Mae’r adroddiad dwyieithog hwn, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024, yn dadansoddi data amseroedd aros pediatrig yng Nghymru rhwng 2016 a 2023, gan ganolbwyntio ar y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bydd gweithredu ar yr argymhellion hyn yn helpu’r gweithlu iechyd plant i ddarparu gofal diogel, amserol ac effeithiol.

Mae’r argymhellion yn ymwneud â phedair thema graidd: ehangu a buddsoddi yn y gweithlu iechyd plant, gwella ansawdd a thryloywder data, lleihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau gofal sy’n briodol i oedran.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r gofynion enfawr ar wasanaethau pediatrig yng Nghymru. Er i ni weld rhywfaint o gynnydd cadarnhaol tua diwedd 2023, mae’r gofynion a’r pwysau presennol ar wasanaethau’n anghynaliadwy. Rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion i roi sylw i’r gofynion presennol ond hefyd leihau gofynion yn y dyfodol.

Dr Nick Wilkinson, Swyddog Cymru

Rhagor o wybodaeth yma