Yn hanesyddol, mae ymyriadau amddiffyn plant yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant yn ddiogel yn eu cartrefi. Yn benodol, mae gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd yn asesu gallu’r rhiant i ddiwallu anghenion y plentyn a’i gadw’n ddiogel. Ond mae Dr Carlene Firmin, Pennaeth y rhaglen Diogelu Cyd-destunol ym Mhrifysgol Swydd Bedford, wedi dadlau nad yw’r system amddiffyn plant traddodiadol yn effeithiol o ran diogelu plant rhag risgiau y tu allan i’r teulu. Fel y mae achosion proffil uchel diweddar o gamfanteisio’n rhywiol ar blant wedi dangos, gall plant fod mewn perygl lle bynnag y maen nhw’n dewis treulio eu hamser, gan gynnwys mewn ysgolion, llefydd lleol sy’n gwerthu bwyd cyflym, ar y bws neu wrth y grisiau. Felly, mae’r lleoliad a’r cyd-destun y mae’r plentyn ynddyn nhw’n bwysig.

Mae’r dull Diogelu Cyd-destunol yn gofyn am ymgysylltu ystod lawer ehangach o bobl gan gynnwys y gweithiwr bwyd cyflym, y gyrrwr bws a’r cyhoedd sy’n rhan o rwydwaith cyfannol ehangach o bobl sy’n cadw llygad ar bobl ifanc ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol.

Ond a oes gan weithwyr cymdeithasol y gallu i ystyried yr holl amgylcheddau lle mae person ifanc yn treulio ei amser neu’r holl gyfoedion y gall person ifanc ryngweithio â nhw y tu allan i’w gartref? A oes ganddyn nhw’r gallu i gynnal asesiadau ac ymyriadau gyda teuluoedd yn ogystal â grwpiau cyfoedion a chysylltiadau a allai gynyddu nifer yr achosion o niwed mewn lleoedd fel parciau, gorsafoedd trên neu hyd yn oed ysgolion? Mae hon yn ffordd wahanol iawn o weithio i weithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd.

Mae’r gweminar hwn, a gafodd ei gyflwyno gan Dr Clive Diaz o Ganolfan Ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhoi trosolwg o’r Dull Diogelu Cyd-destunol ac yn ystyried ymchwil a gynhaliwyd mewn dau awdurdod lleol a edrychodd yn fanwl ar ba mor effeithiol yw diogelu pobl ifanc sydd mewn perygl o niwed y tu allan i’r teulu.

Gwylio’r gweminar

Sleidiau’r cyflwyniad Lawrlwytho
Adnoddau ychwanegol: Sylwer: nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a gynhyrchir yn allanol.

Rhwydwaith Diogelu Cyd-destunol

Blog Diogelu Cyd-destunol

Cyflwyniad Ted Talk gan Carlene Firmin

Cyflwyniad Ted Talk gan Sarah Jayne Blakemore