Pandemig y Coronafeirws (COVID-19): Pobl Ifanc sy’n gadael gofal ac ymarferwyr yn rhannu eu profiadau a gwersi ar gyfer y dyfodol

Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnod clo dilynol wedi cael effaith fawr yn fyd-eang, gydag effaith anghymesur ar y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn y gymdeithas. Cynlluniwyd yr astudiaeth ymchwil i gyfrannu at y sail o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn edrych ar gyflenwi a derbyn gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod. 

Cyllidwyd yr astudiaeth ymchwil gan Voices from Care Cymru a CASCADE: y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Roedd yn cynnig llwyfan i farn 21 o bobl ifanc oedd â phrofiad o ofal a gyflwynodd adroddiadau byw a manwl o’u profiadau yn y cyfnod clo. Roedd cynnwys arolwg proffesiynol gyda 23 o gyfranogwyr yn golygu bod modd rhoi ystyriaeth i fentrau lleol, oedd yn gefndir gwerthfawr ar gyfer dadansoddi adroddiadau’r bobl ifanc. Mae’r astudiaeth felly’n cynnwys gwersi pwysig i lunwyr polisïau, rheolwyr gofal cymdeithasol ac ymarferwyr rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal a grwpiau bregus eraill. 

Yn galonogol, datgelodd yr astudiaeth ymdrechion cadarnhaol i addasu i’r amodau gwaith digynsail. Roedd yn werth nodi bod y gweithwyr proffesiynol a ymatebodd i’n harolwg yn gadarnhaol am y cymorth roedden nhw wedi’i roi i’r rheini oedd yn gadael gofal. Roedd ymdrechion i gynnal cyfathrebu gyda phobl ifanc, brwydro unigedd, ynysu a diflastod, yn ogystal â sicrhau mynediad at adnoddau yn arwydd o arfer da. Fodd bynnag, nodwyd bod yr ymdrechion i ymateb i anghenion pobl ifanc yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg cyllid ychwanegol. 

Weithiau roedd safbwyntiau pobl ifanc yn cyferbynnu’n llwyr â safbwyntiau gweithwyr proffesiynol a cheir pryderon o hyd o ran cydraddoldeb y gefnogaeth o fewn ac ar draws ardaloedd, a’r cydweddu rhwng anghenion cymorth a’r ddarpariaeth sydd ar gael. Nid oedd ein canfyddiadau’n awgrymu yr ymgynghorwyd â phobl ifanc a’u cynnwys mewn penderfyniadau am ffyrdd newydd o weithio, ac roedd y pwyslais i’w weld ar anghenion argyfwng brys a thymor byr, yn hytrach na chynllunio trawsnewid neu ymagwedd yn seiliedig ar hawliau. Pryder penodol oedd adroddiadau gan bobl ifanc oedd yn bryderus am ddarpariaethau sylfaenol, byw mewn llety amhriodol a cheisio delio â diffyg cymorth ar gyfer iechyd meddwl. 

Ond er gwaethaf yr ystyriaethau hyn, roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyswllt gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal proffesiynol gan nodi bod hyn yn hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, fel y dangosir yn y gerdd hon gan un o’r bobl ifanc â phrofiad o ofal oedd yn rhan o’r astudiaeth: 

Times have changed, time is passing, 
But our need for you to care is not lapsing, 
We may whinge and shout and say we don’t want, 
But we do, we really want you to. 
We are isolated, changed and really not sure, 
We need that face, the one we say we dislike 
we need those texts that we never reply to, 
We need the language that you share, they hey, 
`how are you doing, I am still here’, 
This is the real language that cares, the language we need, 
The language which shows us not everything has changed, 
The language that comforts us, like a weird aunt would send 
Which would make us cringe, and smile, 
A smile which means something hasn’t changed 
-the language you use to show us you care. 

Hefyd gallwch wylio ffilm Care Leavers and Coronavirus am y canfyddiadau allweddol: 

Byddem ni’n falch i glywed gennych gydag unrhyw adborth, sylwadau neu awgrymiadau: 

Louise Roberts, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd RobertsL18@caerdydd.ac.uk @DrLouiseRoberts 

Cyfeirnodau 

Roberts, L., Rees, A., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C., Mannay, D. and Vaughan, R. 2020. Young people leaving care, practitioners, and the coronavirus (COVID 19) pandemic: experiences, support, and lessons for the future. Cardiff: Cardiff University.

