Cydlynir y prosiect gan Bridget Handley

I lywio’r gynhadledd trawsnewidiadau, bu plant a phobl ifanc yn gweithio gyda’r awdur a’r perfformiwr o Gymru, Clare E. Potter i archwilio eu profiadau o drawsnewidiadau yn greadigol. Mae eu trafodaethau, eu hysgrifennu a’u gwaith celf wedi rhoi tystiolaeth rymus fod trawsnewidiadau yn gyfnodau cymhleth, hanfodol o newid. Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn ysbrydoli ac yn hysbysu.

Cyflwyniad i drawsnewidiadau

Mae’r fideo hwn, sy’n cynnwys y bardd Claire Potter, yn rhoi cyflwyniad pwerus i’r pwnc trawsnewidiadau. 

Roedd y tŷ crwn arfordirol yng Nghanolfan yr Urdd, Gwersyll Llangrannog, yn lleoliad ysgogol i archwilio trawsnewidiadau gyda phlant 7-11 oed sydd â phrofiad o ofal, a wnaeth fwynhau cynllun chwarae’r haf a drefnwyd gan Gydlynydd Prosiect Ceredigion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal. Hwylusodd Clare ddiwrnod ysbrydoledig a oedd yn llawn barddoniaeth, gair llafar a chelf. Roedd trawsnewidiadau yn cael eu hystyried yn gyfleoedd a chafodd y themâu pŵer, perthnasoedd a chariad lawer o sylw.  Wrth baratoi ar gyfer trawsnewidiadau, awgrymodd y plant, ‘Nid dim ond hedfan i ffwrdd maen nhw, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu i hedfan.’

Golygfeydd arfordirol, Gwersyll Llangrannog

Helpodd grŵp o bobl ifanc sy’n ymwneud â Lleisiau Caerfyrddin i gwmpasu’r prosiect hwn trwy dynnu sylw at sut y gall trawsnewidiadau mewn ysgolion a theuluoedd effeithio ar iechyd meddwl. Fe rybuddion nhw, ‘Yn ystod y trawsnewidiadau mae’r rhai sy’n gweiddi fwyaf ac yn digio yn cael ymateb, ond os ydych chi’n dawel, yn swil, yn amyneddgar, rydych chi’n cael eich anwybyddu.’  Bu’r bobl ifanc hefyd yn trafod pwysigrwydd cefnogaeth emosiynol yn ystod trawsnewidiadau i helpu unigolion i symud o ‘Oroesi i ffynnu.’ 

Nododd pobl ifanc sy’n gysylltiedig â Llamau ystod o drawsnewidiadau a oedd yn cwmpasu steiliau, perthnasoedd a lleoedd. Ysgrifennodd un o’u beirdd talentog, ‘Daw haul ar fryn bob amser, gydag unrhyw broblem sydd gennych chi, a gallwch chi bob amser wneud i’r haul ‘na dywynnu’n ddisgleiriach drwy gredu ynoch chi’ch hun.’

Mae’r prosiect hwn wedi atgyfnerthu pwysigrwydd treulio amser yn gwrando ar blant a phobl ifanc.  Mae eu barn graff wedi llywio’r Gynhadledd Trawsnewidiadau a chynnig mewnbwn ysbrydoledig sy’n ein hatgoffa o bwysigrwydd cefnogaeth hyblyg wedi’i phersonoleiddio.  Rydym yn ddiolchgar iawn i’r plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran, Clare am ddarparu’r ysbrydoliaeth a Diana Lewes-Gale, Sian Jones ac Annie Galt a gydlynodd y gwaith grŵp.

Barddoniaeth

Mae’r lluniau hyn yn tynnu sylw at y broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r farddoniaeth:

