu ac adeiladu ein strategaeth ond hefyd yn creu momentwm, dyfodol a buddion cadarnhaol i bob person ifanc a gweithiwr ieuenctid yng Nghymru.“Mae’r rhain yn amseroedd digynsail” ac mae angen i’n gwaith nawr ac yn y dyfodol roi ein haelodau, ein partneriaid a’n pobl ifanc yn ganolog i’n gweithgareddau, ein cynlluniau a’n gwaith; rydym am osod uchelgeisiau newydd i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn rhan o’r ateb i’r problemau sy’n bodoli yn yr amseroedd cymhleth, ansicr ac annifyr hyn.

Rydym angen eich mewnbwn

Rydym yn ymwybodol bod llawer yn wynebu amgylchiadau anodd iawn ar hyn o bryd, felly er yr hoffem i bobl ymgysylltu â’n hymgynghoriad parhaus ni fydd unrhyw ffordd waharddedig o wneud hyn. Byddwn yn anfon holiaduron a gwahoddiad i weithdai a seminarau ond byddem hefyd yn croesawu galwad ffôn, e-bost neu gyfathrebu trwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn creu sawl cyfle i barhau â’r sgwrs am ein cyfeiriad yn y dyfodol, ein perthynas â chi ein partneriaid, aelodau a chydweithwyr a’r gwaith y mae angen i ni ei wneud i’ch cefnogi. Helpwch ni i lunio ein strategaeth newydd ar gyfer 2021 a thu hwnt!

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y cyfnod datblygu hwn gymaint ag y gallwch; i ddechrau’r sgwrs, cwblhewch yr holiadur hwn isod ac edrychwch am wahoddiadau sydd i ddod i fynychu ein seminarau a’n gweithdy.

Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2021

Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn cynnal Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol am y 4 blynedd diwethaf, sy’n ein helpu i ddeall lefelau a thueddiadau mewn tlodi plant yng Nghymru. Unwaith eto, rydym wedi gweithio gyda Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN) i lywio ein cwestiynau.

Gwyddom mai’r pandemig sydd wedi effeithio galetaf ar y rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’r wybodaeth a roddwch yn bwysig. Mae’n ein helpu i ddeall y materion cyfredol ac yn llywio ein gwaith gyda llunwyr polisi ledled Cymru. Cymerwch 10 munud i gwblhau’r arolwg. Mae eich barn a’ch profiadau yn cael eu gwerthfawrogi ac yn bwysig i ni.

Mae gennym ddau arolwg – un i’w gwblhau gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, ac un i’w gwblhau gan blant a phobl ifanc eu hunain. Bydd y ddau arolwg yn cau ar 21 Mai 2021.

Rydym yn chwilio am gymaint o ymgysylltu â phosibl a byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i ledaenu’r arolwg i’ch cydweithwyr, rhwydweithiau ac, os yw’n bosibl, i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau ddiwedd mis Gorffennaf 2021 a bydd y rhain ar gael i bawb. Gobeithiwn y gall y canfyddiadau hefyd lywio eich gwaith hefyd.

Diolch am eich cefnogaeth.

No two gangs are alike: The digital divide in street gangs’ differential adaptations to social media.

Gan Andrew Whittaker, James Densley a Karin S. Moser (2020) 

Computers in Human Behaviour, 110.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr Nina Maxwell

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar y cwestiwn a oedd gwahaniaethau yn nefnydd aelodau gangiau o’r cyfryngau cymdeithasol ar lefel unigol (aelodau iau versus aelodau hŷn) a lefel grŵp  (gangiau llai sefydledig versus gangiau mwy sefydledig) yn Waltham Forest, Llundain. 

Sut aethon nhw ati i astudio hyn?