Y Gweinidog yn croesawu’r adroddiad addysg ar gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi derbyn holl argymhellion adroddiad ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i ysgolion.

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau hefyd y caiff £500,000 ei ddarparu tuag at weithredu argymhellion yr adroddiad, fel rhan o’r broses o roi cwricwlwm newydd Cymru ar waith.

Mae’r adroddiad gan Weithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a gadeirir gan yr Athro Charlotte Williams OBE, yn gwneud 51 o argymhellion i gyd.

Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwella adnoddau addysgol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y gweithlu, ac Addysg Gychwynnol Athrawon.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch materion fel cynaliadwyedd a phwysigrwydd gweithredu ar lefel yr ysgol gyfan, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a chymunedau ehangach.

Yn y cwricwlwm newydd, a gaiff ei addysgu i ddysgwyr iau o 2022, bydd hanes Cymru a’r amrywiaeth o’i fewn yn orfodol o fewn y Dyniaethau, un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm. Mae’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig o ran y Dyniaethau, y ‘syniadau mawr’ a’r prif egwyddorion ym mhob Maes yn cyfeirio at ddealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru a’r byd ehangach.

Wrth i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi, dywedodd yr Athro Williams:

“Mae’r gwaith hwn yn ddigynsail, ac mae ei angen yn fawr. Mae’r adolygiad yn torri tir newydd o ran diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.

Mae’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, y ffordd y maen nhw’n ymateb i bryderon yr adroddiad hwn, yn gweithredu arnyn nhw ac yn cynnal y gwaith hwnnw yn hollbwysig i les plant a phobl ifanc yng Nghymru, i les y rheini sydd o gefndiroedd lleiafrifol ac i les cymdeithas yn gyffredinol.

All addysg ynddo’i hun ddim mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy’n cynnal anghydraddoldeb hiliol. Fodd bynnag, gall addysgu fynd gryn ffordd i greu dinasyddion egwyddorol a gwybodus y dyfodol.

Dw i’n hyderus y bydd cynigion yr adroddiad hwn yn galluogi’r gymuned addysg i fynd i’r afael yn fwy systemataidd â’r maes blaenoriaeth hwn ac ymateb iddo gyda’i gilydd.”

Yn ei hymateb i’r adroddiad terfynol, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Williams a’r Gweithgor am yr adroddiad, sy’n drylwyr ac yn dreiddgar, gan gynnig gwirioneddau anghysurus ac argymhellion clir.

Fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, dim ond drwy ddatgelu amrywiol safbwyntiau a chyfraniadau cymunedau lleiafrifoedd ethnig at ddatblygiad Cymru ar hyd ein hanes a hyd heddiw y gallwn gyfoethogi ein cwricwlwm newydd.

Os ydyn ni i gyflawni un o ddibenion craidd ein cwricwlwm newydd, sef datblygu pobl ifanc sy’n “ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd”, rhaid inni sicrhau bod profiadau plant yn cael eu hehangu drwy ddod i gysylltiad â safbwyntiau, themâu a chyfraniadau lleiafrifoedd ethnig.

Dw i wrth fy modd yn cael derbyn holl argymhellion yr adroddiad a rhoi cymorth ariannol i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.

Gan ategu gwaith yr adroddiad addysg, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol yr wythnos nesaf, sef ‘Cymru Wrth-hiliol’, sy’n amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemataidd a chreu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.”

Pobl ifanc sy’n gadael gofal, ymarferwyr a’r pandemig: Profiadau, cefnogaeth a gwersi

Yn 2020, gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) amharu’n sylweddol ar fywyd dyddiol ledled y DU. Rhoddodd Deddf Coronafeirws 2020 bwerau newydd i Lywodraethau datganoledig ar feysydd gan gynnwys iechyd, addysg a chyfiawnder (Sefydliad y Llywodraeth 2020). Cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 23 Mawrth, 2020 bod ‘cyfnod clo’ i ddilyn a chafwyd cyfarwyddebau tebyg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (Sefydliad Llywodraeth 2020).

Mae trafodaethau ar yr ymatebion angenrheidiol i’r pandemig, ynghyd â thrafodaethau am ei effaith, wedi tynnu sylw at bryderon am anghydraddoldebau. Er enghraifft, nododd Golightly a Holloway (2020: 637) fod ‘rhai [unigolion] mewn sefyllfa lawer gwell nag eraill i fynd trwy hyn’ tra bod Blundell et al (2020: 292) yn dadlau na fydd y pandemig ‘yn effeithio ar bawb yn yr un modd… o iechyd i swyddi ac i fywyd teuluol… y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol a statws iechyd hefyd yw’r rhai a allai gael eu taro arwaf.” 

