gan Dawn Pickering

Cafodd y llyfr stori â lluniau hwn ei greu yn sgil astudiaeth ymchwil a ymchwiliodd i’r effeithiau y mae defnyddio Innowalk yn eu cael ar les plant anabl. Dyfais robotig yw Innowalk (Made for Movement, 2023) sy’n cefnogi pobl sydd ddim yn gallu cerdded i sefyll yn unionsyth a symud, drwy seiclo eu coesau’n oddefol. Yn ôl pob sôn, mae gan Innowalk fuddion iechyd sy’n gwella ansawdd bywyd (Lauruschkus et al 2022; Schmidt-Lucke, 2019). Cafodd y llyfr stori hwn ei ysgrifennu i fod yn allbwn ymchwil hygyrch i’r cyfranogwyr allu adrodd straeon ynghylch eu lles, sef rhywbeth rydyn ni’n gwybod ei fod yn amrywio (Pickering 2023a a b). Cafodd yr astudiaeth wreiddiol ei hariannu gan Gymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig, lle y gwnaeth arsylwadau, dyddiaduron a data cyfweliadau ysgogi’r straeon hyn. Mae’r adroddiad ar gael yma.

Roedd Ymddiriedolaeth Elusennol Baily Thomas wedi cefnogi cynhyrchu’r llyfr. Cafodd y darlunydd Alison Howard ei chomisiynu i wneud y gwaith hwn.

Cafodd nifer gyfyngedig o lyfrau eu hargraffu at ddefnydd y cyfranogwyr – os hoffech chi gael copi am ddim o’r llyfr, e-bostiwch: dawnpickering@live.co.uk. Hefyd, mae modd ei lawrlwytho yma https://orca.caerdydd.ac.uk/id/eprint/170633/. I gefnogi’r plant hynny nad oedden nhw’n gallu darllen, mae fersiwn sain o’r llyfr wedi’i recordio.

Yn gyffredinol, dangosodd yr astudiaeth Lles (WEBS) hon fod Innowalk yn cael effeithiau ar les gan ei fod yn gyfforddus i’w ddefnyddio, yn creu tawelwch amlwg, yn ysgogi creadigrwydd i ddatblygu, yn hwyluso ymgysylltu gyda phobl neu yn ystod gweithgareddau, ar yr amod bod gan y plant ddigon o egni i gymryd rhan. Ni ddisgrifiodd y cyfranogwyr eu hunain fod y profiad o ddefnyddio Innowalk yn un pleserus, ond roedd wedi dod â llawenydd i’r rhieni a’r staff. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â:

Dr Dawn M Pickering, Darllenydd mewn Anabledd yn ystod Plentyndod, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd

E-bost: pickeringdm@caerdydd.ac.uk

X (Twitter gynt): @DawnMPickering

Gallai fod diddordeb gennych chi hefyd yn y blogiau hyn am fy ymchwil flaenorol i weithgareddau hamdden sy’n hygyrch i blant a phobl ifanc anabl a’r astudiaeth ‘VOCAL’.

Cyfeirnodau:

Lauruschkus K et al 2022 Dynamic Standing exercise in a Novel Assistive Device Compared with Standard Care for Children with Cerebral Palsy Who Are Non-Ambulant, with Regard to Quality of Life and Cost-Effectiveness. Disabilities 2022, 2,73–85. https://doi.org/10.3390/disabilities2010006

Made for Movement, 2023 https://www.madeformovement.com/innowalk [Cyrchwyd 22.9.23]

Pickering DM, Gill P a Reagon C 2023a The use of creative case studies to explore non-verbal and non-ambulant children and young people’s well-being. Physiotherapy online:

https://authors.elsevier.com/sd/article/S0031-9406(23)00076-7

Pickering DM, Gill P a Reagon C 2023b A kaleidoscope of well-being to authentically represent the voices of children and young people with complex cerebral palsy: a case study series. Disability and Rehabilitation ar-lein https://www.tandfonline.com/eprint/CWZNSAXMCIAQNQKREMJD/full?target=10.1080/09638288.2023.2194680 Schmidt-Lucke et al. 2019 Effect of assisted walking-movement in patients with genetic and acquired neuromuscular disorders with the motorised Innowalk device: an international case study meta-analysis PeerJ Cyf. 7 Tudalennau e7098