Cafodd y Rhaglen Trefniadau Plant (CAP) ei chynllunio i ddargyfeirio anghydfodau risg isel rhwng rhieni sydd wedi gwahanu oddi wrth y llysoedd a hybu’r defnydd o ddulliau Datrys Anghydfod Amgen. Er gwaethaf gostyngiad cychwynnol yn nifer y ceisiadau yn 2014, bu cynnydd yn nifer y ceisiadau cyfreithiol preifat a’r rhai sy’n dwyn achos cyfreithiol heb gynrychiolaeth (Gweithgor Cyfraith Breifat, 2019). Mae hyn wedi arwain at lwyth gwaith digynsail i farnwyr llysoedd teulu, ac mae Ei Anrhydedd y Barnwr Wildblood QC yn galw am fynd â cheisiadau i’r llys dim ond os yw’n ‘wirioneddol angenrheidiol’ (Re B (plentyn) (Ceisiadau Cyfraith Breifat diangen, 2020) . Gall penderfynu a yw’n wirioneddol angenrheidiol i fynd i’r llys fod yn gymhleth pan fo honiadau neu bryderon ynghylch cam-drin domestig neu ddiogelu plant. Mae Adroddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2020) yn rhybuddio yn erbyn lleihau’r ddibyniaeth ar lysoedd yn yr achosion hyn. Caiff y darlun ei gymhlethu ymhellach yng Nghymru gan fod y llysoedd yn dod o dan gylch gorchwyl y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond eto mae’r cyfrifoldeb am wasanaethau plant a theuluoedd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Gall rhaniad o’r fath gymhlethu materion oherwydd efallai na fydd y llysoedd yn ymwybodol o ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol plant a theuluoedd. Er enghraifft, gall plentyn o deulu sydd wedi gwahanu yng Nghymru fod yn gymwys i gael mwy o gymorth o dan Gynllun Cymorth Asesu Plant (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), na phlentyn o’r fath yn Lloegr. Rhaid i’r gwaith o ddatblygu cynghreiriau teuluoedd lleol sy’n canolbwyntio ar y plentyn i gefnogi rhieni yng Nghymru ddod â’r system cyfiawnder teuluol a’r system gofal cymdeithasol plant a theuluoedd at ei gilydd fel y gellir datrys anghytundebau rhwng rhieni heb fynd trwy’r llysoedd, lle bo’n briodol. Mae llysoedd teulu yn gyfrwng amhriodol ar gyfer datrys gwrthdaro rhwng rhieni sy’n gwahanu. Gall y broses gynyddu’r gwrthdaro rhwng y rhieni gyda’r plant yn cael eu dal yn y canol. Mae hyn yn arwain at risg uwch o blant yn cael canlyniadau negyddol, fel lles a iechyd meddwl gwael, a chyrhaeddiad addysgol is.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar sy’n nodi’r gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd sy’n gwahanu yng Nghymru ac mae’n amlinellu tri senario ar gyfer datblygu cynghreiriau cefnogi teuluoedd sy’n gwahanu (SSFA) sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae’r adroddiad yn cyfrannu at yr hyn rydyn ni’n ei wybod am y gwasanaethau sydd ar gael i rieni sy’n gwrthdaro a’r llwybrau atgyfeirio. Mae hefyd yn cynnig atebion o ran sut i ddarparu cymorth i deuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl gwahanu sydd ar wahân i’r llysoedd teulu, lle bo hynny’n briodol. Mae’r adroddiad yn tynnu ar ganfyddiadau o dair elfen casglu data. Yn gyntaf, ymarfer mapio’r gwasanaethau sydd ar gael sy’n tynnu ar ganfyddiadau wyth ymateb i arolwg ar-lein a thrafodaethau anffurfiol â chwe rhanddeiliad. Yn ail, cyfweliadau lled-strwythuredig gyda 22 o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o fentrau a ariennir yn wirfoddol, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cyfyngedig a gwasanaethau statudol a grŵp ffocws gyda dau berson ifanc o’r Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol. Yn drydydd, mae’r adroddiad yn cyfeirio at ymarfer ymgynghori â 13 o randdeiliaid oedd wedi ystyried y tri senario arfaethedig.

