Sut gallwn ni weithio mewn ffordd fwy moesegol gyda phlant a phobl ifanc? ‘Cas Moeseg’
Gall y mater anodd o ‘ganiatâd gwybodus’ fod yn her i’r rheiny yn ein plith sy’n cynnal gwaith ymchwil gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn arbennig o wir mewn amgylchiadau addysgol neu sefydliadol lle gallai pobl ifanc fod heb lawer o brofiad o ddewis peidio cymryd rhan yn y gweithgareddau a roddir iddyn nhw (Renold et al. 2008). Mae’r ‘Cas Moeseg’ yn ymgysylltu â hunanymwybyddiaeth foesegol ymchwilwyr sydd wedi ymrwymo i weithio’n greadigol â phlant a phobl ifanc (Renold 2016; Mannay 2015) ac fe’i datblygwyd fel modd o gynnwys cyfranogwyr mewn trafodaethau ynghylch cydsyniad mewn prosiect ymchwil gyda phobl ifanc mewn amgylchiadau ysgol arbennig.
Mae’r cas, ar un tro yn perthyn i werthwr, yn cynnwys 12 o adrannau bach, a phob un yn cynnwys gwrthrych moesegol wedi’i ddewis yn ofalus. Roedd llawer o chwilfrydedd am y cas mawr, blêr, oedd wedi arwain at drafodaethau ynghylch ystyr y gwrthrychau y tu fewn i bob un o’r adrannau.
Gwnaeth newidydd llais electronig, er enghraifft, ddechrau trafodaethau ynghylch beth fyddai’n digwydd i recordiadau sain, ystyr trawsgrifio, ac ym mha ffordd mae modd diogelu hunaniaethau, a pham y byddai hynny’n bwysig. Yn yr un modd, gwnaeth camera ysgogi trafodaethau am y rheswm pan fy mod yn tynnu lluniau, beth roeddwn i’n gobeithio ei gyfleu, a beth byddwn i ddim yn ei rannu a pham. Gan wisgo mwgwd, roedden ni’n gallu ystyried beth mae’n golygu i fod yn anhysbys, a pham y byddai ymchwilwyr yn teimlo ei fod yn bwysig. Gan ddefnyddio logo Prifysgol Caerdydd, roeddwn i’n gallu trafod y brifysgol, beth yw gwaith ymchwilwyr, a’r rhesymau am wneud gwaith ymchwil a thrafod beth yw prosiect ymchwil. Cafodd pob un o’r gwrthrychau eu defnyddio yn y trafodaethau ynghylch beth mae’n golygu i fod yn anhysbys, rhoi caniatâd a chyfrinachedd, ac os byddai modd i’r bobl ifanc fynd yn ôl ar eu gair, a sut byddai pryder ynghylch eu lles yn arwain at dorri rhwymiad cyfrinachedd.
Roedd un daflen goch ac un daflen werdd ar gael, wedi ei lamineiddio allan o bapur A4 oedd wedi cael eu haddasu gan adnoddau Agenda Wales a’r gweithgaredd ‘Stop, Start Plates. Roedd y bobl ifanc yn gallu cyffwrdd, ysgrifennu neu ddal y papur gwyrdd i fyny i ddangos os oedd y drafodaeth yn symud yn rhy gyflym iddyn nhw, neu eu bod eisiau gwario ychydig mwy o amser ar bwnc penodol, neu gyfrannu yn rhagor. Roedd modd defnyddio’r daflen goch i newid y pwnc ar unwaith, heb fod angen esbonio pam.
Does gen i ddim rhagor o le i drafod yr holl wrthrychau yma, felly rwyf wedi cynnwys amrywiaeth o luniau ohonyn nhw, ac mae croeso i chi gysylltu i ofyn unrhyw gwestiynau neu wneud sylwadau.
Victoria Timperley, Prifysgol Caerdydd
TimperleyV@cardiff.ac.uk
https://www.linkedin.com/in/victoria-timperley-244159328/
Cyfeirnodau
Mannay, D. (2015) Visual, narrative and creative research methods: Application, reflection and ethics. Llundain: Routledge
Renold E., Holland. S., Ross, NJ. ac Hillman, A. 2008. ‘Becoming Particpant: problematizing ‘informed consent’ in participatory research with young people in care. Qualitative Social Work 7 (4): 427-447
Renold, E. 2016 Canllaw i bobl ifanc ynglŷn â phwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol, Prifysgol Caerdydd, Comisiynydd Plant Cymru, NSPCC Cymru,Llywodraeth Cymru, Cymorth i Ferched Cymru.
Rwy’n argymell darllen gwaith gan yr Athro Emma Renold, sy’n cynnwys nifer o ffyrdd i weithio’n greadigol ac yn foesegol gyda phobl ifanc, yn enwedig adnodd gan Agenda Wales oedd wedi ysbrydoli’r syniad am y cas.