‘Rhianta Bob Dydd gyda Phrofiad o Ofal’ – astudiaeth newydd sy’n edrych ar arferion magu plant rhieni sydd o gefndir gofal.

Gan Dr Shirley Lewis a Dr Katie Ellis

Nod yr astudiaeth hon yw deall arferion a phrofiadau rhianta bob dydd rhieni sydd o gefndir gofal Daeth i’r amlwg mewn ymchwil flaenorol gyda myfyrwyr prifysgol sydd â phrofiad o ofal fod nifer ohonynt wedi dyheu i fod yn rhieni a bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o ran y math o rieni yr oeddent am fod pan fo hynny’n digwydd. Honnodd un o’r rhai a gymerodd ran, Lydia*: “Rwy’n meddwl mai bod yn fam, a’r fam orau y gallwn fod erioed, yw fy ngalwad mewn bywyd.”

Mae ymchwil eisoes wedi amlygu pwysigrwydd ystyried safbwyntiau rhieni sydd â phrofiad o ofal, ac mae’n dangos bod rhieni sydd â chefndir o ofal yn fwy tebygol o fod â phlant sydd mewn gofal neu wedi’u mabwysiadu1,2. Nod ein prosiect yw ychwanegu at yr ymchwil bwysig hon drwy ddeall safbwyntiau’r rhieni hynny sy’n mynd yn eu blaenau i fagu plant heb fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gobeithiwn y bydd yr astudiaeth hon yn rhannu rhywfaint o’r profiadau cadarnhaol o fagu plant gan y rhai sydd â phrofiad o ofal.

Mae ein hymchwil wedi cael ei ddylanwadu’n gryf gan rieni sy’n dod o gefndir gofal ac mae gennym grŵp llywio sy’n cynnwys rhieni sydd â phrofiad o ofal. Fe chwaraeodd yr ymgyrchydd diweddar, Ian Dickson, a oedd â phrofiad o ofal, ran yng nghamau cynnar cynllun yr ymchwil. Eglurodd:

‘Nid yw fy merch wedi bod o dan ofal. Ni fydd unrhyw un o fy wyrion ychwaith. Rwy’n berson cyffredin a does gen i ddim unrhyw nodweddion arbennig – yn union fel y mwyafrif llethol o bobl sydd â phrofiad o ofal’.

Ian Dickson (arolygydd OFSTED, tad, tad-cu, ymadawr gofal)

Rydym yn gobeithio bydd yr astudiaeth yn cofnodi lleisiau rheini, fel Ian, a aeth ati i fagu plant. Nid ydynt fel arfer wedi’u cynnwys yn yr ystadegau a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio ‘deilliannau’ ymadawyr gofal. Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu ac amrywio’r sylfaen dystiolaeth am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhiant sydd â phrofiad o ofal.

Beth fydd o dan sylw yn yr astudiaeth?

Mae rhieni’n cael eu recriwtio trwy gyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau o rieni sydd â phrofiad o ofal. Rydym yn cynnal cyfweliadau gyda 30 o rieni a allai fod ar unrhyw gam ar eu taith magu plant. Byddwn hefyd yn gwahodd y rhai sy’n cymryd rhan i gyflwyno arteffact sy’n cynrychioli adeg arbennig wrth iddynt fagu eu plant.

Ar ôl y cyfweliadau bydd arolwg ar-lein ar gyfer cynulleidfa ehangach o bobl sydd â phrofiad o ofal. Bydd yr arolwg yn seiliedig ar themâu allweddol a gymerwyd o ganfyddiadau’r cyfweliadau a bydd yn ceisio cyrraedd cynifer o rieni â phosibl.

Tua diwedd yr astudiaeth, byddwn yn cynnal arddangosfa ar-lein i ddangos yr arteffactau dienw a roddwyd gan y rhai a gymerodd ran, ochr yn ochr â dyfyniadau sy’n dangos pam mae’r rhain yn cynrychioli adegau hanfodol wrth iddynt fagu eu plant. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon, ynghyd â gweithgareddau lledaenu arfaethedig eraill gan gynnwys animeiddiad, yn helpu i dynnu sylw at leisiau rhieni sydd â phrofiad o ofal er mwyn cael effaith gadarnhaol o ran newid polisïau ac arferion.

Ariennir yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a’i harwain gan Dr Katie Ellis, Uwch-ddarlithydd Lles Plant ym Mhrifysgol Sheffield. Mae ymchwil Katie yn eirioli dros blant a phobl ifanc sy’n byw y tu allan i amgylchedd teuluol. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd astudiaeth ar brofiadau plant a bontiodd o fod mewn gofal i astudio yn y brifysgol, ac fe lwyddodd yr astudiaeth i ddylanwadu ar newid polisi’r brifysgol.

I gael gwybod rhagor am yr astudiaeth, ewch i’n gwefan:

Rhianta Bob Dydd gyda Phrofiad o Ofal | Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Nyrsio a Bydwreigiaeth | Prifysgol Sheffield

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ebostio:

 k.ellis@sheffield.ac.uk neu SJLewis@sheffield.ac.uk

*I beidio â datgelu pwy yw hi, nid Lydia yw enw iawn y sawl a ddyfynnwyd.

Delwedd gan wayhomestudio ar Freepik

1Roberts, L. (2021). The Children of Looked After Children Outcomes, Experiences and Ensuring Meaningful Support to Young Parents In and Leaving Care., S.l.]: POLICY PRESS.

2Roberts, L., et al. (2017). “Ymadawyr gofal a’u plant sydd wedi’u lleoli i’w mabwysiadu.” Children and Youth Services Review, 79: 355-361


Efallai y bydd hefyd ddiddordeb gennych yn y blogiau cysylltiedig hyn a gyhoeddwyd yn Exchange: Family and Community.

Myfyrio ar Lwybrau i’r Brifysgol o Faes Gofal

Herio stigma, gwahaniaethu a deilliannau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal

Llyfr newydd: Plant y Plant sydd wedi Derbyn Gofal