Anghenion addysgol plant ysgolion cynradd sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (SGOs)
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Lorna Stabler a Daisy Chaudhuri. Mae Lorna yn gymrawd ymchwil yn CASCADE (Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant) ac mae’n arwain astudiaeth newydd sy’n canolbwyntio ar Warcheidiaeth Arbennig. Mae Daisy yn ymgynghorydd ar yr astudiaeth newydd hon. Daw â’i phrofiad fel cyn-athrawes ac fel mabwysiadwr a fagwyd mewn teulu maethu, ac aeth ymlaen i fod yn ofalwr maeth ac yn Warcheidwad Arbennig i dri o blant.
Pan na all plentyn fyw gyda’i riant biolegol, efallai y bydd yn byw gyda rhywun arall yn ei rwydwaith teuluol, gofalwr maeth, neu riant mabwysiedig. Os mai’r cynllun yw i blentyn fyw gyda’i ofalwr maeth neu aelod o’i rwydwaith teulu estynedig nes ei fod yn oedolyn, efallai y bydd ganddo Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig. Dyma orchymyn cyfreithiol sy’n rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r unigolyn y mae’r plentyn yn byw gydag ef/hi.
Pan fydd gan blentyn Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, nid yw’n ‘blentyn sy’n derbyn gofal’. Mae plant sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, er nad ydynt yn blant sy’n derbyn gofal, yn rhannu llawer o’r un nodweddion â’r boblogaeth sy’n derbyn gofal. Bydd rhai yn blant a fu’n derbyn gofal, bydd eraill wedi bod ar gyrion gofal neu’n dod o deuluoedd mewn argyfwng, a bydd llawer wedi profi profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, yn aml yn gysylltiedig â cham-drin neu esgeulustod [1].
Mae’r cod ymarfer ar gyfer Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yng Nghymru (a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) yn amlygu pwysigrwydd deall a chefnogi addysg plant drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol. Mae hyn yn cydnabod y gallai plant gael rwystrau i’w haddysg neu darfu arni oherwydd eu profiadau cynnar.
Ar hyn o bryd, ychydig iawn a wyddom am ddatblygiad a sgiliau addysgol ac anghenion plant â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig. Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gweithio gydag ysgolion cynradd i ddysgu mwy am y ffordd orau o gefnogi plant â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Rydym yn gwahodd plant 4 – 7 oed a’u gwarcheidwaid arbennig i ddod i’r brifysgol i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Gall unrhyw blentyn sydd â Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig yn yr ystod oedran hwn gymryd rhan – nid y rhai lle mae pryderon yn unig.
Bydd athrawon sy’n cyfeirio plant at yr astudiaeth yn cael adroddiad penodol a ysgrifennwyd gan Seicolegydd Addysg a fydd yn rhoi manylion am ymyriadau unigol i gefnogi’r plentyn hwnnw yn y ffordd orau.
Byddem wrth ein bodd petaech yn cymryd rhan. Os ydych yn athro/athrawes plant 4 – 7 oed a bod gennych blentyn yn eich dosbarth sydd â Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, gallwch wneud atgyfeiriad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw siarad â’r gwarcheidwad a chysylltu â SGO@caerdydd.ac.uk i gael pecyn atgyfeirio. Gallwch hefyd gael mynediad at y ffurflenni atgyfeirio a gweld sut brofiad yw ymweld â’r brifysgol.
Dyma gyfle unigryw a allai helpu plant a allai ddisgyn drwy’r rhwyd. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu mwy o ganllawiau i ysgolion ledled Cymru wrth feddwl am y ffordd orau o helpu’r plant hyn i ffynnu.
Lorna Stabler, CASCADE (Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant), Prifysgol Caerdydd stablerl@caerdydd.ac.uk
[1] Llywodraeth Cymru. (2018). Gwarcheidiaeth Arbennig: Cod Ymarfer ar weithredu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig. Ar gael yn: cod-ymarfer-ar-weithredu-swyddogaethau-gwasanaethau-cymdeithasol-mewn-cysylltiad-â-gorchmynion-gwarcheidwad-arbennig.pdf (llyw.cymru)