Astudiaeth dulliau cymysg oedd hon oedd yn cynnwys casglu data mewn dau gam. Yn gyntaf  cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol, lled-strwythuredig gyda chyn-aelodau gangiau, pobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan gangiau, swyddogion heddlu, gweithwyr cyfiawnder troseddol, gweithwyr awdurdod lleol, gan gynnwys diogelwch cymunedol, addysg, cymorth cynnar ac atal terfysgaeth, a gweithwyr llawr gwlad y sector gwirfoddol. Yn ail, profwyd y canfyddiadau cychwynnol gyda dau grŵp ffocws yn cynnwys rhanddeiliaid o asiantaethau llywodraeth leol, gweithwyr cyfiawnder troseddol a gweithwyr llawr gwlad. Oherwydd ystyriaethau moesegol yn ymwneud â diogelwch y bobl a gyfwelwyd a’r ymchwilydd, nid oedd yr astudiaeth yn cynnwys aelodau gweithredol o gangiau.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Canfu’r erthygl fod gangiau’n gwahaniaethu yn eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Yn fras, roedd aelodau hŷn oedd wedi hen sefydlu eu henw yn tueddu i osgoi’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn lleihau’r risg o gael eu canfod gan yr heddlu. Roedd aelodau iau, nad oedd eu henw wedi’i sefydlu i’r un graddau, yn fwy tebygol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i feithrin enw a statws. Roedd y canfyddiadau’n dangos bod gangiau wedi symud i ffwrdd o lwyfannau agored y gellid eu defnyddio ar gyfer gwyliadwriaeth yr heddlu fel Facebook at lwyfannau wedi’u hamgryptio ar bob pen fel WhatsApp. Caiff apiau fel Snapchat eu defnyddio hefyd i hysbysebu a gwerthu cyffuriau gan nad oes modd cyrchu ffotograffau a negeseuon ar y rhain ar ôl cyfnod penodol fel mater o drefn. O ran y gangiau oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, roedd rhai’n defnyddio apiau gyda thracio GPS fel Find MyiPhone neu Find My Friends i gynyddu lefel eu monitro a’u rheolaeth ar aelodau iau, er enghraifft drwy ofyn am dystiolaeth ffotograffig a fideo o’u gweithgareddau. 

Beth yw’r goblygiadau?

Er bod gangiau’n gwahaniaethu yn eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, roedd hyd yn oed y gangiau nad oedd yn eu defnyddio’n gwybod bod modd eu defnyddio fel arf yn eu herbyn, neu y gallen nhw eu defnyddio yn erbyn eu cystadleuwyr. Casgliad yr awduron yw lle bo’r heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn monitro cyfryngau cymdeithasol i ganfod arwyddion o wrthdaro arfaethedig, gellir defnyddio hyn yn effeithiol i ddad-ddwysau sefyllfaoedd cyn i drais difrifol ddigwydd. Mae’r erthygl yn pwysleisio y dylai darparwyr gwasanaeth fod yn ymwybodol y gallai aelodau hŷn o’r gangiau fod yn monitro ac yn rheoli’r aelodau iau yn barhaus drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall gwyliadwriaeth o’r fath gyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc i geisio cymorth.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr Nina Maxwell

GCP2-A: helpu gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod y gefnogaeth iawn ar waith ar gyfer darpar rieni

Ysgrifennwyd y blog gan Vivienne Laing o’r NSPCC

Mae Proffil Gofal Graddedig 2 (GCP2) yn adnodd a ddyluniwyd gan baediatregydd cymunedol, Dr OP Srivastava, a’r NSPCC sy’n helpu ymarferwyr i ddeall ansawdd y gofal y mae plant yn ei gael a nodi meysydd magu plant da ond esgeulus hefyd. Mae bellach wedi’i fabwysiadu mewn 88 o leoliadau gyda dros 1,200 o hyfforddwyr wedi’u hyfforddi a 30,000 o ddefnyddwyr rheng flaen yn y Deyrnas Unedig (DU). 

Ers y sgyrsiau cyntaf un â safleoedd GCP2, mae rheolwyr a staff rheng flaen fel ei gilydd wedi pwysleisio’r angen am fersiwn gyn-enedigol. Nawr, ar ôl treulio’r 18 mis diwethaf yn gweithio gyda Dr Srivastava, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol o bob cwr o’r wlad, rydym ni’n hynod falch o gyhoeddi ein bod ar fin dechrau profi fersiwn gyn-enedigol newydd – Proffil Gofal Graddedig 2 Cyn-enedigol (GCP2A). 

Pam mae angen un arnom ni?

Mae corff cynyddol o dystiolaeth o bwysigrwydd y cyfnod cyn-enedigol a’r blynyddoedd cynnar a sut y gall rhianta israddol, esgeulustod neu gamdriniaeth gynnar gael canlyniadau parhaol ar iechyd emosiynol a chorfforol plant yn y dyfodol. Gall dod i gysylltiad â lefelau uchel o straen parhaus yn ystod y camau datblygu pwysig hyn olygu bod gallu babanod i reoli eu hemosiynau a’u system imiwnedd yn llai effeithiol. Gall hyn wneud plant yn fwy agored i ystod o anawsterau diweddarach fel iselder, ymddygiad gwrthgymdeithasol, dibyniaeth a salwch corfforol. (Gerhardt 2012). 

