Herio’r stigma, y gwahaniaethu a’r canlyniadau gwael i rieni ifanc mewn gofal a gadael gofal: #NegeseuoniRieniCorfforaethol
Louise Roberts, Rachael Vaughan, a Dawn Mannay
Yn aml, gall rhieni ifanc mewn gofal ac sy’n gadael gofal deimlo’n ddigymorth wrth drafod yr heriau o ddod yn rhiant. Cynhaliodd Dr Louise Roberts astudiaeth ymchwil pum mlynedd gyda Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Daeth y syniad ar gyfer yr astudiaeth gan Voices from Care Cymru, ac roedd gwrando ar farn a phrofiadau rhieni yn un o flaenoriaethau allweddol yr ymchwil.
Roedd y llyfr a gyhoeddwyd o’r astudiaeth hon yn adlewyrchu profiadau rhieni newydd, ac eraill a oedd yn edrych yn ôl ar eu profiadau o fod yn rhieni. Roedd rhai rhieni a gymerodd ran yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth, ond roedd eraill yn teimlo’n ynysig ac ar eu pennau eu hunain. Roedd rhai rhieni’n byw gyda’u plant, tra bod eraill wedi’u gwahanu oddi wrth eu plant. Ystyriodd y llyfr y cymorth sydd ar gael pan fydd pobl ifanc yn dod yn rhieni ac ar ôl cwblhau’r llyfr roedd Louise am edrych ar ffyrdd o wella systemau cymorth yng Nghymru.
Gwnaeth Louise gais am gyllid gyda’i chydweithwyr Rachael Vaughan a Dawn Mannay, ar gyfer prosiect a oedd yn anelu at herio’r stigma, y gwahaniaethu a chanlyniadau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac sy’n ei adael. Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried a hyrwyddo arferion da i rieni mewn gofal ac sy’n gadael gofal.
Mae’r prosiect wedi datblygu siarter #NegeseuoniRieniCorfforaethol ac allbynnau a digwyddiadau cysylltiedig eraill, gan gynnwys gweminar sy’n canolbwyntio ar Gefnogi Rhieni mewn Gofal ac sy’n Gadael Gofal a gynhelir ym mis Tachwedd 2021.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am y prosiect a’i allbynnau a’i ddigwyddiadau ar y tudalennau gwe pwrpasol hyn Cefnogi Rhieni mewn Gofal ac sy’n Gadael Gofal: #NegeseuoniRieniCorfforaethol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y blogiau cysylltiedig hyn hefyd.