Y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) gyhoeddodd y neges hon yn wreiddiol.

Roedd ein cyfarwyddwr Auriol Miller ar fwrdd cynghori ymchwiliad y Sefydliad Iechyd (The Health Foundation) i effeithiau COVID-19 Canfu yr adroddiad, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2021:

Mae effaith anwastad COVID-19 yn gysylltiedig â phroblemau iechyd ac achosion o anghydraddoldeb sy’n bodoli eisoes ac sy’n cael eu gwaethygu oherwydd amodau byw.


Roedd anghydraddoldeb daearyddol yn golygu bod y rheiny o dan 65 oed yn y 10% o’r ardaloedd tlotaf yn Lloegr bron pedair gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19 na’r rheiny yn rhannau cyfoethocaf y wlad. Fodd bynnag, roedd rhai grwpiau, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, carcharorion, hefyd yn fwy tebygol o gael y salwch.


Cafodd canlyniadau’r argyfwng ariannol effaith ar allu’r DU i ymateb i’r heriau yn sgil argyfwng y coronafeirws.
Roedd camau gweithredu gan y llywodraeth, megis cefnogaeth wrth hunanynysu neu gyfyngiadau o ran mynediad at wasanaethau, yn effeithiol wrth unioni neu waethygu effeithiau’r argyfwng: mae’n rhaid i unrhyw strategaeth adfer fynd i’r afael ag achosion gwreiddiol anghydraddoldeb yn wyneb y feirws, a bydd angen camau gweithredu trawslywodraethol.


Gallwch chi wylio’r gweminar yn cael ei lansio yma.