Hunluniau, Snapchat a Chadw’n Ddiogel: Sut mae plant dan ofal yn ymgysylltu ar-lein?

Mae pobl ifanc yn treulio llawer cynyddol o amser ar-lein, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, gan fod y pandemig byd-eang wedi symud llawer o’n bywydau cymdeithasol i’r maes rhithwir. Mae mynd ar-lein yn hwyluso cymdeithasu ac adloniant. Fodd bynnag, i bobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc bregus fel plant dan ofal, daw gyda risg; seiberfwlio, trolio ac aflonyddu. Er bod digonedd o ymchwil ryngwladol wedi’i neilltuo i ymgysylltu ar-lein a mynediad at y cyfryngau cymdeithasol, ychydig o sylw sydd wedi’i roi i’w effaith ar y rhai sydd dan ofal neu sydd â phrofiad ohono.

Mae’r maes ymchwil hwn yn fwyfwy pwysig. Er ein bod yn ymwybodol bod mwy o risg i blant sydd dan ofal, nid ydyn ni’n gwybod fawr ddim am sut beth yw eu bywydau ar-lein na sut maen nhw’n ymgysylltu â’u cyfoedion a’u teulu mewn mannau ar-lein.

Yr ymchwil hon, sy’n canolbwyntio ar fywydau ar-lein plant sydd dan ofal, fydd y cyntaf o’i math yng Nghymru. Mae’r astudiaeth ymchwil cymysg ei dulliau hon yn ceisio deall sut beth yw bywydau ar-lein plant sydd dan ofal ac a ydyn nhw’n profi seiberfwlio ar gyfradd wahanol na’u cyfoedion. Yn ogystal, archwilir pa ffactorau risg y maen nhw’n eu hwynebu a pha fanteision mae mynd ar-lein yn eu dwyn i’r boblogaeth hon hefyd.

Prif ymchwilydd: Dr Cindy Corliss