  • Dwi’n mynd trwy eiriau ac yn gweld a ydw i’n eu hoffi nhw ai peidio – Alexis
  • Adenydd, hedfan, gwynt, llong ofod, cymylau, draig, nygets cyw iâr gyda jet-pac, Superman, siocled yn hedfan i mewn i ‘ngheg i, colomen gyda jet-pac
  • Mae’r dolur yn arnofio y tu mewn i’m corff
  • Calon. A oes plu ar y galon? Weithiau mae fy nghalon yn hedfan i ffwrdd, pan fyddaf yn hoffi rhywbeth yn fawr iawn, wedi dotio arno.
  • Cerdd Actostig. Ydw i wedi dod o hyd i’r ateb? Mae emeraldiau yn disgleirio gyda ‘nghalon i, a dwi byth yn methu â chofio bod fy nghalon i’n hedfan ar draws wyneb y ddaear.
  • Fy ngolygfa drawsnewid. Fy newidiadau yr hoffwn eu newid, fel fy ofn o’r tywyllwch? Neu falle’r pryfed cop ‘na a phobl newydd yn fy nghartref. Ond rydw i bob amser yn ddewr a byddaf yn treio eto ac eto. Goresgyn ofn.
  • O’r golau i’r tywyllwch. Dwi ddim yn hoffi’r tywyllwch. Beth sy’n llechu yn y tywyllwch? Mae’r lleuad yn tywynnu’n llachar yn fy ffenest.
  • Symud tŷ. Rwy’n poeni am symud tŷ, beth os nad oes ystafell neis i ni? Dwi mor gyffrous i symud oherwydd bod fy nheulu gyda fi. Byddan nhw’n fy amddiffyn ac yn fy ngharu i.
  • Mae’r galon yn arnofio y tu mewn i’m corff. Ond pan ddaw fy nheimladau, mae fy nghalon yn dechrau crio ac yna daw fy hapusrwydd â llawenydd!
  • O’r Haf i’r Gaeaf, o’r golau i’r tywyllwch.
  • Fy newidiadau yr hoffwn eu newid, fel fy ofn o’r tywyllwch? Neu falle’r pryfed cop ‘na a phobl newydd yn fy nghartref. Ond rydw i bob amser yn ddewr a byddaf yn treio eto ac eto.
  • Cariad
  • Ti yw’r positif newydd
  • Weithiau mae fy nghalon yn hedfan i ffwrdd pan fyddaf yn hoffi rhywbeth yn fawr iawn, wedi dotio arno.
  • Byddwch yn driw i chi’ch hun.
  • Calon. A oes plu ar y galon? Weithiau mae fy nghalon yn hedfan i ffwrdd, pan fyddaf yn hoffi rhywbeth yn fawr iawn, wedi dotio arno. Adenydd y galon, beth sydd ddim gan galonnau, mae gan galonnau gariad. Calon ag adenydd, sut gall hyn fod? Ydych chi’n golygu’r corff neu’r emoji ar emojis, mae ‘na galon, mae’r galon yn arnofio y tu mewn i’m corff, ond pan ddaw fy nheimladau, mae fy nghalon yn dechrau crio, ond yna daw fy hapusrwydd â llawenydd – Mae fy nghalon yn gwneud cariad. Mae calon dda yn rhoi adenydd cryf i chi.
  • Does dim rhaid i chi fod yn fawr i fod yn bwerus, does dim rhaid i chi fod yn fach i fod yn ofnus. Gallwch chi fod yn beth bynnag rydych chi eisiau bod, cyn belled â’ch bod chi’n ymladd drosto – Alexis
  • Dwi’n mynd trwy eiriau ac yn gweld a ydw i’n eu hoffi nhw ai peidio – Alexis
  • Dydyn nhw ddim jyst yn hedfan i ffwrdd. Mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu i hedfan – Naisy

Ydw, dwi’n teimlo’n well o lawer yn y gofod dwi ynddo. Wedi colli sawl gwaith felly dwi’n hapus pan dwi’n ennill. Rwy’n fod dynol felly mae’r geiriau a ddwedoch yn effeithio arnaf fi. Yn chwarae ar fy meddwl ac, yn breifat, yn fy nghynhyrfu. Does dim ots gen i rhagor. Yn y lleoedd hyn, rwy’n ofni mwy a mwy. Rwy’n defnyddio’r galar i adeiladu’r gred ‘mod i’n enillydd bob dydd felly dydw i ddim yn ofni mwyach. Dwi am ddangos y gorau i chi nes eich bod chi wedi cael llond bol ohono. Goresgyn cymaint pan mae pethau ar eu gwaethaf. Nid Ysbryd Glân yw hwn achos dwi ‘di bod arno fe bob dydd a dwi ‘di ei ysgrifennu ym mhob ffordd. Credwch chi fi, dwi’n mynd i bartïo pan fydd hyn drosodd. Dim car achos dwi’n symud gyda chauffeur. Amser wir yw’r peth gorau. I iacháu gyda fy llwyddiant fy hun. Tan mai fi yw’r gorau. A phan fyddaf yn datgelu nesaf.

Perygl, dicter. Mae un ohonom ni newydd golli i’n methiant. Gallaf daeru mai cân drist arall yw hon. Dwedwch wrthyf ai dyma sut rydyn ni i fod? Felly dwi’n dweud y weddi hon. O Dduw, pam roedd angen yr holl feddyginiaeth yma arnaf i reoli fy nicter? Ac wyt ti hyd yn oed yn bodoli? Maen nhw’n treio dweud mai myth wyt ti. Llawer o bethau ar ôl i’w darllen. Llawer o bethau heb eu dweud. Alli di reidio gyda fi? Pen yn ff*cd. A’r atsain yma o ble y des i. Gorfod mynd trwy’r c!?*u i’m cadw i ysgrifennu. Felly mae’n debyg taw hwn yw fy Titanic, heb neb i gyfarwyddo fy nrafft ohono.

Sain

Recordiodd rhai o’r bobl ifanc eu cerddi.

Dewr

Calonnau’n hedfan

Golau mwy disglair

Fideos

Mae Rhian, Jo-anne a Rowan wedi bod yn archwilio’r pwnc trawsnewidiadau trwy farddoniaeth. 

Gweld mwy o dudalennau ffocws Teulu a Chymuned: