Adnodd newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Mehefin 10, 2024

Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) wedi lansio partneriaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Mae fersiynau Cymraeg newydd o’r pecynnau cymorth Blynyddoedd Cynnar ac Addysgu a Dysgu bellach ar gael drwy Hwb, gan roi cyfle i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar gael mynediad at dystiolaeth sy’n deillio o dros 2,500 o astudiaethau addysg o ansawdd uchel, wedi’u crynhoi i gefnogi penderfyniadau athrawon ac arweinwyr sy’n brin o amser.

Mae lansio’r pecynnau cymorth dwyieithog yn rhan o bartneriaeth i wella’r defnydd o dystiolaeth ar draws y system yng Nghymru er mwyn cefnogi ei strategaeth tegwch addysg.

Gyda’i gilydd, mae’r Pecynnau Cymorth yn cwmpasu 40 o wahanol ddulliau addysgu a dysgu y gallai ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar eu defnyddio. Mae dulliau yn amrywio o adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, i ymyriadau ymddygiad, ac ailadrodd blwyddyn.  Mae pob dull yn cael ei grynhoi o ran:

  • Ei effaith gyfartalog ar gyrhaeddiad
  • Cryfder y dystiolaeth sy’n ei ategu; a’i
  • Gost.

Nid yw’r Pecyn Cymorth yn gwneud honiadau pendant ynghylch yr hyn a fydd yn gweithio i wella canlyniadau mewn ysgolion a lleoliadau. Yn hytrach, mae’n rhoi crynodeb o ganfyddiadau ymchwil academaidd ynghylch pa ddulliau a allai fod yn addawol a pha ddulliau sy’n wynebu’r risg o niweidio canlyniadau plant.  Nod y Pecyn Cymorth yw gwneud tystiolaeth yn hygyrch i athrawon, wedi’i hysgrifennu mewn iaith glir ac yn rhad ac am ddim i bawb ei chyrchu. Er enghraifft, yn hytrach na gorfod darllen 155 o bapurau ymchwil ar gyflwyno adborth mewn ysgolion, gall athrawon gael crynodeb cyflym sy’n rhoi trosolwg gwrthrychol o’r dystiolaeth ac sy’n rhoi mewnwelediadau clir ar sut i gyflawni’r dull gweithredu.

Mae pob maes yn cynnwys adran weithredu sy’n cynnig arweiniad ynghylch realiti ymarferol cyflwyno dull. Nod hyn yw cefnogi arweinwyr ysgolion i roi dulliau newydd ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r adran ‘tu ôl i’r cyfartaledd’ yn trafod effeithiau gwahaniaethol dulliau ar gyfer gwahanol oedrannau neu mewn pynciau gwahanol. Mae hyn yn rhoi mwy o fewnwelediad i ysgolion i naws y dystiolaeth.

Mae darparu’r Pecynnau Cymorth yn ddwyieithog yn eu gwneud yn hygyrch i lawer mwy o athrawon ac arweinwyr. Mae’r canllaw Cymraeg cysylltiedig i’r Pecynnau Cymorth yn rhoi mwy o wybodaeth am sut y gall athrawon ddefnyddio’r adnodd hwn wrth gynllunio yn eu hysgol.

Pecyn cymorth addysgu a dysgu gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol

Pecyn cymorth blynyddoedd cynnar gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol