Dyma’r ail weminar yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd

Dr Rhiannon Evans , DECIPHer

Amser: 16:00-17:00 GMT+1

Dyddiad: 15/11/23

Lleoliad: ZOOM, Ar-lein

Crynodeb

Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn bryder mawr o hyd. Hyd yma, nid yw wedi bod yn glir pa raglenni a allai fynd i’r afael â’r deilliannau hyn yn effeithiol, neu atal hunanladdiad, yn y DU. Gwnaethom gynnal adolygiad systematig o’r dystiolaeth ryngwladol er mwyn deall pa raglenni sy’n gweithio, sut maen nhw’n gweithio, a’r heriau posibl rhag gallu sicrhau gwasanaethau ac ennyn diddordeb yn y rhain. Gwnaethom nodi cyfanswm o 64 o raglenni ar draws 124 o astudiaethau. Yn UDA oedd y rhan fwyaf o’r rhaglenni, a chawsant eu gwerthuso yno.

Ar y cyfan, dangosodd y rhaglenni rai effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn y tymor byrrach, ond nid yn y tymor hwy. Nid oedd digon o ddata ar les a hunanladdiad. Roedd y rhwystrau rhag cyflawni yn cynnwys: diffyg adnoddau; yr ymdrech ynghlwm wrth ddarparu a chyfranogi; perthnasoedd rhyngbroffesiynol anodd; a rhaglenni nad oedd yn ymatebol i anghenion gofalwyr na phobl ifanc. Gwnaethom gynnal saith ymgynghoriad â rhanddeiliaid gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i fyfyrio ar ganfyddiadau’r adolygiad. Roeddent yn argymell y dylai rhaglenni yn y dyfodol ganolbwyntio ar ddarparu mentora gan unigolion eraill sydd â phrofiad o ofal a chefnogi newidiadau yn y system drwy gyflwyno modelau ymarfer sydd wedi’u llywio gan ymlyniad a/neu drawma. Ar ben hyn, dylai rhaglenni anelu at hyrwyddo lles ac atal deilliannau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad.

Bywgraffiad

Darllenydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd yng nghanolfan ymchwil DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd yw Dr Rhiannon Evans. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddulliau o ddatblygu a gwerthuso rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn rhaglenni i gefnogi iechyd meddwl a lles, ac atal hunanladdiad, ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.