Nodi cyfleoedd i gefnogi plant sy’n derbyn gofal yn y system cyfiawnder ieuenctid ar adegau prysur yn eu goruchwyliaeth
Mae yna nifer o ddigwyddiadau bywyd allweddol a thrawsnewidiadau sy’n gallu achosi straen. I’r rhai sydd â chyswllt â’r system gofal a’r system cyfiawnder ieuenctid, rydyn ni eisoes yn gwybod bod mwy o achosion o ACE [Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod] sy’n cyfrannu at y ffaith bod y grŵp hwn ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Er bod y pwyslais ar hawliau plant yn golygu ein bod ni’n gweithio i weld y plentyn yn gyntaf ac yna’r troseddwr, mae arfer sy’n seiliedig ar drawma ym maes cyfiawnder ieuenctid yn arferol yng Nghymru.
Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar y gwahanol feysydd risg (fel mesurir gan adnoddau asesu a ddefnyddir gan y gwasanaeth troseddwyr ifanc) a sut mae’r rhain yn newid mewn ymateb i ddigwyddiadau allweddol a thrawsnewidiadau. Mae’r ffactorau hollbwysig hyn yn cynnwys digwyddiadau sy’n gysylltiedig â gweinyddu cyfiawnder (e.e. dychwelyd i’r llys, torri amodau a threulio amser yn yr ystâd ddiogel) yn ogystal â digwyddiadau bywyd fel symud cartref / lleoliad neu ysgol. Gallai rhai gael eu hystyried yn llai tebygol o gyflawni troseddau yn y dyfodol, tra gallai eraill gynyddu’r risg. Bydd gwybod hyn yn helpu i nodi lle mae cyfleoedd i roi cymorth aml-asiantaeth amserol.
Yn unol â phwyslais yr ymchwil ar hawliau plant, bydd y prosiect dulliau cymysg yn ymgorffori’r canlynol i gefnogi a chreu set o argymhellion yn ymwneud â newid:
- defnyddio technegau ystadegol blaengar i gyfuno data cyffredin o wasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg gyda data o’r gwasanaeth troseddau ieuenctid
- cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau sy’n cynnwys pobl ifanc sydd wedi cael profiadau amrywiol o ymwneud â’r system gyfreithiol
Mae llais y plentyn yn ganolog i’r ymchwil. Nid yn unig y bydd pobl ifanc yn gweithio gyda thîm y prosiect i roi’r modelu ystadegol yn ei gyd-destun, ond byddan nhw hefyd yn cael eu hannog i herio ein rhagdybiaethau [oedolion] ar natur y cymorth y maen nhw’n credu y byddai eraill â phrofiadau tebyg yn elwa ohono a’r graddau y dylid ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol.
Prif ymchwilydd: Dr Helen Hodges