Mae Cynadleddau ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

Drwy ein cynadleddau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ledled Cymru. Gan ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, gyda’n gilydd rydym yn dysgu ac yn cynghori ar ymchwil, gan effeithio ar bolisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau’n cyfoethogi sgiliau tra’n blaenoriaethu profiad pobl â phrofiad o ofal.

Edrychwch ar ein cynhadledd ddiweddaraf

CASCADE: Dathlu 10 Mlynedd

CASCADE: Dathlu 10 Mlynedd

Gor 10, 2024

Yn ystod 2024, mae CASCADE yn falch iawn o fod yn dathlu degawd o effaith drawsnewidiol ar ofal cymdeithasol plant. Mae ein taith ddeng mlynedd yn llawn astudiaethau arloesol a chyfraniadau sylweddol at bolisi ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol…