Cafodd prosiect RESPECT (Racialised Experiences Project: Education, Children & Trust) ei ariannu gan UKRI a Phrifysgol Gorllewin Lloegr UWE, Bryste, i ymateb i alwadau i ddeall profiadau plant o hiliaeth ac yr effaith ar eu hiechyd meddwl a’u lles.  Gan weithio gyda phlant, rydyn ni wedi cynhyrchu llyfr lluniau i blant ar y cyd o’r enw If Racism Vanished for a Day… mae copi caled ar gael a e-lyfr yn rhad ac am ddim. Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar themâu gan y cyfranogwyr ymchwil gwreiddiol, gyda phob tudalen yn dychmygu sut byddan nhw’n teimlo os nad oedd hiliaeth yn effeithio’n negyddol ar eu bywydau.

Yn gynharach eleni, buon ni’n gweithio gydag AdBlock ym Mryste i osod hysbysfwrdd a gafodd ei greu ar sail un o dudalennau’r llyfr. Cenhadaeth Adblock yw lleihau cysylltiad y rhai sy’n byw mewn dinasoedd i hysbysebion mewn mannau cyhoeddus, gan roi delweddau sy’n dangos undod, cymuned a chysylltiad yn eu lle. Mae’r hysbysfwrdd RESPECT yn denu’r rhai sy’n cerdded heibio i ddychmygu dyfodol heb hiliaeth, ac yn amlygu lleisiau plant mewn man sydd anaml yn clywed eu lleisiau. Cafodd yr hysbysfwrdd ei ddangos mewn ardal dinas fewnol am dri mis, ac yn ystod yr amser yna, gwnaeth nifer o ysgolion yn Ne-orllewin Lloegr ymgymryd â gwersi gwrth-hiliaeth mewn ymateb iddo.

Cafodd y llyfr ei ddosbarthu i lyfrgelloedd ym Mryste ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn mwy na 1000 o ysgolion ar draws y DU, a hefyd mewn rhaglenni addysg athrawon, gwaith cymdeithasol a hyfforddiant i gwnstabliaid heddlu. Mae hefyd ar gael drwy amrywiaeth o asiantaethau cymorth iechyd meddwl gan gynnwys Barnardo’s.

Wrth ymdaflu’n frwd i ehangu profiadau plant i amrywiaeth o bobl, mae’r tîm yn gweithio gyda Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar hyn o bryd, i hysbysu eu rhaglen hyfforddi. Maen nhw hefyd yn gweithio gydag ymddiriedolaethau academïau niferus i ystyried sut mae profiadau plant rhwng 9-11 oed o hiliaeth mewn ysgolion cynradd yn gallu hysbysu ymarfer addysgol a dysgu mewn ysgolion uwchradd.


Luci Gorell Barnes – Artist sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, darlunydd ac ymchwilydd doethurol

https://people.uwe.ac.uk/Person/Luci2Gorellbarnes

www.lucigorellbarnes.co.uk

RESPECT: https://respectprojectbristol.org/

I ddarllen llyfr y plant ar-lein: https://issuu.com/uwebristol/docs/if_racism_vanished_for_a_day

Canllaw i athrawon: https://respectprojectbristol.org/?page_id=187

‘Ble ydych chi’n ei deimlo gryfaf?’ Defnyddio mapio’r corff i ystyried profiadau bywyd o hiliaeth gyda phobl ifanc 10 ac 11 oed’: British Educational Research Journal: Vol 50, No 3 (wiley.com)

Manylion cyswllt: Verity6.Jones@uwe.ac.uk

Gallai fod diddordeb gennych chi hefyd yn y blog cysylltiedig hwn –If Racism Vanished for a Day…’: An illustrated book based on a study of children’s lived experiences of racism