Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Gyfnewidfa Cymru. Mae rhestrau o ddigwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Dydd Mawrth, 15 Hydref 2024
09:30 – 16:30 BST
Ar-lein
Cwrs un-dydd
Nod yr hyfforddiant undydd yma yw galluogi staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth gadarn o ADHD, gwerthfawrogiad o’r gwahanol ffyrdd mae’n gallu amlygu ei hun, sy’n effeithio ar asesu a diagnosio plant a phobl ifanc, a hefyd ddealltwriaeth o’r risgiau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag ADHD, a’r angen am ymyriadau meddygol a therapiwtig integredig i wella canlyniadau bywyd. Nod yr hyfforddwr yw bod y cyfranogwyr yn symud i ffwrdd oddi wrth ffocws un lens, a bod y cyfranogwyr yn gweld y plentyn/person ifanc cyfan, er mwyn medru gweithio cystal â phosib gyda gwasanaethau eraill.
Deilliannau Dysgu
- Gwybod beth yw ADHD, gan gynnwys y symptomau mae plant a phobl ifanc yn eu profi
- Bod yn ymwybodol o’r broses o ddiagnosio a rhwydweithiau cefnogi lleol
- Gwerthfawrogi effaith bosibl ADHD ar blant a phobl ifanc
- Byw gydag ADHD – nodi ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADHD
Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?
Staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag ADHD a’u teuluoedd sydd am wella’u sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn cynyddu eu hyder wrth nodi, cysylltu, cefnogi a chyfeirio’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd hynny er mwyn gwella’r deilliannau i deuluoedd.
Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, cysylltwch â training@childreninwales.org.uk i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.