Roedd yr achos mwyaf o wrthdaro rhwng rhieni’n ymwneud ag anghytundebau ynghylch trefniadau preswylio a chyswllt plant. Yr ymateb arferol i anghytundebau o’r fath yw troi at y llys gan fod gan rieni ddisgwyliadau afrealistig o’r hyn y gall ac y dylai’r llys ei wneud. Mae hyn yn adlewyrchu sylw Ei Anrhydedd y Barnwr Wildblood QC bod rhai barnwyr yn cael eu galw i benderfynu ar fân newidiadau i drefniadau cyswllt megis pa gyffordd ar yr M4 y dylai’r rhieni gyfarfod i gyfnewid y plentyn (Re B (plentyn) (Ceisiadau Cyfraith Breifat diangen), 2020). Gall anghytundebau o’r fath godi oherwydd canfyddiadau ynghylch cyswllt teg neu faich ariannol sy’n arwain at barhau’r anawsterau yn y berthynas neu gellir eu gweld fel cyfrwng i gael ad-daliad tai neu ariannol. Mae’r adroddiad yn ystyried pa mor emosiynol yw tor-perthynas a’r anawsterau sy’n digwydd wrth roi’r emosiynau hyn o’r neilltu i ddatrys materion yn ymwneud â’r plentyn mewn modd cyfeillgar. O ganlyniad, gall materion sy’n ymwneud â thor-perthynas a threfniadau plant gael eu nodi’n anuniongyrchol drwy ddarpariaeth bresennol fel cymorth i deuluoedd neu raglenni rhianta neu’n uniongyrchol lle gallai’r rhiant neu’r llys geisio cymorth pellach. Lle’r oedd rhieni’n cael cymorth drwy’r ddarpariaeth bresennol, roedd rhai gwasanaethau fel y Tîm o Amgylch y Teulu eisoes yn darparu gwasanaeth datrys anghydfod ac roedd rhai wedi mabwysiadu elfennau o’r rhaglen Gweithio Gyda’n Gilydd dros Blant. Nid oedd hyn yn wir am bob gwasanaeth ac felly mae’r adroddiad yn disgrifio loteri cod post o ran pa ddarpariaeth sydd ar gael i rieni.

Mae’r adroddiad yn ailadrodd canfyddiadau sy’n gysylltiedig â phroblemau’n ymwneud â Chyfarfodydd Gwybodaeth ac Asesu Cyfryngu (Gweithgor Cyfraith Breifat, 2020) a’r nifer cymharol isel sy’n manteisio ar gyfryngu (Cusworth et al., 2020). Datgelodd y canfyddiadau fod yna brinder cyfryngwyr yng Nghymru sydd wedi’u hachredu i gynnal MIAMs, gyda llai yn gymwys i weithio gyda phlant. Mae hyn yn broblem arbennig gan fod pobl ifanc wedi nodi mai cyfryngu yw’r cyfrwng delfrydol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed pan fydd rhieni’n gwahanu. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, awgrymodd rhanddeiliaid y gallai cyfryngu fod yn effeithiol i ddargyfeirio rhieni oddi wrth y llysoedd. Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio rôl canolfannau cyswllt fel mannau diogel i rieni weld neu gyfnewid plant yn ogystal â lleoliad niwtral i dderbyn cymorth fel cyfryngu. Fodd bynnag, mynegodd rhanddeiliaid bryderon hefyd o ran i ba raddau roedd teuluoedd yn ymwybodol o’r gwasanaethau hyn ac yn gallu eu fforddio.

Canfu’r adroddiad fod yna gefnogaeth aruthrol i greu SSFAs. O ran eu cylch gwaith, canfu’r adroddiad fod y term ‘teuluoedd sy’n gwahanu’ braidd yn anghywir. Yn ymarferol, efallai na fydd y rhieni erioed wedi bod mewn perthynas â’i gilydd nac erioed wedi byw gyda’i gilydd. Mae hyn yn adlewyrchu natur amrywiol amgylcheddau cartref y plant gyda rhai teuluoedd yn cynnwys teulu estynedig fel modrybedd, ewythrod a neiniau a theidiau a/neu deuluoedd ailgyfansoddedig sy’n cynnwys llys-rieni, a brodyr a chwiorydd ychwanegol. Roedd canfyddiadau cynrychiolwyr o’r Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol yn pwysleisio’r angen i gynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn ogystal â chynnwys pobl ifanc mewn gwasanaethau presennol megis cyfryngu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i SSFAs fod yn hygyrch ac wedi’u harfogi i ddarparu ar gyfer anghenion rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o rwydwaith teulu’r plentyn yn ogystal â phlant a phobl ifanc. Wrth wneud hynny, roedd rhanddeiliaid yr ymgynghoriad yn awgrymu y dylai SSFAs ganolbwyntio ar wella perthnasoedd cyn, yn ystod ac ar ôl gwahanu. Argymhellodd y rhanddeiliaid hefyd y dylid sicrhau bod ceisio cymorth gyda pherthynas yn dod yn beth normal, boed hynny’n gymorth i aros gyda’i gilydd neu i wahanu mewn modd cyfeillgar. Er hyn, canfu’r adroddiad y gallai fod angen cymorth ar rai rhieni i ddod o hyd i a chael gafael ar gymorth gwasanaethau. Felly, mae angen darparu gwasanaethau o bell ac wyneb yn wyneb a lle bo angen cymorth ar rai rhieni neu aelodau teulu.

