Deall a chefnogi iechyd meddwl yn ystod babandod a phlentyndod cynnar — pecyn cymorth i gefnogi gweithredu lleol yn y DU
Nod y pecyn cymorth yw:
- Helpu partneriaid o wahanol wasanaethau a phroffesiynau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach a rennir o iechyd meddwl yn ystod plentyndod a phlentyndod cynnar, a’r ffactorau sy’n dylanwadu arno.
- Cefnogi arweinwyr gwasanaethau, comisiynwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau a thimau polisi eraill i ddatblygu ymatebion system gyfan i sicrhau bod babanod a phlant ifanc yn iach yn feddyliol nawr, ac yn cael eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i barhau i fod yn iach yn feddyliol drwy gydol eu bywydau.
- Darparu adnoddau, cyfeirio, a chanllawiau sgwrsio i gefnogi trafodaethau, penderfyniadau a gweithredu lleol adeiladol ynghylch anghenion babanod a phlant ifanc yn eu hardal, a beth arall y gellid ei wneud i ymateb i’r anghenion hyn (gan gynnwys trwy ddatblygu strategaeth ar draws iechyd meddwl, mamolaeth, blynyddoedd cynnar neu Hybiau Teulu a Dechrau am Oes).