Mae’r cyflwyniad yn nodi’r themâu trawsbynciol canlynol: (i) hierarchaeth gwybodaeth, lle mae rhai ffynonellau gwybodaeth yn cael eu blaenoriaethu dros rai eraill (ii) rhannu/cofnodi gwybodaeth, lle gwelwyd diffygion o ran rhannu neu gofnodi gwybodaeth (iii) asesiad rhannol, pan nad oedd rhai asesiadau bob amser yn gyfannol, ac yn olaf, (iv) llais y plentyn, pan nad oedd profiad na safbwynt y plentyn yn cael eu hystyried bob amser. Dyma’r astudiaeth gyntaf i ystyried y themâu sy’n dod i’r amlwg mewn Adolygiadau Ymarfer Plant (yng Nghymru) a’r gyntaf i wneud hynny o safbwynt aml-ddisgyblaethol.
Ffocws y gweithdy yw’r goblygiadau o ran ymarfer a pholisi. Rydyn ni wedi cyflwyno fideo’r gweithdy ac amryw o adnoddau sy’n mynd gydag ef fel a ganlyn: