Gan weithio gyda rhanddeiliaid, datblygwyd y modiwlau dysgu proffesiynol hyn i gefnogi arfer cyfredol mewn addysg gynnar a gweithredu Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022.
Byddan nhw’n eich helpu i barhau i gryfhau eich arferion wrth gefnogi ein plant ieuengaf yn eu dysgu a’u datblygiad, a’u cefnogi yn eu taith barhaus drwy gydol eu haddysg.
Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i ategu Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Er bod y modiwlau wedi’u datblygu ar sail anghenion ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant 3 i 8 oed, gall yr egwyddorion sydd wrth eu gwraidd fod yr un mor berthnasol ar draws ystod oedran ehangach a chyfnodau datblygu eraill, a, lle y bo’n briodol, gellir eu cymhwyso i ddysgwyr hyd at 16 oed.
Yn dilyn rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith, cafodd defnydd o’r term ‘Cyfnod Sylfaen’ (a ‘chyfnodau allweddol’) ei ddileu o’r cwricwlwm i adlewyrchu continwwm o ddysgu heb gyfnodau.
Roedd ‘Cyfnod Sylfaen’ yn cyfeirio at ‘gwricwlwm’ ac fe’i defnyddiwyd i nodi a thrafod arferion ac addysgeg i blant rhwng 3 ac 8 oed. Rydyn ni bellach yn cyfeirio at yr arfer a’r addysgeg fel ‘dysgu sylfaen’, sef rhan o gwricwlwm 3 i 16 Cymru.
Trwy gydol y modiwlau byddwch chi’n dod o hyd i rai adnoddau, megis astudiaethau achos, a allai gyfeirio at Gyfnod Sylfaen a/neu gyfnodau allweddol. Gan fod y rhain yn adnoddau sydd wedi’u cyhoeddi, ni allwn ni newid y derminoleg ond mae’r arfer a’r addysgeg a ddangoswyd yn parhau i gefnogi Cwricwlwm i Gymru a’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, ac felly rydyn ni wedi eu cadw i atgyfnerthu’r dysgu a ddangosir yn y modiwlau.