Dyma’r bedwaredd weminar yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd

Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerfaddon

Amser: 12:30 – 13:30

Dyddiad: 22/11/23

LLleoliad: ZOOM, Ar-lein

Crynodeb

Ystyrir y gallu i greu perthnasau cryf yn hollbwysig i adfer iechyd meddwl. Prin iawn yw’r astudiaethau sydd wedi ymchwilio i brofiadau pobl â phroblemau iechyd meddwl wrth greu neu gynnal perthynas rhamantus. Aeth yr astudiaeth hon i’r afael â’r bwlch hwn drwy gynnal grwpiau ffocws gyda deg o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, sef chwe gofalwr a chwe gweithiwr proffesiynol. Ym marn pob un o’r tri grŵp a gymerodd rhan yn yr astudiaeth, mae perthnasau rhamantus yn agweddau pwysig ar eu lles, ac roedden nhw’n difaru’r diffyg hwn ym mywydau pobl ag anawsterau iechyd meddwl.
Ym marn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr roedd natur gorfforol a’r rhwystrau allanol ynghlwm wrth ‘fod â salwch meddwl’, gan gynnwys sgîl-effeithiau triniaeth a diweithdra, yn effeithio’n negyddol ar berthnasau rhamantus. Roedd defnyddwyr gwasanaethau yn sôn am y stigma yn ei gylch, yn bersonol ac yn gymdeithasol, a bod hyn yn rhwystr sylweddol o ran creu perthnasau. Ffocws y gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol oedd bregusrwydd a’r risgiau. Ym marn y gweithwyr proffesiynol, anaml y byddan nhw’n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl o ran eu perthnasau rhamantus, ac roedden nhw’n anniddig am drafod agosrwydd rhywiol.

Bywgraffiad

Uwch-ddarlithydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerfaddon yw Dr Jeremy Dixon. Ymunodd â Phrifysgol Caerfaddon yn 2012 ar ôl gweithio am dair blynedd cyn hynny yn uwch-ddarlithydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Daeth Jeremy yn gymwys yn weithiwr cymdeithasol ym 1998 gan weithio mewn ystod eang o wasanaethau iechyd meddwl mewn sectorau statudol a gwirfoddol. Roedd hyn yn cynnwys gwaith mewn timau iechyd meddwl yn y gymuned, timau cyffuriau ac alcohol, a lleoliadau iechyd meddwl fforensig. Mae ganddo sawl diddordeb ymchwil. Ymhlith y rhain y mae:

  • Barn pobl ag anawsterau iechyd meddwl am eu gofal iechyd meddwl eu hunain
  • Barn gofalwyr tuag at ofal iechyd meddwl
  • Y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn dehongli’r gyfraith a byd polisïau.

Jeremy yw llywydd Pwyllgor Ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol ar Gymdeithaseg Iechyd Meddwl a Salwch. Ef hefyd yw cyd-gyfarwyddwr Canolfan Marwolaeth a Chymdeithas Prifysgol Caerfaddon, aelod o fwrdd y cyfnodolyn Health, Risk & Society ac is-gadeirydd Pwyllgor Moeseg Gofal Cymdeithasol yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.