Rydym ni hefyd yn gwybod bod gwendidau penodol sy’n gynhenid mewn babanod nad ydynt yn cael eu profi gan blant hŷn, rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol ag ymddygiad mamol yn ystod y beichiogrwydd:  Anaf damweiniol i’r pen, cyd-gysgu, syndrom anhwylder alcohol y ffetws a syndrom ymatal newyddenedigol.  Yn Lloegr, mae babanod yn cyfrif am y gyfran fwyaf o Adolygiadau Achos Difrifol (AAD), fel y disgrifir yn yr Adolygiad AAD a gynhelir pob Tair Blynedd. Mae pryder cynyddol hefyd am nifer y babanod sy’n mynd i ofal yn ystod pythefnos gyntaf eu genedigaeth, fel y dangosir yn yr Ymchwil Babanod sy’n cael eu geni i Ofal yng Nghymru ac yn Lloegr

Mae’r materion hyn yn anoddach fyth oherwydd yr heriau niferus sydd ynghlwm â chynnal asesiadau yn y cyfnod cyn-enedigol. Nid yw pryderon diogelu yn dechrau ar y diwrnod y caiff y babi ei eni; mae llawer yn amlwg yn ystod y beichiogrwydd. Rydym ni’n gwybod bod materion iechyd meddwl amenedigol (perinatal) yn gysylltiedig â llawer o bryderon ôl-geni. Gall hyn, ynghyd â ffactorau cyd-destunol, agweddol neu ymddygiadol eraill gyfuno i fod yn gymysgedd a allai fod yn ddinistriol i’r babi sy’n datblygu neu’r babi newydd-anedig.  Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn gwybod bod beichiogrwydd yn cynnig cyfle eang gan fod llawer o rieni beichiog yn awyddus i ymgysylltu â gwasanaethau yn ystod yr amser hwn. Mae dod â’r ddau beth at ei gilydd – adnabod yr unigolyn yn drylwyr yn gynnar a chyfuniad o bryderon ac awydd posibl rhieni – yn rhoi gobaith gwych i ni am newid tymor hir.

Beth mae GCP2-A yn ei wneud?

Adnodd disgrifiadol ymarferol, pragmatig yw GCP2-A sy’n cefnogi bydwragedd, gweithwyr cymdeithasol ac ymwelwyr iechyd i nodi’r rhieni beichiog hynny a fyddai’n elwa o gael cefnogaeth cyn-geni i leihau’r tebygolrwydd o bryderon ôl-enedigol. Credwn y bydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i nodi a chofnodi lle mae darpar rieni yn gwneud yn dda a pha fath o bryderon, eu cyfuniad a’u difrifoldeb a allai fod ganddynt am y teulu yn gynnar yn y beichiogrwydd. Gyda’r wybodaeth hon, gallant fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn well a sicrhau bod y math cywir o gefnogaeth ar waith cyn i’r babi gael ei eni, gyda’r nod o atal pryderon rhag gwaethygu. 

Mae adnodd GCP2-A wedi’i rannu yn dair adran:

  • Adran un: pan fydd y beichiogrwydd yn cael ei gadarnhau neu pan fydd pryderon yn dod i’r amlwg, mae fframwaith o chwe chwestiwn cyffredinol yn eich helpu i benderfynu a oes angen GCP2-A llawn.
  • Adran dau: adnodd mwy manwl y gellir ei ddefnyddio pan fydd angen disgrifio’n fanylach y meysydd o gryfder a’r rhai sy’n cyflwyno heriau.
  • Adran tri: dylid ei chwblhau ar ôl geni yn ystod y 7-28 diwrnod cyntaf. 

Mae prif ran yr offeryn (adran dau) yn helpu gweithwyr proffesiynol a rhieni yn eu hymwybyddiaeth a’u paratoi ar gyfer geni’r babi. Yn yr un modd â GCP2, mae’r offeryn yn graddio ansawdd yr ystyriaeth mewn perthynas â pharodrwydd corfforol, diogelwch, emosiynol a datblygiadol. Os ydych chi’n adnabod GCP2 – byddwch chi’n adnabod GCP2-A fel ei frawd neu chwaer iau.

Adnodd yw GCP2-A i helpu yn ein brwydr i wella canlyniadau i fabanod.  Ar ôl i ni nodi problemau, gall GCP2-A arwain ymateb aml-asiantaethol wedi’i deilwra i gefnogi teuluoedd beichiog a theuluoedd newydd i fagu eu babanod mewn cartref cariadus diogel. 

