Pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yw’r rheiny sy’n byw mewn gofal maeth, gofal carennydd neu mewn cartrefi i blant wrth dyfu i fyny, a chan hynny, gallan nhw fod yn fwy tebygol o brofi ynysigrwydd cymdeithasol pan fyddan nhw’n oedolion.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, bydd gwirfoddolwyr yn croesawu grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar Ddydd Nadolig i fwynhau hwyl yr ŵyl! Mae’r gwirfoddolwyr, a adwaenir fel ‘gwesteiwyr’, sy’n meddu ar wybodaeth am anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn gweithio yn CASCADE a chyda sawl elusen, gan gynnwys Voices from Care Cymru a NYAS Cymru. Mae gan rai o’r gwesteiwyr brofiad o ofal maeth neu ofal preswyl ac maent yn deall pa mor anodd y gall tymor yr ŵyl fod. 

Mae’r cinio a’r gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan giniawau tebyg mewn amrywiaeth o ddinasoedd yn Lloegr. Dechreuwyd y mudiad gan y bardd enwog Lemn Sissay, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei brofiadau ei hun o dyfu i fyny mewn gofal. Cinio Nadolig Caerdydd yw’r unig ddigwyddiad tebyg sy’n cael ei gynnal yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r adborth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Cysylltodd rhai o’r bobl ifanc yn ddiweddarach i ddweud beth roedd y diwrnod wedi’i olygu iddyn nhw:

“Roedden ni am anfon y diolch mwyaf erioed i’r tîm am y digwyddiad ddydd Nadolig. Roedd y teimlad o gael ein cynnwys drwy gydol y dydd bron yn drech na ni ac roedden ni am wneud rhywbeth i fynegi ein diolch am y llwyth amlwg o waith a wnaed i sicrhau ei fod yn digwydd. Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi treulio sawl Nadolig mewn llefydd gwahanol gyda phobl wahanol, ac er ein bod bob amser mor ddiolchgar, mae teimlad wastad ein bod yn ymyrryd. Dydd Nadolig 2022 oedd y tro cyntaf i ni beidio â theimlo hynny. Roedd cael digwyddiad yn benodol ar gyfer unigolion yn ein sefyllfa ni, gyda phobl mewn sefyllfa debyg o’n cwmpas, yn deimlad cynnes ac anhygoel; am unwaith doedden ni ddim yn teimlo fel yr ‘add-on’; roedden ni’n teimlo ein bod ni’n rhan lawn o rywbeth, a’n bod yn perthyn. O’r anrhegion a’r bwyd, i’r sgyrsiau a’r gweithgareddau, y chwerthin, y caredigrwydd a’r cynhesrwydd a ddaeth gyda phawb yn y tîm, roedden ni eisiau dweud diolch o galon, am bopeth.”

Bydd pobl â phrofiad ofal, a fyddai fel arall yn treulio Dydd Nadolig ar eu pen eu hunain ac sydd o fewn radiws o 30 milltir o Gaerdydd, unwaith eto yn cael gwahoddiad, a bydd trafnidiaeth yn cael ei darparu ar eu cyfer. Byddan nhw’n derbyn anrhegion, cinio a diwrnod yn llawn gweithgareddau hwyliog.

Os hoffech chi gyfrannu, ewch i’n tudalen Just Giving.

Byddwn ni’n cynnal digwyddiad codi arian ac ymwybyddiaeth ar 4 Rhagfyr. Bydd cacennau ar werth, raffl a pherfformiad gan Gôr Voices from Care Cymru!

Maen nhw hefyd yn chwilio am anrhegion ac addurniadau o safon uchel ar gyfer y digwyddiad. Gall unrhyw un sy’n dymuno helpu, neu gyfeirio ymadawyr gofal at hyn, e-bostio thecardiffchristmasdinner@gmail.com

Os hoffech chi brynu anrheg, gallwch chi wneud hynny drwy ein Wishlist ar Amazon a’n Wishlist John Lewis.