Roedd yr adroddiad yn amlinellu tri senario ar gyfer datblygu SSFAs sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan amrywio o ddim cost ychwanegol, ychydig o adnoddau ychwanegol i adnoddau sylweddol a pharhaus. Ar y lefel dim cost ychwanegol, mae’r adroddiad yn dangos sut y gellid cynnwys yr SSFA o fewn y ddarpariaeth bresennol, sef y Gronfa Gynghori Sengl, sy’n cael ei darparu yng Nghymru ar hyn o bryd gan Cyngor ar Bopeth. Mae’r ddarpariaeth hon yn gweithredu fel siop un stop sy’n cysylltu pobl â’r gwasanaeth mwyaf priodol mewn modd amserol. Ymhellach at hyn, mae’r opsiwn yma’n darparu gwasanaeth o bell ac wyneb yn wyneb. Er hyn, byddai angen ymestyn y cynnig presennol i gynnwys cyfryngu, canolfannau cyswllt, adnoddau eraill nad ydynt yn seiliedig ar y llysoedd yn ogystal â rhaglenni cymorth i deuluoedd a rhianta. Roedd y senario ar gyfer ychydig o adnoddau ychwanegol yn cynnwys gosod yr SSFA o fewn chwaer gangen Cafcass Cymru. Mae’r opsiwn yma’n cyd-fynd â’r Rhaglen Trefniadau Plant (CAP) sy’n pwysleisio bod yn rhaid i’r llys a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyfiawnder teuluol ystyried Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod ym mhob cam o’r broses. Caiff Cafcass Cymru ei ddisgrifio fel sefydliad cyfeillgar i blant sydd eisoes â gwybodaeth berthnasol am ba wasanaethau cyfryngu a theulu sydd ar gael i rieni sy’n gwahanu. Mae’r adroddiad yn amlinellu creu cangen ar wahân, neu chwaer gangen, i Cafcass Cymru i sicrhau gwahaniaethu rhwng y teuluoedd hynny yr ymchwilir iddynt a’r rhai sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau. Yn olaf, ar gyfer y senario sy’n gofyn am adnoddau sylweddol a pharhaus, mae’r adroddiad yn cyfeirio at Relationships Scotland sy’n dwyn ynghyd y ddarpariaeth cwnsela, cyfryngu, a darparu canolfannau cyswllt o dan un sefydliad ymbarél. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r potensial ar gyfer rhywbeth tebyg yng Nghymru, o dan y teitl dros dro, ‘Perthnasoedd Cymru’; platfform ar-lein gyda llinell gymorth ffôn sy’n cyd-fynd â’r polisi a’r ddarpariaeth bresennol o dan y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r ymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Byddai cronfa o adnoddau ar gael ar blatfform o’r fath, gan gynnwys cymorth i deuluoedd, rhaglenni rhianta, cyfryngu, canolfannau cyswllt a dulliau eraill nad ydynt yn ymwneud â’r llysoedd. Wrth wneud hynny, mae’r adroddiad yn datgan y byddai teuluoedd yn cael mynediad at amrywiaeth o gyngor a chymorth gyda rhieni a gofalwyr yn cael eu grymuso i gael gafael ar gymorth priodol naill ai drwy’r llinell gymorth bwrpasol neu drwy asesiad ar-lein.

Mae’r adroddiad hwn yn amserol iawn yng ngoleuni’r cynnydd yn nifer y rhieni sy’n gwahanu a’r anghytundebau rhwng rhieni ers Covid-19. Daw’r adroddiad i’r casgliad bod effeithiolrwydd y tair senario yn seiliedig ar yr angen i sefydlu a normaleiddio cymorth perthynas sy’n hygyrch a fforddiadwy. Ymhellach, mae’n dangos mai dim ond pan fydd rhieni a gofalwyr yn derbyn ac yn ymgysylltu â chymorth perthynas y caiff hyn ei weld fel dewis amgen hyfyw yn lle mynd drwy’r llysoedd.

Developing a Supporting Separating Families Alliance: a scoping study – August 2020 Report