Os ydych chi am gael yr wybodaeth ddiweddaraf, gallwch gofrestru eich diddordeb yn: GCP2A@nspcc.org.uk

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio’r Proffil Gofal Graddedig 2 gwreiddiol, ewch i NSPCC Learning i ganfod rhagor. 

Vivienne Laing – vivienne.laing@nspcc.org.uk

Ydy gwasanaeth cadwraeth teulu dwys yn lleihau gofal?

Ysgrifennwyd gan Zoe Bezecksy

Mae gwasanaethau cadwraeth teulu dwys wedi’u cynllunio i gadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bo hynny’n ddiogel ac yn bosibl, ac mae’r dystiolaeth yn addawol. 

Beth yw gwasanaethau cadwraeth teulu dwys? 

Mae gwasanaethau cadwraeth teulu dwys yn cefnogi teuluoedd â phlant sydd mewn perygl uniongyrchol o fynd i ofal. Maent yn ceisio osgoi’r angen i blant fynd i ofal trwy oresgyn yr argyfwng presennol a rhoi cyfle i deuluoedd ddatblygu eu sgiliau. 

Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar y model ‘Homebuilders’ a sefydlwyd yn yr Unol Daleithiau. Mae sawl nodwedd graidd i’r model.  Er enghraifft:  

  • Cysylltir â theuluoedd cyn pen 24 awr ar ôl eu hatgyfeirio.
  • Mae gweithwyr achos ar gael i deuluoedd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Darperir cefnogaeth yng nghartref y teulu dros gyfnod byr o 4-6 wythnos.

Ydyn nhw’n effeithiol? 

Er mwyn deall a yw gwasanaethau cadw teulu ynghyd dwys yn effeithiol o ran lleihau’r angen i blant fynd i ofal, fe fuom ni’n cynnal adolygiad systematig. Roedd yr adolygiad yn cynnwys 33 o astudiaethau.  Roedd yr holl astudiaethau’n cynnwys grŵp o deuluoedd oedd wedi derbyn y gwasanaeth a grŵp cymharu oedd heb ei dderbyn.   

Roedd dau ganfyddiad allweddol. Yn gyntaf, roedd gwasanaethau cadw teulu ynghyd dwys yn tueddu i leihau’r tebygolrwydd o ofal y tu allan i’r cartref. Mewn astudiaethau a oedd yn olrhain canlyniadau plant unigol, gostyngwyd y risg o gael eu rhoi mewn gofal 3, 6, 12 a 24 mis ar ôl yr ymyrraeth. Mewn astudiaethau a oedd yn olrhain canlyniadau teuluoedd, roedd y risg y byddai un plentyn neu fwy yn mynd i ofal yn gostwng yn gyffredinol ond nid ar yr adegau penodol unigol. 

Yn ail, roedd yn amlwg bod effeithiolrwydd y gwasanaeth yn amrywio. Mae hyn yn awgrymu bod ansawdd y gweithredu yn debygol o fod yn hollbwysig.  Gwyddom o’r llenyddiaeth fod y gwasanaethau’n amrywio o ran hyd, dwysedd, ac argaeledd gweithiwr achos y teulu. Ond mae’n debygol y bydd gwahaniaethau pwysig eraill. Er enghraifft, mae’n anoddach dal ac adrodd ar ffactorau personol a chyd-destunol yn y llenyddiaeth, ond gallant chwarae rhan bwysig. Mae angen ymchwil ansoddol bellach i nodi’r elfennau allweddol sy’n galluogi gwasanaethau cadwraeth teulu dwys i fod yn effeithiol. 

Ydyn nhw’n gost-effeithiol? 

Roedd saith astudiaeth yn ein hadolygiad yn cynnwys gwerthusiad economaidd rhannol. Roedden nhw’n darparu rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai’r gwasanaeth arbed costau. Er enghraifft, canfu un astudiaeth fod yr awdurdod lleol wedi arbed £ 1,178 mewn costau lleoliad am bob plentyn a gyfeiriwyd at y gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd y data’n gyfyngedig, ac mae angen gwerthusiadau economaidd llawn. 

Beth mae hyn yn ei olygu o ran ymarfer?

At ei gilydd, ymddengys bod gwasanaethau cadwraeth teulu dwys yn ffordd addawol o leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal. Nid yw’n ymddangos bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig ac mae gwerth posib wrth ei gynnig i deuluoedd. Daeth yr astudiaethau yn ein hadolygiad yn bennaf o’r Unol Daleithiau, felly byddai gwerthusiadau pellach o’r gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig yn fuddiol. 


Ysgrifennwyd gan

Zoe Bezecksy