Mae COVID-19 hefyd wedi effeithio ar ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant (Ferguson et al 2020), gan gynnwys cynnal cefnogaeth i grwpiau sy’n agored i niwed ac ymateb i alw cynyddol am iechyd meddwl, trais domestig a gwasanaethau diogelu (Baginsky a Manthorpe 2020 ).

Mae ymchwil newydd yn ceisio deall ymatebion i COVID-19 ac anghenion a phrofiadau unigolion sy’n derbyn ac yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol (Baginsky a Manthorpe 2020; Bhatia 2020; Blake-Holmes 2020; Cook a Zschomler 2020; Dafuleya 2020; Ferguson et al 2020 ; Henrickson 2020; Iyer et al. 2020; Lingam a Sapkal 2020; O’Sullivan et al 2020; Rambaree a Nassen 2020; Sanfelici 2020; Sengupta a Jha 2020; The Fostering Network 2020; Walter-McCabe 2020).  Canolbwyntiodd y prosiect ymchwil hwn yn bennaf ar gyd-destun Cymru a’i nod yw cyfrannu at y dystiolaeth hwn sy’n dod i’r amlwg, gyda ffocws ar anghenion, cefnogaeth a phrofiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol. 

Cyflwr hawliau merched yn y DU

Cipolygon cynnar ar effaith y coronafeirws pandemig ar ferched – Cynllun Rhyngwladol

Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i ledaenu ar draws y byd,
gan gynnwys yr argyfwng iechyd gwaethaf mewn cenhedlaeth. Cafodd ei adnabod gyntaf ym mis Tachwedd 2019, mae bellach yn herio llawer o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, ac Ewrop a Gogledd America yw’r canolbwyntiau cyfredol.

Mae achosion yn cynyddu ymhlith rhai o’r gwledydd tlotaf, lle mae systemau iechyd yn fregus ac mae’r gallu i leddfu’r goblygiadau economaidd a chymdeithasol yn gyfyngedig.

Er bod iechyd plant yn ymddangos fel eu bod yn cael eu heffeithio’n llai uniongyrchol gan y coronafeirws nag oedolion, bydd effaith y pandemig ar blant, a merched yn enwedig, yn barhaus.

Plant dan ofal yng Nghymru

Ar 31 Mawrth 2019, roedd yna 6,845 o blant dan ofal yng Nghymru, cynnydd pellach o 440 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O ganlyniad, mae’r bwlch rhwng y gyfradd o blant dan ofal yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU wedi parhau i ledu.

Yng Nghymru, er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yng nghyfradd y plant sy’n derbyn gofal ers 2014. Drwy ddefnyddio data a gyhoeddwyd, mae’r gyfres hon o friffiadau’n ystyried beth allwn ni ddweud am y ffactorau sy’n sbarduno’r tueddiadau hyn, ac yn diweddaru’r adroddiad cynharach, Dadansoddiad o Ffactorau sy’n Cyfrannu at Gyfraddau Uwch o Ofal yng Nghymru.

  1. Plant dan ofal yng Nghymru: Tueddiadau
  2. Plant dan ofal yng Nghymru: Ffactorau sy’n cyfrannu at gyfraddau amrywiol
  3. Plant dan ofal yng Nghymru: Llifoedd i mewn i ofal ac allan ohono

Ymchwil & adolygiadau ymarfer

Gweld ystod o erthyglau ac adroddiadau ymchwil sy’n canolbwyntio ar y Teulu a’r Gymuned o Gymru ac ar draws y DU ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth ymhellach. Mae’r adran hon yn cynnwys adolygiadau perthnasol o bolisi ac arfer i fesur llwyddiant a meysydd i’w gwella. Yn y dyfodol agos, byddwn hefyd yn cynnwys crynodebau a throsolwg pwnc-benodol i helpu i arwain eich ymchwil. Sylwch fod hawlfraint yn ein hatal rhag cynnal rhai erthyglau cyfnodolion cyhoeddedig ac felly darperir y rhain fel dolenni i wefannau allanol ac efallai y bydd angen trefniant talu neu fynediad arnynt i’w gweld.