1 – 24 Tachwedd 2023

Cynhelir y gyfres hon o gynadleddau drwy gydol mis Tachwedd 2023. Rydym wedi dod ag amrywiaeth o siaradwyr ac ymchwilwyr ynghyd i ystyried materion iechyd meddwl drwy gydol cwrs bywyd, gan gynnwys plant a phobl hŷn. Y nod yw dod ag iechyd meddwl i’r amlwg, gwrando ar brofiadau pobl er mwyn lleihau stigma a gwella gwasanaethau.

Mae’r gynhadledd yn cyd-fynd â datblygu strategaeth iechyd meddwl genedlaethol newydd ddeng mlynedd Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi casglu ystod o adnoddau i’w dosbarthu yn ystod y gyfres gynadleddau, fydd ar gael yn ddiweddarach ar ein gwefan. Mae’r adnoddau’n cynnwys barddoniaeth greadigol gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac sydd wedi wynebu heriau iechyd meddwl.

Rhagymadrodd – Professor Alisoun Milne

1st November 2023

Gweminarau ar y gweill:

Ailddysgu ein Lles Meddyliol – a Ffyrdd o’i Gefnogi

Yr Athro Peter Beresford

9th November 12:00 – 1:00pm

Yr Athro Peter Beresford yn trafod sut y gallwn ailfeddwl ein dealltwriaeth o les meddwl a thrallod a ffyrdd defnyddiol o fynd i’r afael â’r anawsterau a allai fod gennym, a sut y gall profiadau yn ystod plentyndod ein siapio fel oedolyn.

Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal: Tystiolaeth adolygu systematig

Dr Rhiannon Evans, DECIPHer

15th November 4:00 – 5:00pm

Dr Rhiannon Evans, Darllenydd yn DECIPHer, yn trafod canfyddiadau’r adolygiad systematig o’r rhaglen ymchwil Ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (CHIMES)

Cynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a lleihau unigrwydd: gwersi o dreialon ymyrraeth ar gyfer ymarfer a gwaith ymchwil

Athro Martin Webber

21st November 12:00 – 1:00pm

Yr Athro Martin Webber (Prifysgol Efrog) yn trafod canfyddiadau dau dreial. Gwerthuso canlyniadau hyfforddiant cyswllt cymdeithasol ar gyfer pobl â seicosis ac ymchwilio i effaith Llywwyr Cymdeithasol ar unigrwydd i pobl ag iselder.

Edrych ar anghenion rhamantus fel rhan o ymarfer gofal cymdeithasol iechyd meddwl

Dr Jeremy Dixon

22nd November 12:30 – 1:30pm

Dr Jeremy Dixon (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno ei astudiaeth a ganfu fod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu rhwystrau amrywiol wrth ffurfio a chynnal perthnasoedd rhamantus, gan gynnwys stigma, sgil-effeithiau triniaeth, diweithdra, bregusrwydd, a risgiau. Anaml y bydd gweithwyr proffesiynol yn eu cefnogi yn y maes hwn gan deimlo’n anesmwyth ynghylch trafod agosatrwydd rhywiol.

Cyflwyniadau Fideo

Gofal iechyd meddwl argyfwng i blant a phobl ifanc

Ben Hannigan

Bethan Carter

Bethan Carter, Cydymaith Ymchwil – Prifysgol Caerdydd, yn trafod Prosiect ReThink – prosiect sy’n cael ei redeg ar y cyd ag Adoption UK a Coram Voice i ymchwilio pa brosesau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sut maen nhw’n ymdopi mewn dau gyfnod pontio allweddol mewn bywyd.

Edrych ar anghenion rhamantus fel rhan o ymarfer gofal cymdeithasol lechyd meddwl – Rhagflas

Dr Jeremy Dixon

Dr Jeremy Dixon (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno ei astudiaeth a ganfu fod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu rhwystrau amrywiol wrth ffurfio a chynnal perthnasoedd rhamantus, gan gynnwys stigma, sgil-effeithiau triniaeth, diweithdra, bregusrwydd, a risgiau. Anaml y bydd gweithwyr proffesiynol yn eu cefnogi yn y maes hwn gan deimlo’n anesmwyth ynghylch trafod agosatrwydd rhywiol.

(astudiaeth MENLOC)

Ben Hannigan

Cyflwyniad ar astudiaeth MENLOC, yn ymwneud â gofal diwedd oes ar gyfer y rhai sy’n dioddef o broblemau meddyliol difrifol, sydd hefyd â diagnosis ychwanegol o ganser datblygedig nad oes modd ei wella a/neu fethiant organau mawr terfynol, ac sy’n debygol o farw o fewn y 12 mis nesaf.

