Mynd i’r brifysgol ar ôl bod mewn gofal: Beth sy’n helpu myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal i bontio i addysg uwch?
Mae pobl aml yn credu bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ddim yn mynd i’r brifysgol. Er hynny, er ei fod yn wir bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ddim yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn addysg uwch, mae llawer ohonyn nhw yn mynd i’r brifysgol ac yn llwyddo yn eu hastudiaethau gradd. Diben fy ngwaith ymchwil, a gafodd ei ariannu gan y Society for Research into Higher Education a’i gyhoeddi gan y British Journal of Sociology of Education oedd deall beth sy’n helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i bontio i’r brifysgol ac i gwblhau eu hastudiaethau ar lefel gradd.
Bu fy ngwaith ymchwil yn dangos bod cefnogaeth gan bobl yn eu bywydau sydd yn credu yng ngalluoedd a photensial academaidd pobl ifanc sydd a phrofiad o ofal, yn un o’r pethau oedd yn helpu nhw i bontio i’r brifysgol. Roedd cael oedolyn cefnogol megis athro yn yr ysgol yn rhan bwysig o feithrin hyder yn eu galluoedd academaidd, a theimlad bod pontio i’r brifysgol yn rhywbeth oedd yn bosibl. Roedd hefyd yn bwysig i bobl ifanc gael cysylltiadau ag oedolyn, boed hynny’n weithiwr cymdeithasol, athro, neu rieni eu cariad, a oedd wedi bod i’r brifysgol eu hunain ac yn gallu rhoi cyngor a gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais ac astudio yn y brifysgol. I rai myfyrwyr â phrofiad o ofal, roedd cael pobl yn eu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach a oedd wedi bod i’r brifysgol yn ddylanwad da arnyn nhw i wneud cais i’r brifysgol, ac yn rhoi’r syniad iddyn nhw bod mynd i’r brifysgol yn rhywbeth sy’n bosibl.
Beth mae’r canfyddiadau hyn yn ei ddweud wrthyn ni am fynd i’r brifysgol ar ôl bod mewn gofal? Yn gyntaf, mae’n cadarnhau bod pontio i’r brifysgol yn ddibynnol ar amgylchiadau’r person ifanc yng nghyd-destun cymdeithasol ehangach, gan gynnwys oedolion cefnogol o’u cwmpas, a chysylltiadau â phobl sydd â phrofiad o fod mewn addysg uwch. Mae hyn hefyd yn annog ni i gwestiynu’r syniad bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n dewis mynd i’r brifysgol, yn dangos dyfalbarhad anhygoel neu’n gryf eu cymhelliant. Er bod nodweddion megis dyfalbarhad a chymhelliant yn bwysig, ac yn wir, roedd y myfyrwyr yn fy ngwaith ymchwil yn dangos dyfalbarhad i fynd i’r brifysgol, mae’n hollbwysig osgoi meddwl bod eu llwyddiant yn ganlyniad i nodweddion creiddiol yn unig. Yn lle hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod yr amgylchiadau cymdeithasol ac addysgol ehangach sy’n cefnogi ac yn atal pobl ifanc sydd â phrofiad gofal rhag mynd i’r brifysgol. Pan fyddwn ni’n methu â chydnabod yr amgylchiadau hyn, a rhoi pwyslais ar nodweddion creiddiol yr unigolyn yn unig, rydyn ni mewn perygl o roi bai ac am greu stigma pellach i bobl ifanc, sydd ddim wedi pontio i’r brifysgol eto, na chwblhau eu hastudiaethau. Os ydyn ni am gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, i bontio i’r brifysgol, mae’n rhaid i ni eu hannog i adnabod sut mae nhw’n gweld eu gallu i ddysgu a rhoi cyfleoedd iddyn nhw weld bod y brifysgol yn opsiwn sy’n bosibl iddyn nhw.
Dr Ceryn Evans, Uwch-ddarlithydd Addysg, Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe
Efallai bydd gennych chi ddiddordeb yn y blogiau perthnasol hyn hefyd.
CLASS Cymru: Cefnogi pobl sydd â phrofiad o ofal i gael addysg uwch yng Nghymru
Myfyrio ar Lwybrau i’r Brifysgol o Ofal
Golwg ehangach ar addysg i Blant mewn Gofal
Sut mae pontio yn llywio teithiau addysgol oedolion sy’n gadael gofal?