Yn ystod y cyfnod clo o ganlyniad i bandemig COVID-19, roedd PlayBoard mewn cysylltiad rheolaidd â phlant, rhieni ac ymarferwyr gofal plant wrth i ni geisio cynnig cefnogaeth ac arweiniad hanfodol. Drwy ryngweithio â nhw, roedd effaith y cyfyngiadau ar iechyd, lles, addysg a datblygiad plant a phobl ifanc yn dod yn fwyfwy amlwg.

Yn seiliedig ar y pryderon hyn, ac er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith y cyfnod clo ar eu bywydau, cychwynnodd PlayBoard brosiect ymchwil ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Ulster ym mis Mehefin 2020 i gyfleu lleisiau plant a phobl ifanc.

Cynhaliwyd ymchwil rhwng mis Mehefin a mis Awst 2020 drwy gyfrwng arolwg ar-lein i’w gwblhau’n benodol gan blant a phobl ifanc eu hunain neu gyda chymorth rhiant/gofalwr. Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil o ran effaith y cyfyngiadau ar chwarae, iechyd meddwl ac addysg plant a phobl ifanc.