Blogiau

Blogiau: Ar y Daith

Cefnogi iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

Cefnogi iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

exchangewalesTach 8, 20234 min read

Mae’n bosibl y bydd plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal yn profi mwy o broblemau gyda’u…

Creadigol:

Fel rhan o’i thraethawd hir: “Falling between gaps? A case study analysis of partnership working to support the mental health of children in care”, comisiynodd un o’n myfyrwyr PhD, Bridget Handley, bedair cerdd yn 2022. Mae’r cerddi hyn yn edrych ar y realiti dyddiol a’r strategaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac fe’u hysgrifennwyd gan ddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol gan gyfranogwyr ymchwil PhD Bridget Handley. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar deithiau iechyd meddwl pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n byw yng Nghymru.

Mae’r adnoddau hyn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg a gellir eu defnyddio i hwyluso trafodaeth ymhlith pobl ifanc ac ymarferwyr mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys ysgolion, teuluoedd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector.
Mae’n gyffrous cael dangos y cerddi anhygoel hyn yn ystod ein cynadleddau bob dydd Iau am 4 p.m, yn Gymraeg a Saesneg.

__

Mae Cradle yn brosiect sy’n pontio’r cenedlaethau a ddatblygwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith plant oed ysgol a chefnogi a gwella bywydau’r rhai sy’n byw gyda’r afiechyd trwy ganu ac ymgysylltu cymunedol. Mae Côr Cradle yn cyfarfod yn wythnosol am sesiynau awr o hyd, sy’n cynnig cyfle i’r aelodau gymdeithasu a gweithio ar ganeuon o amrywiol genres gan gynnwys gwerin, emynau, cerddoriaeth boblogaidd a mwy.

Gydag o ddeutu 48,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, mae codi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r clefyd hwn ym mhob cenhedlaeth o fewn cymdeithas. Mae Cradle yn cynnig cyfres o weithdai wedi’u teilwra i blant oed ysgol i’w cyflwyno i ddementia ac yn ei dro helpu i wella empathi a dealltwriaeth o brofiad byw y rhai sydd â’r clefyd. Mae rhai o’r gweithdai’n cynnwys treulio amser gyda thrigolion lleol sy’n byw gyda dementia yn ogystal â datblygu sgiliau ysgrifennu caneuon a pherfformio gyda hwyluswyr WNO.

Gwyliwch y fideos hyn gan WNO i ddysgu mwy am y fenter:

Côr Cysur | WNO | Cradle Choir

Adnoddau:

purple and white abstract painting

Mental Health in Later Life, taking a lifecourse approach – published in 2020 by Policy Press 

Sign up on website to get 25% discount

map

Family Carers and Caring, what it’s all about, co-written with Mary Larkin – published in October 2023 by Emerald

get 30% off if you order by e-mail via booksales@emerald.com quote code EME30.

blue white and red abstract painting

Crisis care for children and young people

CAMH-Crisis2 is an NIHR research funded study exploring mental health crisis services for children and young people up to 25 years in England & Wales. 

blue white and pink abstract painting

Models of mental health problems: a quasi-systematic review of theoretical approaches

brown and white chocolate cake

Tackling social inequalities to reduce mental health problems – Report

black and white abstract painting

Wolfson Centre for Young People’s Mental Health

We are a dedicated interdisciplinary research centre focusing on reducing anxiety and depression in young people.

blue and white abstract painting

New study shows rise in emotional problems in young people across generations

blue fluid painting

CADR – Who Are We?

A snap shot about the work we do at CADR and the importance of having involvement and engagement from members of the public in all aspects of research

a close up of a purple and white abstract painting

Knowledge is Power booklets written by people with dementia for people with dementia

red, blue, and white abstract painting

Evidence based resources for people living with dementia and their carers

blue and black abstract painting

ReThink mental health in care leavers

yellow, white, and blue abstract painting

Young people seeking help in mental health crisis

yellow, white, and blue abstract painting

Pobl ifanc yn ceisio cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl

white and gray abstract painting

CADR – Publications

purple black and white abstract painting

Pocket Medic – Dementia training films for carers

blue and yellow abstract artwork

Pocket Medic – Wellbeing

blue and black abstract painting

Standing Together Cymru: supporting the mental health and wellbeing of older people through maintaining community connections

blue and white abstract painting

A Straight Talking Introduction To Emotional Wellbeing: From Mental Illness To Mad Studies – Book

blue and pin abstract painting

Strategic mental health workforce plan

a pink and blue background with a lot of bubbles

Welcome to Careersville

pink and green abstract art

Careersville – Mental Health

Cyflwyniad Cloi

Julian John, Cyfarwyddwr Cyswllt Mind Cymru

24th November 2023, 15:30

an aerial view of a snow covered mountain range

Gallwch wylio gweminarau blaenorol ExChange ar iechyd meddwl yma: