Mae deunyddiau ymarfer Teulu a Chymuned yn cynnwys adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr i gefnogi teuluoedd a chymunedau. Ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar gyngor a gyfrannwyd gan sefydliadau i gynorthwyo pobl yn eu hymarfer, ond rydym wrthi'n chwilio am enghreifftiau o adnoddau a ddefnyddir yn uniongyrchol gyda theuluoedd a chymunedau. Os oes gennych chi ddeunyddiau y gallwch chi eu rhannu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni ar contact@exchangewales.org

  • Gwers Fwyaf y Byd – Cyflwyniad 

    Dolen i wefan ‘Gwers Fwyaf y Byd’ – cynllun mewn partneriaeth â UNICEF ac UNESCO sy’n ceisio addysgu’r Nodau Byd-eang i blant ledled y byd

  • Adnoddau Participation for Protection

    Cynlluniwyd yr adnoddau hyn gan blant (ar y cyd â’r Ganolfan ar gyfer Hawliau Plant) i blant eraill er mwyn helpu i esbonio beth yw trais a sut i geisio cymorth os bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.

  •  Pecyn Cymorth Addysg Hawliau’r Plentyn 

    Mae’r pecyn cymorth hwn sydd ar gyfer llywodraethau, cyrff anllywodraethol ac ymarferwyr hawliau dynol yn diffinio addysg hawliau’r plentyn a dull hawliau’r plentyn. Mae hefyd yn esbonio ym mha gyd-destunau y gellir rhoi addysg hawliau’r plentyn.

  • Llais y Baban: canllawiau arfer gorau ac adduned babanod 

    Wedi’i gydgynhyrchu gan weithgor bywyd byr, ar ran Grŵp Gweithredu a Chynghori Iechyd Meddwl Babanod, sy’n rhan o Fwrdd Rhaglen Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod Llywodraeth yr Alban…

  • Deall a chefnogi iechyd meddwl mewn babandod a phlentyndod cynnar 

    Mae UNICEF UK a Chanolfan Ymchwil i Chwarae mewn Addysg, Datblygiad a Dysgu (PEDAL) Prifysgol Caergrawnt, wedi datblygu adnodd i gefnogi ardaloedd lleol mewn dealltwriaeth a rennir o iechyd meddwl mewn babandod a phlentyndod cynnar…

  • Ymgorffori hawliau plant yn eich lleoliad

    Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ein cynlluniau gwersi Cyfnod Sylfaen, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi creu pecyn gweithgaredd ac adnodd hyfforddi ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar…

  • Offeryn Asesu Cyfranogiad Plant

    Dangosyddion ar gyfer mesur cynnydd o ran hyrwyddo hawl plant a phobl ifanc o dan 18 oed i gymryd rhan mewn materion sy’n peri pryder iddynt. Gan Adran Hawliau Plant ac Adran Ieuenctid Cyngor Ewrop…

  • Pecyn ‘Ffocws ar y Dyfodol’ i Fusnesau

    Pecyn Leicestershire Cares ar gyfer codi ymwybyddiaeth o nam ar y golwg yn y gweithle. Mae’r pecyn yn rhoi manylion am y prosiect cyflogadwyedd, y cyd-destun a’r llwyddiannau. Mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am Arferion Iechyd a Diogelwch, ystyriaethau allweddol i gydweithwyr a rheolwyr, a chyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth…

  • Rhifyn arbennig newydd o gylchgrawn Ffynnu – Arian, arian, arian! 

    Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’.  Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru…

  • Adnoddau barddoniaeth i hwyluso trafodaeth ar iechyd meddwl 

    Mae’r pedair cerdd hyn yn archwilio realiti dyddiol a strategaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae pob cerdd wedi’i hysgrifennu gan ddefnyddio’r dyfyniadau uniongyrchol gan y cyfranogwyr ymchwil a fu’n ymwneud â PhD Bridget Handley sy’n ymchwilio i deithiau iechyd meddwl pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n byw yng Nghymru…