Gan: Gillian Ruch

British Journal of Social Work

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon?

Mae’r papur hwn yn ystyried sut y gall rheolwyr ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd ddefnyddio dulliau rheoli myfyriol sy’n seiliedig ar berthynas. Mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio cysyniadau seicodynamig, tra’n cydnabod cyd-destun y gwaith, sy’n ‘ysgogi risg, ansicrwydd a phryder’ (t. 1316). 

Sut buon nhw’n astudio hyn?

Mae’r papur yn rhoi trafodaeth gysyniadol ar reoli ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd. Nid yw’n defnyddio un darn penodol o waith empirig; yn hytrach, mae’r awdur yn rhoi disgrifiad arbenigol yn seiliedig ar ei phrofiad, a’i diddordebau ymchwil ac addysgu mewn perthynas ag arferion sy’n seiliedig ar berthynas ac ymarfer myfyriol. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Mae’r papur yn dadlau bod syniadau o faes Rheolaeth Gyhoeddus Newydd, sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a materion economaidd, wedi cael eu cyflwyno mewn modd nad yw’n fuddiol i waith cymdeithasol, fel ffordd o reoli risg ac ansicrwydd. Dywedir bod Rheolaeth Gyhoeddus Newydd yn pwysleisio gwybyddiaeth, rhesymoledd, a rhagweladwyedd, gan roi llai o sylw i’r agweddau emosiynol a gwrthresymegol ar feddyliau ac ymddygiadau pobl. Mae hyn yn ôl pob golwg yn arwain at y gred y gellid diddymu risg i blant pe bai gennym y prosesau a’r gweithdrefnau cywir ar waith. Pe bai gweithwyr cymdeithasol yn gwneud pethau’n iawn, byddai’r plant yn cael eu cadw’n ddiogel. O’r safbwynt hwn, y flaenoriaeth i reolwyr yw sicrhau bod gweithwyr yn cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau. Mae hyn, felly, wedi arwain at gynnydd mewn gwaith archwilio, sicrhau bod popeth yn cael ei ysgrifennu mewn nodiadau achos, a mesur allbynnau (e.e., faint o asesiadau a gwblhawyd mewn da bryd y mis hwn?) mewn awdurdodau lleol, yn hytrach na chanlyniadau (e.e. faint o deuluoedd a gafodd gymorth y mis hwn?). Mae’r dull hwn yn anwybyddu realiti blêr ac emosiynol y gwaith yn y byd go iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom yn lle hynny yw dealltwriaeth wybodus o sut a pham y mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd gwrthresymegol, fel y’u gelwir, ac i gydnabod arwyddocâd yr agweddau ymwybodol ac anymwybodol ar waith cymdeithasol. 

Beth yw’r goblygiadau?

Mae’r papur yn cynnig math gwahanol o fodel rheoli yn seiliedig ar alluoedd myfyriol ac arferion sy’n seiliedig ar berthynas. Yr her i reolwyr yw darparu ar gyfer agweddau technegol a pherthynol eu rôl, a hynny heb adael i’r naill ddominyddu’r llall. Gall rheolwyr gyflawni hyn drwy barhau i fod yn gyfarwydd â’r cymhlethdodau sy’n rhan annatod o ymarfer, a thrwy sylwi sut mae deinameg berthynol rhwng gweithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau yn cael ei hadlewyrchu o fewn y berthynas rhwng rheolwyr a gweithwyr. Mae angen i reolwyr hefyd roi cyfleoedd i fyfyrio, er enghraifft drwy oruchwyliaeth, lle gall gweithwyr feddwl am effaith emosiynol y gwaith a myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain. Yn yr un modd, mae angen i reolwyr eu hunain gael mynediad at gyfleoedd o’r fath hefyd. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins